BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

report, Document

Crickie Farm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024

Crickie Farm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024

Cyhoeddwyd gyntaf: 26 Mawrth 2026
Diweddarwyd diwethaf: 26 Mawrth 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 34.79 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Ddiwedd mis Ebrill, cynhaliwyd Cyfarfod Fferm cychwynnol gyda Peter Bone i drafod sefyllfa bresennol y fferm o ran rhoi mwynau i anifeiliaid fel atchwanegiad. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â manylion y fferm, categorïau a niferoedd stoc, defnydd o borthiant a gwrtaith, clefydau a nodwyd ar y fferm a defnydd o frechlynnau ynghyd ag amlygu unrhyw faterion penodol a welwyd dros y blynyddoedd.

Paratowyd cynllun i gynnal archwiliad mwynau llawn a fydd yn cynnwys: 

  • Cymryd samplau o ffynonellau dŵr Ffynnon a Dyfrdwll
  • Cymryd samplau gwaed o 4 anifail ym mhob grŵp da byw (Ŵyn, Mamogiaid, Lloi, Heffrod a Buchod)
  • Samplu ansawdd y porthiant o’r fferm gyfan – gan gynnwys dadansoddiad o’r mwynau yn y caeau pori, silwair a’r gwndwn llysieuol.

Hyd yma, mae’r holl waith samplu porthiant a gwaed ar gyfer tymor pori’r gwanwyn/haf wedi’i gwblhau ac mae’r canlyniadau’n cael eu prosesu. 

Y Camau Nesaf?

Bydd samplau Porthiant a Gwaed yn cael eu cymryd yn yr hydref. 

Lawrlwytho'r ddogfen: 34.79 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.