BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Event

Systemau Dyfrhau: Gweithredu mewn lleoliad garddwriaeth

Ymunwch â ni am sesiwn ddwys ar systemau dyfrhau mewn busnesau garddwriaeth.
Event type:
Dyddiad ac amser:
-
Lleoliad:
Tyddyn Teg

Event overview

Ymunwch â ni am sesiwn ddwys ar systemau dyfrhau mewn busnesau garddwriaeth. Byddwn yn cael ein harwain gan Michael Woolcock o Kiem Water Ltd, sydd â 30 mlynedd o brofiad o ddylunio a gosod systemau dyfrhau. Bydd hon yn sesiwn fwy dwys ar gyfer gerddi marchnad sefydledig a mentrau garddwriaeth sy'n awyddus i wella neu ehangu eu systemau dyfrhau presennol i fodloni anghenion eu cnydau mewn ffordd sy'n ymwybodol o'r amgylchedd.

Canlyniadau dysgu

·         Deall sut i gyfrifo gofynion dyfrhau ardaloedd tyfu.

·         Deall gwahanol opsiynau storio ar gyfer dyfrhau ar y safle, a'r capasiti sydd ei angen.

·         Cael trosolwg o'r mewnbynnau peirianneg sy'n gysylltiedig ag ehangu systemau dyfrhau i fodloni anghenion busnes cynyddol.

·         Deall dyfrdyllau a chynhwysydd gwasgedd, a sut i sicrhau'r pwysau cywir ar gyfer eich system ddyfrhau.

 

Er mwyn mynychu’r digwyddiad hwn, cofrestrwch isod erbyn 5yp ar 6/3/25 neu cysylltwch â horticulture@lantra.co.uk

 

*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Speaker Booking details
Maw, 10 Maw 2026 10yb - 2yp Tyddyn Teg FREE
- Book online

Cyswllt

Enw:
farmingconnect@menterabusnes.co.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh



I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.