Ar gyfer nifer o fusnesau sy’n gweithio mewn ardaloedd lleol, diwydiannau hirsefydlog, neu’r rheiny sydd newydd ddechrau mewn mannau mwy ‘digidol’, byddan nhw wedi bod yn dibynnu ar, ac yn hybu llawer o’u busnes ar lafar gwlad, fel argymhellion cwsmeriaid, neu gyflwyno ffrindiau neu deulu i’r brand.

 

Felly, sut gallwch chi drosi llwyddiant marchnata traddodiadol ‘ar lafar gwlad’ i’ch presenoldeb digidol?

 

Dyma 5 ffordd y gallwch ddechrau defnyddio marchnata ‘ar lafar gwlad’ ar-lein i hybu mwy o gwsmeriaid.

 

Rhannu adolygiadau a thystebau cwsmeriaid

 

Y ffordd hawsaf i drosi marchnata ar lafar gwlad ar-lein yw trwy gasglu a rhannu adolygiadau, tystebau ac adborth eich cwsmeriaid. Dylai’r rhain fod ar eich gwefan, mewn mannau allweddol lle mae cwsmeriaid posibl yn gwneud penderfyniadau, ac ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook).

 

Dylai’r adolygiadau hyn fod ar gael mewn mannau allweddol lle gallai pobl chwilio am fwy o wybodaeth am eich busnes, a byddent yn gweithredu’n effeithiol fel argymhellion cymhellol gan ystod eang o gwsmeriaid. Mae hyn fel cael ardystiad gan gyfaill, ond ar raddfa lawer yn fwy!

 

Rhowch ddeunydd dilys ar y cyfryngau cymdeithasol

 

Mae dilysrwydd yn allweddol yn y byd ar-lein. Mae pobl eisiau bod yn sicr bod yr argymhellion yn rhai gwirioneddol, yn enwedig os nad ydynt gan rywun y maen nhw’n ei adnabod.

 

Ffordd wych i feithrin yr hyder hwnnw mewn atgyfeiriadau yw rhannu cynnwys gan eich cwsmeriaid gwirioneddol. Os ydych chi’n defnyddio hashnod ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch ei olrhain a rhannu lluniau, blogiau, fideos neu negeseuon cwsmeriaid am eich busnes. Mae hyn yn rhoi elfen ‘wirioneddol’ ychwanegol i argymhelliad ‘digidol’ fel arall.

 

Gofynnwch i’ch cwsmeriaid siarad amdanoch chi

 

Mae busnesau digidol, aflonyddgar, fel Airbnb, yn effeithiol o ran hybu mwy o fusnes trwy atgyfeiriadau ar lafar gwlad, trwy ofyn i’w cwsmeriaid i’w hargymell nhw. Peidiwch â bod yn swil ynghylch gofyn i’ch cwsmeriaid ledaenu’r gair am eich busnes, os ydyn nhw’n meddwl eu bod nhw wedi cael gwasanaeth da.

 

Gallech roi cod atgyfeirio neu ddisgownt i’ch cwsmeriaid sy’n cynnig disgownt iddyn nhw a’r cwsmer newydd am eu ffyddlondeb ac ymddiriedaeth. Atgoffwch gwsmeriaid i adael adolygiad i chi a’ch argymell i ffrindiau trwy’r e-bost unwaith iddyn nhw brynu rhywbeth.

 

Botymau rhannu cymdeithasol ar eich deunydd

 

Gallwch helpu i feithrin eich marchnata ‘ar lafar gwlad’ trwy ei gwneud hi’n hawdd i bobl siarad am eich busnes ar-lein. Ystyriwch gynnwys botymau rhannu cymdeithasol ar eich cynnwys a dolenni i ddilyn ymlaen at ddeunyddiau perthnasol, fel eich blogiau neu eich e-gylchlythyr.

 

Dylech annog eich cynulleidfa i rannu eu safbwyntiau ar-lein gyda hashnod i bostio eich blog ar eu llinell amser Twitter neu rannu cynhyrchion newydd gyda ffrindiau ar Facebook. Ceisiwch annog eich cynulleidfa i siarad amdanoch ar-lein yn eu cymunedau, fel y byddech chi’n ei wneud yn y byd all-lein.

 

Defnyddiwch gwrando cymdeithasol i ddarganfod beth mae pobl yn ei ddweud

 

Os hoffech ddechrau gwthio mwy o atgyfeiriadau cwsmeriaid ‘ar lafar gwlad’ trwy eich gwefan, mae’n bwysig adolygu sut mae pobl eisoes yn siarad amdanoch chi ar-lein. Beth mae pobl yn ei ddweud, â pha sgyrsiau allwch chi ymuno â nhw, a pha gyfleoedd newydd sydd ar gael?

 

Gallwch asesu’r sylfeini rydych chi wedi adeiladu arnynt, wrth hefyd adolygu beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud, i helpu hybu mwy o ymgysylltu ar-lein. Ceisiwch y wybodaeth ddiweddaraf am eich diwydiant ac ystyriwch ffyrdd newydd i gael cwsmeriaid i siarad amdanoch chi - ar, ac oddi ar y rhyngrwyd!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen