Os ydych chi’n chwilio am ffordd hawdd, gost-effeithiol o hyrwyddo eich busnes ar-lein, efallai mai hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol yw’r dewis i chi.  

Yn ôl adroddiad ar Dueddiadau Digidol 2022  gan Hootsuite a We are Social, mae gan Facebook gyrhaeddiad hysbysebu o 2.1 biliwn o ddefnyddwyr bob mis, gydag Instagram yn cyrraedd 1.48 biliwn o ddefnyddwyr trwy hysbysebion. Gallai hysbysebu ar Facebook fod yn ffordd syml ond effeithiol o gyrraedd a thyfu eich cynulleidfa gan ei fod yn cynnwys y ddau blatfform.  

Hand  holding a smartphone with Facebook login page displayed


Mae dechrau hysbysebu ar Facebook yn syml, a dyma 5 pwynt i’ch helpu i greu ymgyrchoedd hysbysebu llwyddiannus.   

Beth ydych chi eisiau ei gyflawni?  

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw meddwl am eich nod, er enghraifft:  

• Adeiladu ymwybyddiaeth o’ch brand 

• Rheoli enw da eich brand 

• Gyrru traffig i’ch gwefan 

• Gwella eich ymgysylltiad cymunedol 

• Cynyddu eich trosiadau neu eich gwerthiant 

• Cynhyrchu trywyddau ar gyfer eich busnes 

Gallai eich nod fod yn unrhyw beth o gofrestru ar gyfer e-gylchlythyr i gyflawni gwerthiant. Beth bynnag y bo – canolbwyntiwch. Bydd hyn yn helpu llywio a ffurfio pob rhan arall o’ch ymgyrch hysbysebu.    

"“Y peth da am hysbysebu ar Facebook yw eich bod yn gallu targedu a chyfyngu ar eich marchnad, sy’n golygu eich bod yn gallu gwario llai a chael mwy o enillion ar eich buddsoddiad.” Darllenwch fwy am y cymorth a roddom i fusnes glampio Wonderfully Wild yn Ynys Môn"

Victoria Roberts owner of Wonderfully Wild

 

 

Victoria Roberts, perchennog Wonderfully Wild 

Pwy ydych chi eisiau eu cyrraedd? 

Ar ôl i chi gynllunio’r hyn rydych eisiau ei gyflawni, meddyliwch am bwy rydych eisiau eu gweld yn ymateb. Mae Ads Manager gan Facebook yn eich galluogi i ddefnyddio dull targedig iawn, felly manteisiwch ar hyn. 

Er y gallech anelu at dargedu eich cynulleidfa gyfan, mae’n bosibl y byddwch hefyd yn penderfynu targedu rhan benodol o’ch cynulleidfa yn unig ag ymgyrch arbennig. 

Dyma rai pethau allweddol y gallech eu hystyried wrth dargedu eich ymgyrch:   

  • Demograffeg: Oedran, rhyw, statws perthynas, addysg, gweithle, teitl swydd

  • Lleoliad: A allech chi dargedu’r ardal lle mae eich busnes yn gweithredu? A allech chi nodi radiws penodol o amgylch siop ar gyfer targedu pobl i gerdded i mewn?   

  • Diddordebau a hobïau: Hoff ffilmiau, cerddoriaeth, llyfrau, sioeau teledu neu adloniant arall. Beth yw eu hobïau neu eu hoff weithgareddau?    

  • Ymddygiadau: Beth yw eu hymddygiad prynu? Sut maen nhw’n defnyddio eu dyfais? Pa mor ddiweddar maen nhw wedi ymgysylltu â’ch busnes? Ydyn nhw’n ddilynwyr tudalennau busnes tebyg i’ch rhai chi?  

Mae llawer o elfennau eraill y gallwch eu cynnwys yn eich hysbysebion i ddod yn agosach at eich cynulleidfaoedd targed. Bydd gosod picsel Facebook yng nghefndir eich gwefan yn helpu i ddenu defnyddwyr sydd wedi ymweld â’ch gwefan ond wedi gadael, wrth gyflwyno hysbyseb eich busnes i’r defnyddwyr hynny y tro nesaf y byddant yn defnyddio Facebook. Bydd creu cynulleidfaoedd pwrpasol ar sail gweithredoedd yn dylanwadu ar ba rai o’ch hysbysebion sy’n mynd i ba gynulleidfaoedd. Er enghraifft, efallai bod defnyddiwr wedi cadw postiad am gynnyrch ar dudalen Instagram eich busnes i’w ddarllen yn ddiweddarach. Bydd derbyn hysbyseb am y cynnyrch hwnnw yn eu hatgoffa i edrych arno drachefn ac o bosibl i brynu. 

Wrth ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwch o farchnata ar Facebook, gallwch ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd sydd â diddordebau ac ymddygiadau tebyg, a allai fod â diddordeb yn eich busnes ac sy’n fwy tebygol o droi’n gwsmer gwirioneddol.

People icons on wooden blocks

 

Beth yw eich cyllideb?  

Gallwch hysbysebu ar Facebook gydag unrhyw gyllideb, p’un a oes gennych £1 neu £100 i’w wario. 

Ads Manager yw’r ffordd fwyaf cyffredin o brynu hysbysebion ar Facebook. Wedi i chi greu hysbyseb, rydych yn ei gyflwyno i’r arwerthiant hysbysebu. Ond chi sydd wrth y llyw bob amser. 

Gallwch osod uchafswm eich cyllideb a’ch cynnig, yn ogystal â dewis eich amcan (megis argraffau neu drosiadau) a thalu am y rheini yn unig. 

Dechreuwch â chyllideb fach, rhowch gais arni, ac arhoswch i weld pa mor dda y mae eich ymgyrchoedd yn gweithio cyn i chi fuddsoddi rhagor o arian mewn hysbysebu. 

Mae’n bwysig cofio hefyd, yn dibynnu ar ddynameg eich hysbysebu, y bydd eich hysbyseb yn cael ei harddangos mewn llawer o leoliadau heb unrhyw gost ychwanegol. Yn dibynnu ar y targed a osodwch o ran cyrraedd cynulleidfa, gallech gael amrywiaeth o leoliadau am ychydig iawn o gost. 


Beth fydd y cynnwys a’r neges y byddwch yn eu defnyddio?  

Mae hyn yn hollbwysig. Nid oes ots pa mor dda rydych chi’n targedu’r gynulleidfa a ddymunwch, os nad ydych chi’n rhannu’r neges a’r delweddau priodol. 

Meddyliwch am arbrofi â geiriad, delweddau neu fideos gwahanol, a thudalennau glanio gwahanol, er mwyn deall pa rannau o’ch cynulleidfa sy’n ymateb orau i hysbysebion gwahanol. Bob tro y byddwch chi’n profi math penodol o hysbyseb, dylech ddefnyddio’r ymateb i deilwra eich hysbysebion yn y dyfodol. Profi A/B yw’r enw a roddir ar hyn. 

I ddechrau, efallai y byddwch eisiau meddwl am y math o farchnata sydd wedi gweithio’n dda i chi yn y gorffennol, a defnyddio hyn fel canllaw. 

Mae llawer o fusnesau yn rhedeg nifer o hysbysebion ar yr un pryd ond â nodau gwahanol. Gall un hysbyseb godi ymwybyddiaeth o’ch brand, a gall hysbyseb arall arddangos cynnyrch neu gynnig penodol sydd ar gael gennych ar y pryd. 

Woman in apron with cake in front of her and a smartphone on a tripod in front filming

 

Mesur ac optimeiddio!   

Yn olaf, mae’n bwysig eich bod yn deall perfformiad pob ymgyrch. 

Mae porth Ads Manager yn darparu adroddiadau hawdd eu darllen am berfformiad eich holl hysbysebion. Bydd yr adroddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn awtomatig i chi am eich hysbysebion, ond gallwch ddefnyddio’r offer i fesur nodau mwy penodol yr hoffech eu holrhain. 

Wedi i chi ddeall sut mae’r elfennau creadigol a’r lleoliadau yn gweithio, gallwch fireinio eich ymgyrch i gynyddu perfformiad. 

Mae hyd yn oed modd i chi weld sut mae eich hysbysebion yn effeithio ar eich gwerthiannau all-lein wrth ddefnyddio picsel Facebook, yn ogystal ag offer mesur all-lein a rhyngwyneb rhaglenni trosiadau all-lein Facebook.  

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen