Pa ddiwydiant bynnag rydych chi'n gweithio ynddo, bydd gwella perfformiad gwerthiant a chynyddu trosiannau yn darged allweddol, yn enwedig ar ôl y pandemig.

Mae defnyddwyr yn crwydro siopau ar-lein nawr yn fwy nag erioed. Mae ymholiadau chwilio generig manwl bellach yn tyfu'n gyflymach nag ymholiadau chwilioa am frand. Ac, wrth i fwy o fusnesau ddechrau gwerthu ar-lein, mae defnyddwyr eisiau gwybod beth sydd ar gael yn hawdd ar raddfa ehangach.

Dyma saith cam pwysig y gallwch eu cymryd nawr i gynyddu eich gwerthiant ar-lein.

Mini shopping trolley with mini shopping bags sitting in front of an open laptop

 

Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn gweithio ar ddyfeisiau symudol ac yn hawdd ei defnyddio  

Pa fodd bynnag y mae eich cwsmeriaid yn penderfynu prynu oddi wrthych, gwnewch yn siwr bod y broses mor syml â phosibl ar draws pob dyfais. Gall rhai defnyddwyr ddewis prynu trwy eu dyfais symudol, yn hytrach nag ar eu gliniadur neu gyfrifiadur personol, tra bod yn well gan eraill bori a phrynu trwy sgrin fwy i weld yn llawn beth sydd ar gael.

Mae'n bwysig edrych ar eich dadansoddeg a gweld pa ddyfais y mae eich ymwelwyr gwe yn ei defnyddio i bori/prynu. Gwnewch yn siwr bod defnyddwyr yn gallu llywio a phrynu yn syml trwy eich gwefan neu blatfform dewisol, pa  ddyfais bynnag maen nhw'n ei defnyddio. Os bydd eich safle'n cymryd mwy na 3 eiliad i'w llwytho, mae'n debygol y byddwch yn colli allan ar lawer o gwsmeriaid posibl.

Mae'n bwysig cofio am y datblygiadau technolegol sydd wedi digwydd dros y 3 blynedd diwethaf yn ogystal ag Apiau siopa brand a siopa drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Instagram a Tik Tok. Gallai hyn fod yn rhywbeth i'w weithredu os nad ydych chi eisoes wedi gwneud, yn enwedig os yw mwyafrif eich ymweliadau ar y we yn dod o ddyfais symudol.

Lluniwch rhestr o danysgrifwyr e-bost ffyddlon 

Gwnewch y gorau o'ch marchnata e-bost drwy ei hyrwyddo drwy eich holl gyffyrddiadau ar-lein fel eich gwefan, blog, a chyfryngau cymdeithasol. Ar ôl i chi ddechrau llunio rhestr ddata ymgysylltu, bydd gennych nid yn unig gynulleidfa o gwsmeriaid sydd â diddordeb y gallwch gyfathrebu â nhw'n rheolaidd, ond gallwch hefyd anfon cynigion personol i yrru tanysgrifwyr i'ch gwefan.

Gallwch rannu eich rhestrau e-bost yn gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol. Bydd hyn yn eich galluogi i ddefnyddio dulliau cadw a chaffael fel gwobrwyo teyrngarwch a chynnig cynigion untro. Meddyliwch amdano yn yr un modd â phe bai cwsmer yn dod i mewn i siop ffisegol a bod eu cerdyn teyrngarwch yn cael ei stampio neu ei sganio. Bydd y dull teilwredig hwn yn helpu i gynyddu cyfleoedd i drosi.

Birds eye view of hands on laptop and mouse with coloured envelope icons displayed

 

 Darganfyddwch fwy ar ein gweminar Marchnata E-bost Effeithiol rhad ac am ddim 

Dewiswch eich iaith a’ch cynnwys yn ofalus

Dylai eich cynnwys gwerthu greu ymdeimlad o frys gyda'ch ymwelwyr, gan eu cymell i brynu nawr. Mae brandiau'n portreadu'r neges hon mewn ffyrdd fel cyfrif i lawr ar gynnig a'i gwneud hi'n amser sensitif. Bydd yr iaith rydych chi'n ei defnyddio yn chwarae rhan bwysig yn y broses werthu felly dewiswch iaith bositif, weithredol sy'n hybu'r darllenydd i'w phrynu. Gwnewch y gorau o alwadau clir i weithredu a phrofi gostyngiadau neu gynigion sydd wedi’u cyfyngu gan amser, er mwyn sicrhau nad yw eich ymwelwyr yn blino ar y mathau hynny o negeseuon.

 

Cynnig cynnwys gwerthfawr, am ddim

Dylech osgoi ffocws gwerthiant trwm drwy gynnig cynnwys o ansawdd uchel. Fel arfer, gall hyn ddod ar ffurf ymgynghoriad am ddim neu dreial am ddim o'r hyn rydych chi’n ei werthu. Os byddwch chi’n peledu ymwelwyr ag iaith werthu cyn gynted ag y byddan nhw'n cyrraedd eich gwefan, byddwch chi'n debygol o wneud iddynt deimlo'n annifyr. Drwy gynnig gwybodaeth 'am ddim' i'ch ymwelwyr, byddwch yn adeiladu eich enw da fel ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy, awdurdodol. Nid oes angen i hyn fod yn gysylltiedig ag unrhyw gynnig, gallech fod yn cynnig atebion i broblemau mewn blog, er enghraifft.

Bydd amlygu'r problemau y gall eich defnyddwyr eu hwynebu, ynghyd â chynnig datrysiad, yn ennyn diddordeb defnyddwyr. Mae defnyddwyr yn fwy tebygol o brynu o frand y maent yn dod i'w adnabod ac ymddiried ynddo yn y pen draw, felly canolbwyntiwch ar ddatblygu perthnasoedd ymgysylltu cyn dechrau’r sgwrs gwerthu.

Woman looking at phone

Mae delweddau a fideos yn bwysig!

Efallai ei fod yn swnio'n syml, ond mae delweddau a fideos yn helpu eich cynhyrchion i ymddangos yn fwy 'real' a diriaethol. Mae mwy o frandiau'n addasu i adael i'w cynhyrchion werthu eu hunain i ddefnyddwyr. Er enghraifft, y cyfryngau cymdeithasol yw’r lle i fynd i drosi cwsmeriaid posibl. Mae Instagram wedi cyflwyno siopa Instagram; mae Tik Tok hefyd wedi cyflwyno eu sianel siopa eu hunain, lle gall defnyddwyr siopa'n uniongyrchol o ffrwd fyw brand.

Gall delweddau o ansawdd uchel helpu hybu dymunoldeb eich cynnyrch a helpu cwsmeriaid posibl i ddychmygu bod yn berchen ar yr eitem. Gallwch hefyd ymgorffori onglau 360 gradd o'ch cynhyrchion. Mae'n bwysig cofio bod delweddau a fideo yn gallu cymryd llawer o le ar eich safle, felly mae gwneud delweddau mor fach ag y gallwch o ran maint y ffeiliau, gan gadw'r ansawdd yn hanfodol. Gall meintiau ffeiliau mawr arafu cyflymder llwytho tudalen eich safle, gan wneud i ddefnyddwyr fownsio oddi ar eich safle. Gallwch ddefnyddio offer rhad ac am ddim fel TinyJPG i leihau maint eich ffeiliau delwedd cyn eu lanlwytho i sicrhau bod tudalennau eich cynhyrchion yn llwytho’n llyfn.

Adolygwch ymddangosiad a chynnwys eich gwefan

Mae'n bwysig myfyrio ar apêl eich gwefan, unrhyw ddeunyddiau gweledol rydych chi'n eu defnyddio ac amrywiaeth y cynnwys. Ydy ymwelwyr yn gallu amgyffred y copi yn hawdd? Ydy'r wybodaeth allweddol yn glir? At beth fydd eu llygad yn cael ei dynnu? Mae'n bwysig diweddaru eich cynnwys yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn gyrru cwsmeriaid tuag at gam gweithredu penodol.

Os ydych chi eisiau gwneud newidiadau, gallech roi cynnig ar ddefnyddio fformatio neu ffontiau amgen ac amrywio hyd paragraffau, is-benawdau, neu bwyntiau bwled, heb anghofio cynnwys geiriau allweddol sy'n boblogaidd i yrru traffig i'ch math o wefan. Bydd hyn yn dibynnu ar eich cynhyrchion/gwasanaethau. Mae'n werth cofio hefyd, os ydych chi'n gyrru defnyddwyr i dudalennau cynnyrch gwahanol o wahanol ffynonellau, eich bod chi’n sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd y tudalennau hynny a bod y tudalennau hynny'n cael eu optimeiddio ar gyfer y profiad gorau posibl.

Beth yw eich proses ddilynol?

Dylai eich cwsmeriaid deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ni waeth ble maen nhw yn y broses werthu - ac mae hynny'n cynnwys y diwedd! Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu cynhyrchu gwerthiant yn y dyfodol gan y byddwch yn cadw eich brand ym meddwl y defnyddiwr ac yn helpu i ddatblygu perthynas gadarnhaol. Gall negeseuon e-bost awtomataidd sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn e-bost 'diolch' ar ôl prynu a gallwch gynnig gostyngiadau personol i gynhyrchu gwerthiant pellach. 


I ddarganfod sut i dyfu eich busnes, cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau. 


Gweler sut gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gefnogi eich busnes chi

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen