Mae gwasanaeth da i gwsmeriaid yn hollbwysig gan fod defnyddwyr yn dod yn fwy gwybodus ac mae eu disgwyliadau’n cynyddu. Gyda chynifer o fusnesau’n cystadlu am gwsmeriaid a gwerthiannau mewn marchnadoedd prysur, mae gwasanaeth gwych i gwsmeriaid yn un o’r ffactorau allweddol a fydd yn eich gosod ar wahân i’ch cystadleuwyr – a sicrhau bod y cwsmeriaid hynny yn dychwelyd. 

 

Gall technoleg ddigidol helpu i chi sefyll allan o safbwynt eich gwasanaeth i gwsmeriaid. Dyma sut:

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ddull cost-effeithiol o wrando ar gwsmeriaid a chysylltu â chwsmeriaid ledled y byd. Mae Twitter yn llwyfan gwych ar gyfer creu perthynas â’ch cwsmeriaid oherwydd gallwch ddatblygu personoliaeth eich brand, ymateb ar y pryd a darganfod beth sy’n bwysig i’ch cwsmeriaid trwy wrando cymdeithasol. Trwy ymuno â’ch cynulleidfa a’ch cymuned ar-lein, gallwch ddod i’w hadnabod nhw a’u gwasanaethu nhw’n well hefyd.  

 

Y cwmwl a dyfeisiau cysylltiedig

 

Mae’r cwmwl yn galluogi gweithwyr i fynd at ddogfennau, data, llwyfannau e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol pryd bynnag a ble bynnag y maen nhw’n gweithio. Mae’r technolegau hyn yn golygu nad oes rhaid i staff aros hyd nes byddant yn y swyddfa i ymdrin â phroblemau brys cwsmeriaid neu gael at adnoddau angenrheidiol. Gall ymateb yn amserol ac yn effeithlon helpu i gynnal cysylltiadau cadarnhaol.

 

Band eang cyflym iawn

 

Mae cysylltiad gwell, llinellau cyflymach a llwyfan mwy sefydlog yn golygu bod eich busnes yn gallu dibynnu ar ei gysylltiad â’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon negeseuon e-bost a dogfennau, ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu â chwsmeriaid yn effeithiol.

 

Dealltwriaeth well trwy ddadansoddi

 

Gall offer dadansoddi ar-lein helpu i chi ddeall pa mor dda y mae eich gwefan a’ch ymgyrchoedd yn gweithio, yn ogystal â sut a phryd y mae eich cwsmeriaid yn ymwneud â’ch llwyfannau ar-lein. Mae’r gallu i gael at y wybodaeth hon yn golygu’ch bod yn gallu llunio profiad y defnyddiwr yn well ar sail anghenion eich cwsmeriaid a helpu i gynyddu sgyrsiau hefyd.  

 

Ymwybyddiaeth amgylcheddol

 

Ochr yn ochr â gwella’ch prosesau busnes, gall technolegau digidol helpu’r amgylchedd. Er enghraifft, gallwch ddileu argraffu a defnyddio llai o ynni trwy newid gyriannau caled am y cwmwl. Mae gan lawer o ddefnyddwyr ddiddordeb mewn cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a pha mor ystyriol o’r ddaear yw busnesau. Gallai hyrwyddo’ch hun fel busnes sy’n ymwybodol yn amgylcheddol annog defnyddwyr i ddefnyddio’ch busnes chi yn hytrach na chystadleuwr llai cydwybodol, gan greu cysylltiadau mwy teyrngar gyda’ch cwsmeriaid presennol ar yr un pryd.

 

Poeni am ddata cwsmeriaid

 

Gall technoleg ddigidol eich galluogi chi i storio a chadw data wrth gefn yn ddiogel, ond mae’n peri hefyd bod gwaith cynnal a chadw, diweddaru a rheoli yn haws o lawer. Gallai’r camgymeriad lleiaf o ran data fod â goblygiadau cyfreithiol mawr a gallech golli llawer iawn o gwsmeriaid o ganlyniad, felly mae diogelu eu manylion yn hollbwysig. 

 

Mae gwell gwasanaeth i gwsmeriaid yn arwain at ymgysylltu â chwsmeriaid yn well, a all arwain yn ei dro at elw gwell

 

Ewch ati i roi’r 6 awgrym hyn ar waith! 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen