BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Prosiect Brynllech Uchaf

Y broses o fabwysiadu atebion technoleg amaethyddol ar gyfer gwella effeithlonrwydd gwartheg sugno

er herds play a vital role in Welsh agriculture, contributing significantly to our nation's beef production and they have a role to play within habitat management in Wales.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf:
25 Mawrth 2026
Statws:
Cyflawn
Wedi'i ffermio gan:
Rhodri and Claire Jones
Lleoliad:
Brynllech Uchaf, Bala
Sector:
Biff, Defaid

Trosolwg

Mae buchesi sugno yn chwarae rhan hollbwysig yn amaethyddiaeth Cymru, gan gyfrannu’n sylweddol at gynhyrchu cig eidion ein cenedl ac mae ganddyn nhw ran i’w chwarae mewn rheoli cynefinoedd yng Nghymru. Ond mae cynnal buches sugno broffidiol yn gofyn am wella effeithlonrwydd yn gyson. Gyda thechnolegau newydd yn dod i’r amlwg yn gyson er mwyn helpu ffermwyr i gyrraedd y nod hwn, mae’r prosiect hwn yn ceisio arddangos y broses o fabwysiadu technoleg amaethyddol ar fferm Brynllech Uchaf i wella effeithlonrwydd buches y fferm o 35 o wartheg sugno, Gwartheg Duon Cymreig, a buchod sy’n lloia yn y gwanwyn a’r hydref. 

Bu gaeaf 2022–2023 yn heriol i Rhodri a Claire. Collwyd dwy fuwch oherwydd problemau metabolaidd yn ystod cyfnod olaf beichiogrwydd. Ysgogodd hyn y ddau i edrych yn agosach ar iechyd a pherfformiad y gwartheg trwy broffilio metabolaidd yn ogystal â ffyrdd sy’n fwy effeithiol o ran amser wrth fonitro iechyd a maeth y fuches, cyn ac ar ôl lloia.

Er mwyn gwella maeth y gwartheg ymhellach a monitro cyn ac ar ôl lloia, wrth hefyd nodi a mynd i'r afael ag unrhyw faterion afiechyd sylfaenol eraill, ymchwilir i’r defnydd o dechnoleg amaethyddol. Nod y prosiect fydd arddangos y broses feddwl angenrheidiol y tu ôl i gymhwyso atebion technoleg amaethyddol i broblemau ar y fferm a monitro'r arbedion o ran cost llafur o ganlyniad.

Anelir at wella effeithlonrwydd cyffredinol eu menter gwartheg sugno, gan gyfrannu at gyflawni hefyd y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy canlynol:

  • safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel 

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm

Llinell Amser Prosiect Diweddaraf

Rhagfyr 2024

Allbynnau’r system

  • Mae data megis iechyd a ffrwythlondeb yn cael ei fonitro
  • Defnyddiwyd gwybodaeth am gnoi cil a mesurau eraill i fonitro’r newidiadau i’r diet yn y siediau, ac ni welwyd unrhyw broblemau

Adborth y Ffermwr

  • Roedd Rhodri yn ystyried y broses o osod yr offer yn ddigon syml, gyda “chymorth ardderchog” gan y cwmni cyflenwi
  • Mae diffyg signal cludwr ffôn symudol dibynadwy, ynghyd â’r tir garw wedi arwain at golli cysylltiad ar adegau, felly mae Rhodri yn awyddus i archwilio ffyrdd o wella hyn ac osgoi costau misol sim data ar gyfer rhedeg yr uned reoli symudol.

Camau nesaf

  • Comisiynwyd Dyfed Telecom i roi cyngor ynglŷn â sut i oresgyn problemau diffyg signal dibynadwy a rhoddwyd argymhelliad i ymestyn cyswllt band eang o’r tŷ fferm (uchder o 275m / 902 troedfedd) i’r sied wartheg (uchder o 287m / 942 troedfedd) ac i ran uchaf y cae y tu ôl i’r sied (uchder o 334m / 1096 troedfedd), lle byddai’r uned reoli Sensehub yn gallu casglu data o dagiau’r anifeiliaid ar draws y rhan helaeth o’r fferm. Byddai hyn yn sicrhau bod signal yn cyrraedd pob un o’r caeau lle mae’r gwartheg yn pori ac yn y sied, a gwaredu’r angen i dalu am gerdyn sim bob mis. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy;
    • Gladdu oddeutu 400m o biben blastig las 25mm o ddiamedr gan ddefnyddio dull sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar y tir
    • Bwydo oddeutu 400m o gebl ffibr wedi’i derfynu’n barod drwy’r peipiau sydd eisoes wedi’u claddu
    • Gosod trawsnewidyddion ffibr ether-rwyd yn y sied ar ben y bryn i alluogi cyswllt rhyngrwyd ffisegol yn y ddau leoliad
    • Gosod pwynt mynediad WiFi ar do’r sied i ddarparu mynediad WiFi ar rannau gwaelod y fferm sydd mewn mannau heb signal ffôn symudol

Llinellau Amser Prosiect Blaenorol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.