Prif ganlyniadau
- Magu profiad ymarferol gyda chydamseru heffrod a ffrwythloni artiffisial.
- Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer monitro iechyd a ffrwythlondeb y fuches yn barhaus.
Dangosydd Perfformiad Allweddol | Cornwal Uchaf | Gwneud yn dda | Angen gwella | Adolygu perfformiad |
Oedran lloia am y tro cyntaf | 25 mis | 23-24.5 mis | 24.5-30 mis | 30-36 mis |
Nifer sydd wedi lloia o fewn y 6 wythnos gyntaf | 80 | 85-70% | 70-50% | 50-35% |
Cyfradd gyfnewid y fuches | 20% | 14-16% | 16-19% | 19-22% |
Lloi byw ar ôl 24 awr | 100% | 105-95% | 95-85% | 85-80% |
Lloi a ddiddyfnwyd | 94.2% | 102-94% | 94-84% | 84-80% |
Cefndir
Rhannwyd y fuches sugno Limousin yn ddau grŵp yn ystod yr haf ar fferm Cornwal Uchaf gyda hanner y fuches a phob un o’r heffrod yn rhedeg gyda’r tarw ieuengaf, a’r ail grŵp yn rhedeg gyda tharw hŷn.
Roedd pob un o’r 9 heffer a 50% o’r gwartheg yn wag ar ôl 12-15 wythnos. Mae Dylan a Gwion wedi penderfynu, yn hytrach na gwerthu’r heffrod hyn fel gwartheg stôr, byddant yn gwneud y mwyaf o’r hyn sydd eisoes ar gael ar y fferm ac yn beichiogi’r heffrod hyn drwy gydamseru a ffrwythloni artiffisial, gyda’r gobaith y byddant yn adlinio â chyfnod lloia’r fuches ar gyfer y tymhorau canlynol.
Diben y gwaith
Nod y prosiect yw:
- Canfod unrhyw broblemau iechyd neu broblemau cudd gyda’r tarw neu’r heffrod a fyddai’n golygu eu bod yn wag ar ôl rhedeg gyda tharw am 12-15 wythnos
- Datblygu rhaglen gydamseru i feichiogi’r heffrod ac i ymuno â thymhorau’r fuches sugno sy’n lloia yn y gwanwyn yn y dyfodol
Yr hyn a wnaed
- Yn y lle cyntaf, cafodd gwaed yr heffrod ei brofi i sgrinio ar gyfer clefydau a diffyg mwynau.
- Roedd lefelau copr tair o’r heffrod yn gymharol isel. Nid oedd yr un o’r heffrod yn dangos arwyddion nodweddiadol o ddiffyg copr, sef marc “sbectol” o amgylch y llygaid. Penderfynwyd defnyddio bolws elfennau hybrin yn yr heffrod i ddarparu ychwanegion am 6 mis.
Tabl. 1- Amserlen ar gyfer cydamseru
Protocol PRID- Cornwal Uchaf 2024 | ||
Dyddiad | Amser | Gweithred |
20/02/2024 | 10:00 | Mewnosod y PRID a brechlyn 2ml GnRH (Ovarelin) – chwistrell yn y cyhyr |
26/02/2024 | 10:00 | Brechlyn 2ml Prostaglandin (Estrumate) - chwistrell yn y cyhyr |
27/02/2024 | 10:00 | Tynnu’r PRID |
28/02/2024 | 18:15 | Brechlyn 2ml GnRH (Ovarelin) - chwistrell yn y cyhyr |
29/02/2024 | 12:30 | Ffrwythloni artiffisial |
- Cafodd y gwaith ffrwythloni artiffisial ei wneud gan dechnegydd profiadol.
- Cafodd yr heffrod eu monitro’n ofalus ar ôl ffrwythloniad i gadw golwg am arwyddion o ofyn tarw.
- Cafodd pob un o’r heffrod/gwartheg eu sganio 5+ wythnos ar ôl ffrwythloniad i ganfod y gyfradd feichiogi a llwyddiant y prosiect.
Canlyniadau
- 7 out of 13 heifers conceived after AI, resulting in a 54% conception rate.
- This result is average and is expected after one insemination date on an artificial synchronisation programme.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm
- Dylai’r teirw ddeillio o fuches gyda statws iechyd uchel gyda gwerthoedd bridio tybiedig mamol da.
- Dylai gwartheg fod mewn cyflwr da cyn bridio a dylid gwirio am arwyddion o endometriosis a allai effeithio ar ei ffrwythlondeb.
- Dylai’r heffrod a ddewisir ar gyfer y fuches ddod o’r gwartheg gorau sy’n lloia gynharaf yn y bloc.
- Dylai heffrod fod yn 14-16 mis oed ac yn 55-60% o’u pwysau llawn dwf cyn bridio.
- Dylid ffrwythloni heffrod yn gyntaf er mwyn caniatáu mwy o amser i wella ar ôl lloia.
- Mae cydamseru’r heffrod gan ddefnyddio PRID yn caniatáu ar gyfer cywasgu’r bloc ac yn arbed amser o ran canfod pan fo buwch yn gofyn tarw - fodd bynnag, mae cost ariannol yn gysylltiedig â hyn.
- Dylai’r tarw fod gyda’r fuches am uchafswm o 9 wythnos.
- Bydd sganio’r fuches yn gynt yn caniatáu ar gyfer gwell cywirdeb o ran dyddiad lloia ac er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â difa yn gynt.
Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.