Mae manwerthwyr ar-lein wedi bod yn rhoi pwysau ar siopau'r stryd fawr ers blynyddoedd, ac mae cyfyngiadau pandemig Covid-19 wedi gwaethygu'r sefyllfa. Ond bellach, gyda’r boblogaeth yn cael dychwelyd i’r siopau o’r diwedd, mae gobaith am adferiad.

Ond ni ddylem ystyried hyn fel cyfle i ddychwelyd i ‘normalrwydd’ bywyd cyn y pandemig. Mae'n effaith sawl cyfnod clo olynol yn cynnig cyfle i ailgreu'r stryd fawr, i groesawu technoleg ddigidol, ac i adfywio'r profiad o siopa.

Mae’r siopau sydd wedi goroesi’r cyfnod clo - a byddwn yn trafod rhai ohonynt yn yr erthygl hon - wedi bod yn barod i newid eu meddylfryd, i newid modelau busnes, ac i chwilio am ffrydiau refeniw newydd. Mae opsiynau tecawê a gwerthu ar-lein, gyda’r nwyddau’n cael eu danfon neu eu casglu gan y cwsmer, yn ogystal ag ystafelloedd arddangos rhithwir a gwasanaethau digidol i gyd wedi helpu i gadw busnesau brics-a-morter ar dir y byw. Mae’r busnesau hyn wedi gallu hawlio rhan o'r £5.3 biliwn a wariwyd ar-lein yn 2020.

A person opening a shop's shutters.

 

Ac nid datrysiadau byrdymor yn unig yw’r rhain, gellir dadlau mai’r mentrau hyn sy’n arwain y ffordd. Gall sefydlu siop ar y we ymestyn cyrhaeddiad eich busnes a gwella eich marchnata digidol er mwyn denu cwsmeriaid newydd. Nid disodli siopau’r stryd fawr y mae technoleg, ond yn hytrach y mae bellach yn rhan annatod o'r hyn y mae siopwyr yn ei ddisgwyl gan eu siopau lleol. Fel y gwelwyd mewn meysydd eraill, mae'r pandemig wedi cyflymu’r trawsnewidiad digidol a oedd eisoes ar y gweill yng Nghymru. Ac nid yw'n rhy hwyr i chi ymuno.

Ar ôl buddsoddi yn ochr ddigidol eu busnes yn ystod y cyfnod clo, gwelodd cwmni WoodenGold gynnydd o 837% yn eu gwerthiant.

Er mwyn helpu busnesau manwerthu i wneud y gorau o'r cyfleoedd newydd a gynigir gan dechnolegau digidol, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor rhad ac am ddim, gan gynnwys amrywiaeth eang o weithdai digidol i’w dilyn gan sesiynau un-i-un gyda chynghorydd busnes digidol personol. Mae'r astudiaethau achos canlynol yn rhoi cipolwg diddorol ar y ffyrdd y mae technoleg eisoes wedi helpu busnesau Cymru i drawsnewid.

Yn eu lleoliad ger canol dinas Caerdydd, mae WoodenGold yn gwmni aur teuluol sy'n cynhyrchu modrwyau â llaw. Roedd y gemydd Stephen Cichocki eisoes wedi sefydlu gwefan gan ddefnyddio Wix, a oedd yn edrych yn dda ond yn anodd ei ddefnyddio, ac yn gwerthu ei fodrwyau ar farchnad ar-lein Etsy.

Wrth i werthiant ddechrau disgyn yn ystod blwyddyn anodd 2020, penderfynodd Cichocki wella ei bresenoldeb ar-lein a mynychu cwrs marchnata digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau. “Roedd fy musnes i yn fusnes ar-lein p’run bynnag,” eglurodd. “Felly, mae'r we a'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn ddefnyddiol erioed. Ond sylweddolais yn ystod y cyfnod clo mai marchnata sy’n cynnal busnes, ac oni bai bod amserlen farchnata gadarn wedi’i sefydlu, mater o amser ydyw cyn y bydd yn mynd i’r wal."

Gyda rhywfaint o arweiniad, canolbwyntiodd Stephen ar feithrin ymddiriedaeth a hyder cwsmeriaid yn ei fusnes drwy gyhoeddi fideos ar Instagram a defnyddio hysbysebion wedi'u targedu ar Facebook, ac yn eu tro roedd y rhain yn cyfeirio pobl at ei wefan newydd. Yn ystod y cyfnod clo, trodd ei fuddsoddiad yn ochr ddigidol ei fusnes at 837% yn rhagor o werthiannau, a chynnydd o 70% mewn prisiau prynu.

"Roedd gen i ddwy arf [yn ystod y cyfnod clo, sef pecyn optimeiddio peiriant chwilio (SEO) ar gyfer fy ngwefan - i greu gwerthiannau cyson a da - ac yna ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol tymor byr os byddwn angen hwb bach, neu os oeddwn yn gwneud unrhyw beth newydd neu gyffrous. Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau help llaw i mi ddysgu am farchnata digidol, a dyna oedd y peth tyngedfennol ar gyfer fy musnes yn y pen draw."

Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau y wybodaeth a'r hyder i mi sefydlu siop Kiti ar-lein yn ystod y cyfnod clo.

Ym Mhontcanna, fe welwch chi bwtîc ffasiwn bychan Kiti. Pan ddaeth y cyfnod clo, roedd pob siop brics-a-morter ar gau i gwsmeriaid, ac roedd y busnes yn gwybod bod angen iddynt ganfod ffordd newydd o werthu eu labeli unigryw.

A laptop showing Kiti website.

 

I ddechrau, trodd y tîm at eu sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gyflwyno’u llinellau newydd ar ffrydiau byw Instagram. O weld y dillad yn cael eu harddangos yn y modd yma, dechreuodd pobl brynu eto. Fodd bynnag, roeddent dal angen system ar-lein er mwyn cwblhau’r archebion. Felly, ar ôl ymgynghori â Chynghorydd Busnes Digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, adeiladodd Jane Rowlands o Kiti wefan gan ddefnyddio Shopify. Yna, mireiniodd ei sgiliau optimeiddio peiriant chwilio (SEO) i wella gwelededd ei siop ar Google.

“Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau y wybodaeth a'r hyder i mi sefydlu siop Kiti ar-lein yn ystod y cyfnod clo,” eglurodd Jane. "Roedd gennym bresenoldeb ar-lein ar Instagram eisoes, ond roedd angen ychwanegu siop oherwydd cyfnod clo Covid-19. Cafodd hyn groeso mawr gan ein cwsmeriaid, ac rydym yn parhau i ehangu'r safle gyda chynnyrch newydd. Gwelsom fod hyn yn ychwanegiad cadarnhaol iawn i'n busnes brics-a-morter."

Ewch i'r gorllewin ar hyd yr M4 i Gaerfyrddin, ac fe welwch ‘siop hapusrwydd’ Spiffy, sy’n gwerthu cynnyrch i hybu iechyd a llesiant. Er i’r cyfnod clo olygu bod rhaid cau adeilad y siop, roedd y sylfaenwyr Paul Young a Shaun Potter mewn sefyllfa dda i oroesi’r pandemig.

Diolch i'w gwaith blaenorol gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau, roedd gan Spiffy siop ar-lein eisoes, wedi'i hadeiladu gan ddefnyddio Shopify. A sicrhaodd y cwrs SEO a gwblhawyd ganddynt yn y cyfamser fod y wefan wedi’i hoptimeiddio i ddenu cwsmeriaid o bob cwr o'r byd, yn hytrach nag o’r DU yn unig. Yn wir, gweithiodd y siop ar-lein cystal yn ystod y cyfnod clo fel y bu’n rhaid i Spiffy brydlesu warws a chyflogi staff ychwanegol i ateb y galw.

Hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae manwerthu'n parhau i fod yn amgylchedd ansicr. Ond gyda rhaglen o gymorth rhad ac am ddim gan Gyflymu Cymru i Fusnesau mae llwybr clir i siopau ddatblygu a gwella’u gwerthiant ar-lein a’u hymdrechion marchnata digidol. Mae'r tri busnes yma eisoes wedi elwa, ac yn hytrach na dim ond goroesi’r pandemig, maent wedi ffynnu, ac mewn sefyllfa dda ar gyfer beth bynnag a ddaw nesaf.


Mae busnesau’n newid yng Nghymru, ydych chi’n barod i ymuno â nhw? Dysgwch sut y gall technoleg ddigidol wella eich busnes chi a'i helpu i dyfu. Cofrestrwch am gymorth nawr.


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen