Mae e-gylchlythyr, neu gylchlythyr e-bost, yn gyhoeddiad electronig sy’n cael ei ddosbarthu’n rheolaidd sydd, yn gyffreidnol, yn ymwneud ag un prif bwnc o ddiddordeb ar gyfer ei danysgrifwyr. Gall cylchlythyr e-bost gwych wneud lles mawr i’ch busnes gan y gall eu cost fod yn gymharol isel ond, os cânt eu cyflwyno’n gywir, gallant helpu i gynyddu arweiniadau, gwerthiannau a chysylltiadau ar gyfer eich busnes.

 

Mae tri rheswm allweddol pam y dylech ystyried cylchlythyr e-bost:

 

  1. Cynhyrchu arweiniadau
  2. Uwch werthu a thraws werthu gwasanaethau a chynhyrchion
  3. Cynyddu gwerth hyd oes cwsmeriaid a datblygu perthnasoedd parhaol

 

Felly, rydych wedi ymroddi i e-gylchlythyr – ond sut ydych yn gwneud iddo sefyll allan?

 

Dyluniad gwych a brandio

 

Mae’n hanfodol bod dyluniad eich e-gylchlythyr yn gynrychiadol o’ch busnes ac yn ddiddorol yn weledol. P’un ai ei fod yn ysgafn, yn ddigrif neu’n ffurfiol, mae’n bwysig bod eich cynulleidfa’n cydnabod bod y neges e-bost wedi dod oddi wrthych chi. Os byddant yn cydnabod, yn ymddiried ac yn disgwyl eich e-bost, bydd yn annog y darllenwyr i’w agor!

 

Ffocws!

 

Heb ffocws, gall eich e-bost fod yn anniben. Yn lle ceisio cyfathrebu pob agwedd ar eich busnes, canolbwyntiwch ar ddarparu rhywbeth cryno a hawdd i’w ddeall i’r darllenwr. Mae posibilrwydd y byddwch yn colli sylw eich darllenwr os byddwch yn ei orlethu â gwybodaeth, felly dewiswch thema, neges neu ddiben allweddol ar gyfer pob e-gylchlythyr.

 

Galwadau clir i weithredu

 

Trwy ganolbwyntio ar un neges glir ar gyfer pob e-gylchlythyr, bydd yn haws i chi ddatblygu galwadau cryf i weithredu. Peidiwch â  pheledu eich darllenwyr â llu o alwadau cryf i weithredu - tynnwch eu sylw ar rai botymau neu ddolenni i gynnwys neu dudalennau gwe perthnasol.  Bydd hyn hefyd yn helpu pan fyddwch yn dadansoddi llwyddiant ymgyrch benodol a pha mor dda y mae eich cynulleidfa wedi ymateb i negeseuon penodol.

 

Llinellau pwnc creadigol

 

Ychydig eiliadau’n unig sydd gennych i dynnu sylw eich darllenwyr, felly gwnewch yn siwr bod eich llinell bwnc yn drawiadol. Er y gall cysondeb fod yn wych ar gyfer adeiladu disgwyliadau cwsmeriaid, gall llinell bwnc ailadroddus fod yn ddiflas ac arwain at gwsmeriaid yn anwybyddu, dileu neu’n tanysgrifio o’ch negeseuon e-bost.   

 

Profi

 

Rydych chi wrthi’n llunio neges e-bost sy’n wych yn eich barn chi, ond nid yw’n derbyn y sylw yr oeddech yn ei ddisgwyl. Beth allwch chi ei wneud? Profi! Nid oes un peth sy’n addas i bawb ar gyfer marchnata trwy e-bost, ac mae profi yn ffordd wych i ddeall rhannau mwyaf a lleiaf effeithiol eich e-gylchlythyr. Gallwch roi cynnig ar gopi, llinellau pwnc, delweddau a lliwiau gwahanol, neu weld a yw eich negeseuon e-bost yn cael mwy o effaith ar ddiwrnodau gwahanol neu adegau gwahanol o’r dydd. Gall newidiadau bach fod yn arwyddocaol, felly dechreuwch yn syml, profwch un elfen ar y tro a gwrandewch ar y canlyniadau!

 

Mae personoli’n bwerus!

 

Mae gan eich darllenwyr enwau ac mae’n bwysig eich bod chi’n cyfeirio atynt fel pobl, nid rhifau ar restr. Yn yr un modd, mae’n allweddol i’ch darllenwyr deimlo cyswllt personol â’ch busnes. Trwy roi ychydig o bersonoliaeth i’ch negeseuon e-bost, gallwch gysylltu â’ch darllenwyr ar lefel bersonol a dechrau datblygu perthnasoedd gwirioneddol, parhaol.

 

P’un ai eich bod chi yn y broses o lunio cylchlythyr neu eisiau rhoi hwb iddo, dylai’r 6 awgrym hyn eich helpu i ddechrau creu e-gylchlythyrau cyffrous ac effeithiol.

 

Os ydych yn chwilio am fwy o gyngor ar wneud y mwyaf o’ch marchnata ar-lein, bwrwch olwg ar y rhestr hawdd hon o awgrymiadau a syniadau!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen