1. Crynodeb

Mae cyfrifiadura cwmwl yn cynnig y fantais i allu cael mynediad at feddalwedd ac atebion trwy’r rhyngrwyd heb ei pherchnogi. Dyna egwyddor cyfrifiadura cwmwl – ymagwedd newydd at dechnoleg rhyngrwyd ar gyfer busnesau mwy a bach fel ei gilydd.

 

Mae cyfrifiadura cwmwl yn darparu hyblygrwydd, effeithlonrwydd ac arbedion cost i fusnesau. Ar gyfer busnesau llai nad ydynt yn dymuno prynu systemau yn gyfan gwbl, mae’n rhoi mynediad i chi at y dechnoleg a’r cymorth gorau a diweddaraf gyda’r gorbenion rheoli lleiaf ar sail talu wrth ddefnyddio.

 

Galluogwyd cyfrifiadura cwmwl yn sgil dyfodiad Band Eang Cyflym Iawn. Mae’r lled band uchel a alluogir gan dechnoleg ffibr wedi cael gwared ar y rhwystrau a oedd yn golygu yn y gorffennol bod defnyddio gweinyddwyr a gwasanaethau o bell yn anhylaw. Heddiw, fodd bynnag, gallwch integreiddio eich systemau eich hun a’r rheiny sy’n lletya yn y cwmwl bron yn ddi-dor.

 

Ar ddiwedd 2018, rhagamcenir y bydd mwy nag 85% o fusnesau’r DU yn defnyddio o leiaf un math o wasanaeth cwmwl (Ffynhonnell: telegraph.co.uk).

 

2. Pa fanteision allwn i eu disgwyl?

  • Cynhyrchiant gwell: Mae cymwysiadau cwmwl yn galluogi staff oddi ar y safle i ddiweddaru gwybodaeth mewn amser real yn hytrach na gorfod dod yn ôl i’r swyddfa.
     
  • Y gallu i newid mewn maint neu raddfa: Mae meddalwedd a storfa ddata gwmwl yn defnyddio model talu wrth ddefnyddio sy’n cael ei adnabod fel Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) y gellir ei mesur yn hawdd i fodloni anghenion eich busnes ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol.
     
  • Ymateb yn well i’r farchnad: Mae llawer o gymwysiadau SaaS yn integreiddio’n hawdd, gan alluogi i chi ymateb i anghenion y farchnad a gwneud newidiadau’n gyflym a chost effeithiol.
     
  • Cydweithio gwell: Pan gaiff systemau eu cydlynu ar draws y busnes, daw dadansoddi data yn haws a data’r farchnad yn fwy cywir.
     
  • Gwerthiannau cynyddol: Mae strategaeth gydlynol sy’n rhedeg ar draws yr holl gyfryngau marchnata yn ei gwneud yn hawdd i gwsmeriaid eich argymell ac annog twf cyflymach gyflymach.
     
  • Teyrngarwch gwell gan gwsmeriaid: Gallwch gynyddu nifer y cwsmeriaid a gedwir gan ddefnyddio Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a chyfryngau cymdeithasol i feithrin cysylltiadau tymor hir. 
     
  • Gwasanaeth cwsmeriaid gwell: Gallwch hefyd ddefnyddio adroddiadau a dadansoddiad Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid i gynllunio ymgyrchoedd marchnata a chyflwyno cymorth a gwasanaethau gwell i gwsmeriaid.
     
  • Dewisiadau craffach: Mae cyfarfodydd rhithwir, yn hytrach na chyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn eich galluogi i leihau costau i’r eithaf, lleihau’r defnydd o danwydd ac adfer amser a gollir yn teithio.
     
  • Cynnal ac uwchraddio haws: Mae gan ddarparwyr cwmwl gyfrifoldeb llawn am gynnal ac uwchraddio eich meddalwedd yn unol â’r fersiwn ddiweddaraf. Nid oes angen i chi boeni mwyach fod eich meddalwedd wedi dyddio nac am dreulio amser yn gosod diweddariadau.
     

3. Enghraifft go iawn

Mae cwmni cyfreithiol yn Ne Cymru wedi defnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg gwmwl i leihau sefyllfaoedd sy’n achosi straen. Mae NLS Solicitors wedi gwneud technoleg ddigidol yn rhan ganolog o’i gweithrediadau i fwrw ymlaen â nifer gynyddol yr ymholiadau am fewnfudo a dderbyniodd ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. 

 

“Mae unrhyw beth sy’n gallu helpu lleihau’r pwysau yn sgil oedi mewn sefyllfaoedd emosiynol yn hynod fuddiol,” meddai Nicholas Webb, un o bedwar partner sefydlu.

 

Wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r cyfreithwyr, sy’n cynnig cymorth ar gyfer fisâu teuluoedd a cheisiadau am loches, ceisiadau trwydded noddwyr, ac achosion rhyddid i symud yn yr Undeb Ewropeaidd, disgwylir y bydd nifer y bobl sy’n gofyn am gyngor yn cynyddu’n sylweddol.

 

“Gan fod yr ansicrwydd ynglŷn â mewnfudo yn dod yn amlwg, roeddem eisiau defnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg gwmwl i wneud pethau’n haws… Yn aml, mae angen i bobl gael gwybodaeth ar unwaith ac mae angen iddyn nhw deimlo bod eu hachos yn cael ei drin â gofal ac nad yw’n cael ei golli yn y system. Mae ein gallu i leihau gweinyddu, ymateb ar unwaith, a bod yn hygyrch trwy Skype, er enghraifft, wedi helpu’n fawr,” esbonia Webb.

 

 “Mae defnyddio’r cwmwl wedi bod yn hanfodol o ran symud achosion ein cleientiaid yn eu blaenau, a chadw ein costau’n isel. Mae’n hanfodol pan fyddwch chi’n ystyried y buddsoddiad cychwynnol sydd ei angen i agor tair swyddfa a chyflogi 11 o bobl gyda dwy rôl arall i’w llenwi cyn bo hir. Ni fydden ni wedi gallu gwneud hyn heb feddwl yn ddigidol”.

 

4. Beth yw technolegau cwmwl?

Mae’r term "cyfrifiadura cwmwl" ym mhobman. Yn y termau symlaf, mae cyfrifiadura cwmwl yn golygu storio a chael mynediad at ddata a rhaglenni dros y rhyngrwyd yn hytrach nag oddi ar yriant caled eich cyfrifiadur.

 

Pam mae cyfrifiadura cwmwl yn mynd yn fwy poblogaidd?

 

Yn y gorffennol, byddech yn prynu a rhedeg cymwysiadau neu raglenni o feddalwedd wedi’i lawrlwytho ar gyfrifiadur neu weinydd yn eich busnes, ond mae cyfrifiadura cwmwl yn eich galluogi i gael mynediad at yr un mathau o gymwysiadau trwy’r rhyngrwyd.

 

Beth sy’n enghreifftiau o gyfrifiadura cwmwl?

 

Mae cyfrifiadura cwmwl yn golygu defnyddio caledwedd a meddalwedd i gyflwyno gwasanaeth dros rwydwaith (y rhyngrwyd, yn nodweddiadol). Enghraifft o gymhwysiad cyfrifiadura cwmwl yw bancio ar y rhyngrwyd. Nid yw’r cymhwysiad a’r data meddalwedd yn aros yn eich cyfrifiadur ond yn y cwmwl. Mae hyn yn golygu y gellir cael mynediad ato trwy’r rhyngrwyd o unrhyw ddyfais. Ail enghraifft yw negeseuon e-bost fel G-mail, Hotmail neu Yahoo neu mewn termau cyfryngau cymdeithasol, LinkedIn a Facebook. Trydedd enghraifft mewn busnes fyddai storio neu rannu data a dogfennau ar systemau fel Dropbox.

 

5. A oes anfantais i gyfrifiadura cwmwl?

Yn unol ag unrhyw dechnoleg, nid yw’n ateb un math sy’n gweddu i bawb.

 

Ystyriwch y cymhwysiad

 

Bydd rhai pobl yn honni mai cyfrifiadura cwmwl yw’r peth gorau i fusnes bach ers dyfeisio’r staplwr. Nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw anfanteision i gyfrifiadura cwmwl ac y dylai pob busnes bach daflu eu holl weinyddwyr a’u meddalwedd bwrdd gwaith o’r neilltu ar unwaith a chynnal eu holl weithrediadau busnes yn y cwmwl. Fel enghraifft, nid yw cymwysiadau dwys o ran perfformiad fel golygu fideo yn addas ar gyfer y cwmwl, na’r mathau eraill o feddalwedd sydd angen cyfrifiaduron bwrdd gwaith uchel eu perfformiad (fel y rheiny a ddefnyddir ar gyfer dylunio graffeg).

 

Os byddwch chi bob amser ond yn cael mynediad at eich cyfrifon, cyflogres neu’ch cronfa ddata cwsmeriaid o’ch swyddfa, pam byddech chi’n eu rhoi ar y cwmwl? Mewn achosion fel hyn, cymwysiadau ar y gweinydd yw’r ateb gorau o hyd ar gyfer busnesau bach.

 

Dibynnu ar gysylltiad â’r rhyngrwyd

 

Er bod Band Eang Cyflym Iawn yn dod yn fwy dibynadwy yn gynyddol, mae cyfrifiadura cwmwl yn golygu bod eich busnes yn ddibynnol ar ddibynadwyedd eich cysylltiad â’r rhyngrwyd. Pan na fydd ar-lein, nid yw ar-lein, ac er bod cyfradd dibynadwyedd o 99% yn ymddangos yn wych, mae’r 1% gyfwerth â mwy na 3 diwrnod bob blwyddyn oddi ar-lein!

 

Diogeledd

 

Pa mor ddiogel yw eich data? Mae cyfrifiadura cwmwl yn golygu cyfrifiadura rhyngrwyd. Fel rheol syml, ni ddylech ddefnyddio cymwysiadau cyfrifiadura cwmwl sy’n cynnwys defnyddio neu storio data nad ydych yn gyfforddus i’w gael ar y rhyngrwyd.

 

Costau

 

I fod yn siŵr eich bod yn arbed arian, edrychwch yn fanwl ar y cynlluniau a’r manylion prisio ar gyfer pob cymhwysiad, gan ystyried ehangu posibl yn y dyfodol. Yn unol â chynlluniau ffonau symudol, gall contractau gwasanaeth cwmwl ymddangos yn syml, ond cynnwys manylion cymhleth mewn gwirionedd.

 

Cymorth i Gwsmeriaid:

 

Yn nyddiau cynnar cyfrifiadura cwmwl, roedd cymorth gwael i gwsmeriaid yn gŵyn gyson gan ddefnyddwyr. Yn ffodus, mae’r rhan fwyaf o gyflenwyr wedi gwneud cynnydd mawr o ran gwella cymorth technegol dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Os yw anghenion eich busnes mor fawr fod angen ymateb cyflym arnoch i faterion cymorth cwsmeriaid, gwnewch yn siŵr fod gan eich cyflenwr gwasanaethau cwmwl ddigonedd o opsiynau ar gael o ran cymorth technegol, sy’n cynnwys e-bost, ffôn, sgwrsio byw, sylfeini gwybodaeth, a fforymau defnyddwyr. Yn ychwanegol, byddwch yn barod i dalu am lefelau uwch o gymorth, yn enwedig gyda’r nos neu ar benwythnosau (os bydd ei angen arnoch).

 

Argymhelliad

 

Ar gyfer busnesau bach, argymhellir dechrau cyfrifiadura cwmwl yn araf; dewiswch un neu ddau o’ch cymwysiadau busnes i’w disodli a gweld sut mae’n mynd. Pan fyddwch yn gyfforddus ei fod yn dod â manteision, yna gallwch werthuso cymwysiadau a manteision cwmwl.

 

6. Pwyntiau gweithredu a chynghorion a argymhellir

  • Cynlluniwch beth i’w roi yn y cwmwl: Y cwestiwn cyntaf i’w ateb yw, beth ddylai fynd yn y cwmwl? Dylai’r penderfyniad ynglŷn â beth i’w wneud fod yn benderfyniad busnes sy’n edrych ar y manteision gweithredol a fydd yn cronni.
     
  • Gwiriwch gydweddoldeb: Os ydych yn dewis ateb meddalwedd ar-lein, bydd angen i chi fod yn siŵr ei fod yn gydnaws â’r systemau hynny sy’n parhau’n fewnol. Er enghraifft, os yw AD ar gymhwysiad SaaS ond mae’r gyflogres yn aros ar eich cyfrifiaduron eich hun, bydd rhaid i’r ddwy adran gyfathrebu.
     
  • Gwerthuswch eich opsiynau: Wedi i’ch cynllun gael ei roi ar waith, gallwch ddechrau gwerthuso cymwysiadau cwmwl ar gyfer eich busnes. Ystyriwch gostau, wrth gwrs, ond bydd yn allweddol i chi ddewis ateb sy’n mynd i’r afael â’ch anghenion busnes diffiniedig. Mae gwerth yn allweddol.
     
  • Prydeon ynghylch diogeledd: Mewn oes pan fo bygythiadau seiber o faleiswedd (Meddalwedd Wystlo, Feirysau, ac ati) yn gyffredin, mae cael y fersiwn ddiweddaraf o system yn lleihau risg haint yn sylweddol. Mae atebion ar-lein, fel unrhyw rai eraill, yn agored i ymosodiadau seiber – ond mae’n siŵr y bydd eu mesurau diogeledd yn well, ac yn fwy cyfoes na’r rhan fwyaf o fusnesau bach.

7. Gwybodaeth ychwanegol