Fel busnes bach, nid yw defnyddio technoleg ar-lein yn fuddsoddiad yn unig a allai helpu i wella eich cyllid, symleiddio prosesau mewnol neu ddatblygu rheoli cwsmeriaid gwell.

 

Nid yn unig y bydd gwneud offer ar-lein yn elfen graidd o’ch seilwaith busnes yn rhoi llwyfan gwych i hybu twf, gall hefyd ddarparu rhwyd diogelwch os byddwch yn wynebu unrhyw un o’r heriau cyffredin neu adegau cythryblus sy’n wynebu busnesau sy’n tyfu.

 

Er y gallai’r geiriau ‘buddsoddi’ a ‘thechnoleg’ wneud i chi bryderu am y gost, yr amser a’r ymdrech sy’n gysylltiedig ag integreiddio offeryn neu lwyfan newydd yn eich busnes, yr hyn sy’n dda am dechnoleg fodern, hyblyg, yw’r gallu i ddewis sut, pryd a ble i fuddsoddi eich arian, gyda’r rhyddid i  ostwng yn hawdd unrhyw gostau diangen, pan fo’r angen - heb orfod gwneud newidiadau enfawr i’ch busnes.

 

P’un ai a ydych chi eisiau buddsoddi ychydig bach neu lawer, dyma rai o’r ffyrdd efallai yr hoffech ystyried mabwysiadu technoleg i adeiladu sylfaen sefydlog, ond hyblyg, ar gyfer eich busnes.

 

Cyfleusterau desgiau poeth

 

Os nad ydych chi’n barod eto i fuddsoddi yn eich eiddo eich hun ar gyfer y busnes, gallai defnyddio cyfleusterau desgiau poeth fod yn ffordd wych i ddod â staff at ei gilydd pa bynnag bryd y bo’r angen. Mae desgiau poeth yn fodel rhannu gweithleoedd lle rydych chi’n talu am y lle rydych chi’n ei ddefnyddio’n unig. Yn nodweddiadol, mae’r lleoedd hyn yn cynnwys mynediad rhyngrwyd cyflym, lleoedd cyfarfod ac weithiau dyfeisiau cyfrifiadurol. Cyn belled â bod gennych chi fynediad at eich ffeiliau, gallai eich busnes fod yn rhedeg o unrhyw le yn y byd.  

 

Gweithio’n hyblyg

 

Wrth ganiatáu i’ch staff weithio’n hyblyg, p’un ai a yw hynny trwy oriau anghonfensiynol, gweithio o swyddfa adref neu mewn man gweithio a rennir, gallwch ddarparu cydbwysedd gwaith-bywyd cadarnhaol i’ch staff, a gallwch hefyd arbed ar eiddo ar gyfer y busnes neu gostau cysylltiedig â gweithle.

 

Dod â’ch Dyfais eich Hun neu Ddyfeisiau Gwaith

 

Bydd buddsoddi mewn dyfeisiau digidol ar gyfer eich tîm yn hwyluso eu gweithio, p’un ai a ydyn nhw mewn swyddfa neu allan o gwmpas y lle. Mae ffenomen ‘BYOD’ neu  ‘Dod â’ch Dyfais eich Hun’, yn dod yn boblogaidd iawn gyda busnesau bach a mawr. Mae 'Dod ach Dyfais eich Hun' n cyfeirio at y tuedd lle mae gweithwyr yn dewis defnyddio eu dyfeisiau personol eu hunain yn y gweithle yn hytrach na, neu’n ogystal â’r offer yn y swyddfa. Mae defnyddio dyfeisiau gwaith neu bersonol yn golygu nad yw staff yn gyfyngedig i leoliad i gyflawni eu gwaith. Gall hyn eich helpu i arbed ar gostau ymlaen llaw ar gyfer desg, ond mae hefyd yn golygu y gall staff weithio’n effeithiol hyd yn oed os oes angen i chi leihau maint o le gweithio ffisegol sydd gennych.

 

Technoleg cwmwl

 

Mae’r cwmwl yn hyrwyddo’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion gan nad oes angen i chi dalu costau ymlaen llaw am galedwedd drud, ffisegol, ac rydych chi ond yn talu am beth rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae ffyrdd diderfyn y gallai’r cwmwl fod o fudd i’ch busnes, ond un o’r ffyrdd allweddol yw trwy storio a rhannu ffeiliau/data ar-lein.  Bydd storio eich gwybodaeth yn ddiogel yn y cwmwl yn helpu eich busnes i hwyluso’r arferion gweithio modern a drafodir trwy sicrhau bod staff wedi cysylltu bob amser. Fodd bynnag, os bydd beichiau gwaith yn gostwng, yna gallwch ostwng faint o le sydd ei angen arnoch.   

 

Cynhaliwch eich cyfarfodydd ar-lein

 

Beth bynnag yw eich sefyllfa ariannol, dylai eich busnes ystyried gwneud gostyngiadau synhwyrol o ran costau. Gall llwyfannau ar-lein hwyluso cyfathrebiadau effeithiol, amserol, heb ystyried y lleoliad ffisegol. P’un ai a oes gennych chi gleientiaid yn genedlaethol neu’n rhyngwladol, gall fod yn gostus a chymryd llawer o amser i drefnu cyfarfodydd. Mae llwyfannau fel Skype a WebEx yn ffyrdd cyflym a hawdd i gynnal fideogynadleddau i gadw mewn cysylltiad â’ch rhanddeiliaid allweddol, cleientiaid, a chwsmeriaid gwerthfawr. Byddwch yn arbed amser teithio gwastraffus, treuliau diangen ac oedi o ran gweithio.

 

Marchnata digidol cost isel

 

Os ydych chi’n wynebu’r her o ddenu mwy o gwsmeriaid, cynyddu eich cyrhaeddiad a chynyddu refeniw, mae digon o offer a llwyfannau ar-lein rhad (neu rad ac am ddim hyd yn oed!) i wella eich gweithgareddau marchnata. Yn lle buddsoddi mewn ymgyrchoedd hysbysebu drud, neu daflu eich arian at dueddiadau marchnata newydd, ystyriwch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â’ch cynulleidfa, ac estyn allan at farchnadoedd newydd. Fel arall, gallai llwyfannau marchnata e-bost helpu i hybu eich cwsmeriaid i ddychwelyd a gwella eich cyfathrebiadau â chwsmeriaid.

Estyn allan am gymorth

 

Nid oes unrhyw gywilydd mewn chwilio am gymorth. Bydd chwiliad ar-lein cyflym yn cyflwyno nifer di-rif o flogiau, fideos ac erthyglau gan bobl a busnesau â’u cyngor a’u harweiniad eu hunain i’w rhannu ar ba bynnag her y gallech fod yn ei hwynebu.


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen