Ben Cottam

Ben Cottam

Mae Ben yn arwain tîm FSB yng Nghymru ac mae’n cynrychioli 10,000 o aelodau busnes. Y sefydliad yw’r llais amlycaf ar nifer o faterion sy’n gysylltiedig â’r economi gan gynnwys entrepreneuriaeth, hunangyflogaeth, cymorth i fusnesau a thwf a seilwaith.

Yn y rôl hon, mae Ben yn weithgar mewn ystod o drafodaethau ar ddatblygiad economi Cymru ac mae’n wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau. Mae hefyd yn cadeirio ac yn aelod o nifer o fyrddau ledled Cymru gan gynnwys Bwrdd Strategol Busnes Cymru – swyddogaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru, Bwrdd Cynghori Busnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Cyngor Datblygu Economaidd a Grŵp Cynghori Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn.