Cyflymu Cymru i Fusnesau – E-Gylchlythyr - Chwefror 2017
Cynorthwyo cwsmeriaid i gwympo mewn cariad â’ch brand – nid yn unig ar ddydd Sant Ffolant!
Nid diwrnod i gariadon yn unig yw dydd Sant Ffolant - mae’n gyfle ardderchog i frandiau o bob maint ymgysylltu â’u cwsmeriaid a datblygu perthnasoedd a fydd yn para gydol y flwyddyn. Dylai ymgysylltu â’ch cwsmeriaid fod yn un o’ch prif flaenoriaethau eleni, oherwydd bod gwell ffyddlondeb a chynhaliaeth yn gallu arwain at gynnydd mewn gwerthiant, mwy o elw a thwf busnes cyflymach.
Darllenwch ymlaen i ganfod offer allweddol ac i ddarllen cyngor i gynnal ymgysylltiad â chwsmeriaid.
Mwyafu gwerthiant trwy ddefnyddio ymgyrchoedd marchnata penodol
Darganfuwch ym mha ffordd y gall meddwl yn greadigol gynyddu diddordeb yn eich cynnyrch a’ch gwasanaethau, gwella cysylltiadau cwsmeriaid a chynyddu elw dros ddydd Sant Ffolant.
Darllenwch bedwar darn o gyngor gorau
Pum strategaeth i gynyddu ymgysylltiad â chwsmeriaid
Mae cwsmeriaid sydd wedi’u hymgysylltu yn fwy tebygol o ddatblygu i fod yn brynwyr rheolaidd, i roi adborth defnyddiol ac i ddatblygu i fod yn genhadon brand. Darllenwch 5 strategaeth sydd wedi’u dylunio i wella ymgysylltiad trwy well profiadau gwasanaeth.
Darllen y blog
Ydy eich strategaeth symudol yn gyrru ffyddlondeb brand?
Nid yw defnyddwyr modern byth yn bell oddi wrth eu dyfeisiau. Darllenwch 5 darn o gyngor a fydd yn helpu eich busnes i gymryd mantais o’r cyfle symudol hwn i annog gwell ffyddlondeb brand.
Darllenwch 5 darn o gyngor gorau
Manteisio i’r eithaf ar adborth gan gwsmeriaid
Cynhaliwch a datblygwch eich sylfaen cwsmeriaid trwy gasglu a gweithredu yn unol ag adborth gan gwsmeriaid. Boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, mae adborth gan gwsmeriaid yn darparu mewnwelediad allweddol i chi o ran sut y gallwch wella eich busnes er mwyn cynyddu ymgysylltiad a gwerthiant.
Sut galla i gasglu adborth gan gwsmeriaid?
Ydych chi’n edrych i wella cyfraddau ymateb?
Mae’n bryd buddsoddi mewn datblygu ffyddlondeb eich cwsmeriaid! Gallai rhaglen ffyddlondeb eich cynorthwyo i wella cyfraddau agor a chlicio, gan arwain at gynnydd mewn refeniw o ganlyniad i’ch ymdrechion marchnata.
Infograffeg: Strategaethau sy’n cynyddu ffyddlondeb cwsmeriaid
Gwella eich rheolaeth o ddata cwsmeriaid digidol
Dysgwch sut i warchod data eich cwsmeriaid a defnyddio system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid er mwyn rheoli eich cysylltiadau cwsmeriaid yn well mewn dosbarth meistri Cyflymu Cymru i Fusnesau rhad ac am ddim. Manteisiwch i’r eithaf trwy wella eich gwasanaeth cwsmeriaid!
Cofrestrwch am le nawr