Wrth i ni agosáu at Ddydd San Ffolant, mae’n bryd ymrwymo i’ch cwsmeriaid a chynnal gweithgarwch marchnata digidol ‘calonogol’ yn ystod y gwyliau!

 

Gall cynllunio eich gweithgarwch marchnata digidol cyn Dydd San Ffolant ddarparu cyfleoedd gwych i fod yn greadigol, cynhyrchu ymwybyddiaeth o gynhyrchion neu wasanaethau, a hybu elw ar ôl i sêls mis Ionawr ddod i ben.   

 

Dyma 4 awgrym i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch gweithgarwch marchnata digidol ar gyfer Dydd San Ffolant:

 

Ysbrydolwch eich cwsmeriaid

 

Gallwch hyrwyddo rhai o’ch eitemau Dydd San Ffolant sy’n gwerthu orau trwy droi hafan eich gwefan yn ‘rhestr o ddymuniadau’ hawdd, syml. Gallwch ysbrydoli eich cwsmeriaid i brynu trwy amlygu rhai cynhyrchion y mae llawer o ddiddordeb ynddynt, a chael gwared ar y gwaith o chwilio, cymharu a llywio trwy’r holl eitemau ar eich gwefan. Trwy ddarparu rhestr o 10 prif eitem neu greu grwpiau ‘ysbrydoliaeth’ ar gyfer dynion, menywod, plant, anifeiliaid anwes (a phwy bynnag rydych chi eisiau dangos cariad tuag atynt eleni!), gallwch wneud penderfyniad i brynu yn gynt ac yn haws. Rhowch eich eitemau mwyaf dymunol, priodol i’r gwyliau, mewn man amlwg ar eich hafan, a chyfeirio ymwelwyr i adran wyliau bwrpasol o’ch gwefan, a fydd yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth benodol o gynhyrchion a gwasanaethau sydd ar gael. 

 

Cynhaliwch farchnata trwy e-bost

 

Mae marchnata trwy e-bost yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd o ran marchnata gwyliau. Gall y dull cyfathrebu uniongyrchol hwn eich helpu i dargedu siopwyr ar adegau penodol yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod mawr. Defnyddiwch farchnata trwy e-bost i godi ymwybyddiaeth bod Dydd San Ffolant yn agosáu a rhannu eich canllawiau rhoddion defnyddiol i annog defnyddwyr i brynu cyn gynted ag y bo’r modd. Dylech gynnig galwadau clir i weithredu, a rhoi negeseuon atgoffa ysgafn yn cyfrif i lawr i’r diwrnod. Wrth i’r diwrnod agosáu, achubwch ar y cyfle i atgoffa cwsmeriaid anghofus bod Dydd San Ffolant ar ddigwydd. Os ydych chi’n cynnig gwasanaeth dosbarthu’r diwrnod canlynol, dylech dargedu siopwyr munud olaf a fydd yn ceisio dod o hyd i rodd berffaith a fydd yn cael ei dosbarthu ar amser!

 

Syrthiwch mewn cariad â’ch blog a’ch cyfryngau cymdeithasol

 

Anogwch gwsmeriaid i fod yn greadigol trwy rannu awgrymiadau defnyddiol ac ystyriol am roddion ar eich gwefan neu flog. Gallech chi rannu awgrymiadau da i roi syrpreis i’ch partner, ryseitiau blasus, gemau hwyl Dydd San Ffolant neu gyfarwyddiadau ar gyfer addurniadau cartref, coctels neu bapur lapio. Trwy gynnwys y darllenwr mewn darn o gyngor, gallwch hyrwyddo eich awdurdod ym myd y cariadon a’u hybu nhw i gymryd cipolwg ar beth rydych chi’n ei gynnig! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys galwadau clir i weithredu yn y cynnwys rydych chi’n ei greu i hybu defnyddwyr i brynu. Peidiwch ag anghofio rhannu cynnwys gweledol gwych ar draws eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd Instagram yn arbennig o boblogaidd dros gyfnod San Ffolant. Gwnewch y mwyaf o’r gwyliau hwn trwy roi delweddau lliwgar, thematig a diddorol ar eich cyfryngau cymdeithasol. Peidiwch ag anghofio cynnwys hashnodau perthnasol ac annog eich dilynwyr i rannu eu delweddau a’u fideos eu hunain o’r rhoddion y maen nhw’n eu rhoi a’u derbyn!

 

Cofiwch, mae cariad yn hwyl!

 

Hyd yn oed os nad yw’ch busnes yn ymddangos i ddefnyddwyr yn rhamantus neu’n gysylltiedig â rhoi rhoddion, gallwch wneud y mwyaf ohoni o hyd! Byddwch yn ddyfeisgar a meddyliwch sut y gallwch wneud Dydd San Ffolant yn rhan o’ch gweithgarwch marchnata digidol. Gallech feddwl y tu allan i weithgarwch traddodiadol ac annog pobl sengl i dretio eu hunain, pobl sy’n dwlu ar anifeiliaid i wirioni ar eu hanifeiliaid anwes, neu ddefnyddio dull digrif i ddathlu eich cynhyrchion anrhamantus!

 

A hoffech hybu eich gwerthiannau trwy gydol y flwyddyn?

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen