Mae John Mills, Cynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau, yn amlinellu sut gall gweithio hybrid wneud eich busnes yn fwy ystwyth a deniadol i weithwyr
Trefniadau gweithio hybrid yw’r normal newydd i lawer o bobl yn y byd busnes ar ôl y pandemig ac mae wedi creu disgwyliadau newydd ar gyfer gweithwyr. Er nad yw’n gysyniad newydd, mae’r system gweithio hybrid yn fath o weithio hyblyg lle mae gweithwyr yn gweithio o bell (o gartref fel arfer) ac mewn swyddfa neu fan gwaith sefydlog. Mae hwn yn newid diwylliannol sy’n annog hyblygrwydd a pherfformiad uchel ar draws y gweithlu ac mae llawer o fusnesau bellach yn ystyried beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw mewn termau real, a pha gamau y bydd angen eu cymryd er mwyn mabwysiadu’r ffyrdd newydd hyn o weithio, a hefyd sicrhau eu bod yn effeithiol.
Yn wir, gall busnesau nad ydynt yn cynnig ffyrdd mor hyblyg o weithio arwain at fwy o drosiant staff ac anallu i ddenu gweithwyr yn y dyfodol. I’r gwrthwyneb, mae’r manteision posibl i’r busnes yn cynnwys arbedion ar ofod swyddfa, lefelau uwch o lawer o foddhad ymysg gweithwyr, cyfraddau absenoldeb is a mwy o gynhyrchiant.
Sut mae newid yn llwyddiannus i weithio hybrid
Mewn byd busnes cystadleuol, mae angen rheoli’r newid hwnnw i weithio hybrid yn llwyddiannus. Dyma rai camau cychwynnol y mae angen eu hystyried er mwyn sicrhau’r llwyddiant hwnnw:
- Rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i weithwyr benderfynu ar eu harferion gweithio hybrid eu hunain, yn amlwg o fewn canllawiau neu ‘reolau ymgysylltu’. Dylai’r pwyslais fod ar ddarparu’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sydd ei angen ar weithwyr er mwyn iddynt fod mor effeithiol â phosibl.
- Rhoi hawl cyfartal i weithwyr weithio naill ai o bell neu yn y swyddfa, heb gael eu dylanwadu gan yr arferion gwaith sy’n cael eu ffafrio gan reolwyr.
- Newid ffocws yn nodau, canlyniadau ac amseroldeb gwaith, yn hytrach na sut, pryd neu lle cwblhawyd y gwaith a neilltuwyd.
- Sicrhau bod gennych chi’r seilwaith TG angenrheidiol (gan gynnwys gallu a diogelwch), yn ogystal â’r arbenigedd cywir i gefnogi gweithio o bell.
Sut mae dechrau arni gyda gweithio hybrid
Wrth i fusnesau ddechrau derbyn gweithio hybrid, mae’r mwyafrif yn dal i arbrofi gyda’r gwahanol bosibiliadau a fframweithiau, ond beth bynnag fo sefyllfa eich busnes, RHAID i chi lunio cynllun cychwynnol hollgynhwysol ar gyfer mabwysiadu’r hyn sy’n gam esblygol yn eich busnes. Dylai hyn gynnwys:
- Datblygu polisi a chanllawiau ategol i weithwyr ar weithio hybrid.
- Pennu gofynion rôl busnes ar gyfer gweithio hybrid hy, llunio a chyfleu cynllun ar gyfer pryd y bydd gweithwyr yn gweithio yn y swyddfa a phryd y byddant yn gweithio gartref.
- Darparu hyfforddiant a datblygiad i gefnogi gweithio hybrid seiliedig ar rôl.
- Cynllunio ar gyfer gofynion gweithio hybrid y busnes yng nghyswllt technoleg gwybodaeth, diogelu data, cyfleusterau, a llesiant meddyliol a chorfforol gweithwyr o bell.
Awgrymiadau ar gyfer llwyddo i weithio’n hybrid
- Sicrhau bod sianeli cyfathrebu effeithiol yn cael eu cynnal bob amser. Cynnwys cyfleoedd cysylltu cymdeithasol rheolaidd a chyfleoedd i ymgysylltu ac adeiladu tîm.
- Sicrhau bod gweithwyr a busnesau’n ystyried goblygiadau cytundebol gweithio hybrid yn ofalus.
- Er mwyn gwneud y cysylltiad yn haws, mae angen i weithwyr allu gweithio’n ddi-dor rhwng y cartref a’r gweithle, a rhwng gweithwyr swyddfa a gweithwyr o bell.
- Sicrhau profiad gwaith cyfartal rhwng gweithwyr yn y swyddfa a gweithwyr gartref a meithrin perthynas waith rhwng aelodau o’r tîm hybrid.
- Diwygio ac addasu systemau neu brosesau rheoli perfformiad ar gyfer amgylcheddau gweithio hybrid.
Ac yn olaf, siaradwch ag arbenigwr
Mae gweminarau am ddim Gweithio’n Ddoethach Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnwys gweithio o bell a hybrid, yn ogystal â chadernid seiber. Archebwch le ar un o’n cyrsiau am ddim a chael cyngor wedi’i deilwra gen i neu gan un o’m cydweithwyr yn y tîm cynghorwyr busnes.