Trosolwg
Mae prosiect grŵp trafod Cymdeithas Glaswelltir Aberteifi a’r Cylch, yn dwyn y teitl “Gwella ffyngau mycorhisol drwy atchwanegiad triagl”. Mae’r prosiect yn defnyddio triagl ar ffurf hylif ar briddoedd glaswelltir ac yn defnyddio profion pridd cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth i fesur newid mewn ffyngau mycorhisol. Mae’r canlyniadau arfaethedig yn cynnwys gwell cynhyrchiant glaswellt a thwf y borfa, gallu gwrthsefyll cyfnodau o sychder yn well, gwell deunydd organig y pridd ac iechyd cyffredinol y pridd a llai o ddibyniaeth ar wrtaith ffosfforws a nitrogen artiffisial.