Er eich bod chi o bosibl wedi clywed am y term ‘pob-sianel’, neu ‘omnichannel’, efallai nad ydych yn siŵr sut gall y dull hwn fod o fantais i’ch busnes.

 

Mae’r dull pob-sianel yn ddull traws-sianel o werthu a marchnata. Ei fwriad yw darparu profiad gwbl lyfn, ni waeth sut, pryd a ble maen nhw’n mynd at eich busnes, yn ddigidol ac yn gorfforol. Mae hyn yn wahanol i’r dull aml-sianel, gan fod y dull pob-sianel yn cynnig integreiddio llwyr rhwng pob sianel, felly, er enghraifft, gall aelod o staff mewn siop weld hanes a dewisiadau prynu blaenorol y cwsmer yr un mor gyflym ag aelod o’r tîm ar y gwasanaeth sgwrs fyw ar-lein.

 

Y diwylliant ‘ymlaen bob amser’ a reolir gan alw cwsmeriaid yw’r grym clir y tu ôl i dwf y dull pob-sianel. Mae’r model hwn yn gwerthfawrogi’r manteision y mae’r cwsmer yn eu cael trwy fod mewn cysylltiad cyson â chwmni trwy wahanol sianeli ar yr un pryd.

 

Ynghyd â darparu eich cwsmeriaid â gwasanaeth cwsmeriaid gwych a thaith lyfn tuag at brynu, mae’r dull pob-sianel yn cynnig cyfleoedd gwych i fusnesau yrru ymgysylltu tymor hir â chwsmeriaid er mwyn rhoi hwb i werthiant ac elw. 

 

Sut gall eich busnes fanteisio’n llawn ar y dull pob-sianel?

 

Meddwl am eich busnes fel menter gyfan

 

Y cyngor allweddol a fydd yn sicrhau eich bod yn barod i lwyddo gan ddefnyddio dull pob-sianel fydd gweld eich busnes fel menter gyfan yn hytrach na segmentau gwahanol o sianeli ar-lein a heb fod ar-lein. Os byddwch yn gweld eich busnes fel rhannau heb gysylltiad, ni fydd y dull pob-sianel o fantais i chi. Newid eich ffordd o feddwl bydd y cam cyntaf at ddatblygu eich busnes i fod yn ateb integredig, yn hytrach nag adrannau ar wahân â setiau unigol o gyflenwadau, gweithgareddau, llwyth gwaith a chwsmeriaid.

 

Rhagweld yr heriau (a’r cyfleoedd!)

 

Gyda chymaint o ddata i’w reoli, mae’n annhebygol y bydd dull pob-sianel yn dod heb unrhyw heriau. Mae’n bwysig eich bod yn glir o ran pa gyfryngau cyfathrebu fydd yn cyd-fynd â’ch strategaeth ac yn cynnig y mwyaf o gymorth i’ch cwsmeriaid. Fodd bynnag, nid dyma’r unig her i’w rhagweld. Gall cyflwyno’r dull hwn o fewn eich seilwaith TG presennol gymryd tipyn o amser ac adnoddau i’w wneud yn iawn. Er mwyn manteisio’n llawn ar y dull, mae’n bwysig ystyried yr holl broblemau a chyfleoedd posibl y gallwch eu hwynebu, er mwyn datblygu darlun llawn o sut byddwch yn mabwysiadu dull pob-sianel yn hytrach na chanolbwyntio ar elfen unigol.

 

Mabwysiadu llwyfan canoledig

 

Er mwyn datblygu model pob-sianel effeithiol ac effeithlon, gallwch fabwysiadu llwyfan sy’n dod â’ch holl lwyfannau poblogaidd ynghyd i un ganolfan integredig. Mae nifer o fodeli Llwyfannau-Cyfathrebu-fel-Gwasanaeth a all eich helpu i oresgyn heriau cyflwyno Sul pob-sianel i’ch system TG bresennol. Gall platfform canoledig eich darparu â’r holl offer a chymorth sydd eu hangen arnoch er mwyn deall sut, pryd a ble mae eich cwsmeriaid yn ymgysylltu â’ch busnes, a golwg fanwl o daith gyfan y cwsmer.

 

Y data sy’n bwysig

 

Er bod dull pob-sianel yn gallu golygu llawer o waith i’w osod, byddwch yn dechrau gweld manteision cyn gynted ag y byddwch yn defnyddio’r data sydd ar gael. Mae disgwyliadau cwsmeriaid yn uchel dros ben yn yr oes ddigidol, ac os nad ydych yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych wedi’i deilwra, a thaith esmwyth i gwsmeriaid, byddwch yn colli cyfleoedd hollbwysig i droi prynwyr un tro yn gwsmeriaid sy’n deyrngar i’r cwmni. Bydd defnyddio’r data a gasglwyd o’r dull pob-sianel yn hanfodol er mwyn cyd-fynd â hanes, anghenion a dewisiadau unigol eich cwsmeriaid.

 

Gwnewch eich brand yn unigryw trwy dargedu pob achos o ryngweithio, a byddwch yn gweld enillion o’r buddsoddi trwy gadw mwy o gwsmeriaid, ffigyrau gwerthiant gwell a thwf busnes cyflymach.  

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen