Mae'r diwydiant twristiaeth wedi creu argraff ar y rhyngrwyd. Mae'n faes ffyrnig o gystadleuol a gallwch naill ai eistedd nôl a syllu wrth i'r oes ddigidol hedfan i hinsawdd fwy heulog, neu gallwch ymuno â’r daith a gadael i’r grym digidol arwain eich busnes i lwyddiant!

Mae'r tirlun twristiaeth a theithio yn addasu wrth i fusnesau fel Airbnb ac Uber barhau i amharu ar y model busnes traddodiadol. Wrth i'r diwydiant ddod yn fwy greddfol, cymdeithasol a deinamig ac wrth i ofynion defnyddwyr esblygu, mae'n bwysig i fusnesau groesawu’r newidiadau yn y ffordd mae pobl yn mynd drwy daith y cwsmer o ymchwilio i archebu a’r holl ryngweithio yn y cyfamser.

Amlyga bapur gwyn Travel and Technology E3 bydd pedwar tuedd teithio yn parhau i gael effaith ar y diwydiant: twf bwcio 'hunan-wasanaeth', teithio DIY, archebu ar ddyfeisiadau symudol a'r chwilio am brofiadau dilys. Drwy gymysgu rôl technoleg ddigidol yn y diwylliant newydd o deithio hunan-wasanaeth, mae Google yn dweud bod peiriannau chwilio ac YouTube ymhlith y ffynonellau ar-lein gorau o ran ysbrydoliaeth ar gyfer defnyddwyr teithio gyda 65% o deithwyr hamdden a 69% o deithwyr busnes yn troi at y we yn gynnar yn y broses brynu i benderfynu ble neu sut maen nhw am deithio.

Pan ddaw hi’n fater o brynu gwyliau dramor, bydd bron i hanner (49%) o ddefnyddwyr yn parhau â'r broses ar-lein ac yn archebu eu gwyliau drwy'r rhyngrwyd. Yn 2014 yn unig, cafodd 148,300,000 o archebion eu gwneud ar-lein a 65% o archebion stafelloedd gwesty yr un dyddiad eu gwneud drwy ffôn clyfar, yn ôl eMarketer.

Os ydych yn barod i fanteisio ar y cyfle digidol, dyma 6 cyngor marchnata digidol gwych a all eich helpu i greu ymwybyddiaeth, ysgogi gwerthiant a thyfu gyda, nid er gwaethaf, yr oes ddigidol.

Mae teithwyr eisiau rhannu - mae'n bryd mynd yn gymdeithasol

Mae teithio yn destun siarad gwych. Gall fod yn rhannu cynlluniau, lluniau gwyliau neu farn ar gyrchfannau a llety. Ymunwch â sgyrsiau cwsmeriaid drwy gymryd rhan ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall datblygu eich proffiliau a hashnodau cyfryngau cymdeithasol eich hunan annog defnyddwyr i dagio eich brand a chymryd rhan mewn cystadlaethau cymdeithasol. Wrth i ddefnyddwyr chwilio am y profiadau dilys holl bwysig hynny, bydd cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan gwych iddynt rannu’r profiadau hyn. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan ar y cyfleoedd hyn i ymgysylltu â chwsmeriaid ac adeiladu darlun o botensial teithio gyda chwsmeriaid newydd.

Gallwch siarad iaith eich cwsmeriaid drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Cofrestrwch ar gyfer gweithdy #Cyflymubusnesau!

Adolygiadau ar-lein

Mae gair ar lafar yn arbennig o bwysig i’r diwydiant twristiaeth – a dyw hynny ddim gwahanol ar y we! Anogwch eich defnyddwyr i adael adolygiadau manwl i rannu gyda darpar deithwyr eraill. Bydd adolygiadau yn helpu i adeiladu awdurdod eich brand ac yn meithrin lefel o ymddiriedaeth ymhlith cwsmeriaid newydd, yn enwedig y rhai sy'n dewis y llwybr ‘hunanwasanaeth’. Gwnewch hi’n hawdd i ddarpar gwsmeriaid wneud penderfyniadau gwybodus. Bydd adolygiadau yn darparu’r dilysrwydd mae defnyddiwr yn eu chwilio gan eu bod yn gallu cael mynediad at gyfrifon go iawn gan gwsmeriaid go iawn.

Safle ar y peiriannau chwilio

Mae’r farchnad yn gystadleuol - bydd rhaid i’r defnyddwyr ddewis eich busnes o blith toreth o fusnesau newydd, sy'n dod i'r amlwg a busnesau poblogaidd sydd wedi hen sefydlu yn y farchnad. Mae camau allweddol y gallwch eu cymryd i helpu symud eich busnes i safle uwch yn Nhudalennau Safle Peiriant Chwilio (SERPs). Dyma gyngor i roi hwb i'ch gweithgarwch SEO.

Rhowch hwb i'ch awdurdod gyda blogiau a fideos cyngor

Fel busnes Twristiaeth, mae’n rhaid i chi ddarparu mwy na dim ond gwasanaeth gwych a llwyfannau ar gyfer teithwyr DIY. Helpwch gwsmeriaid i deimlo'n wybodus ac wedi paratoi trwy rannu cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol trwy gynnwys ychwanegol megis blogiau, fideos, ffeithluniau a rhestrau gwirio. Drwy helpu defnyddwyr i ddatblygu eu taith anhygoel eu hunain, byddwch yn helpu i adeiladu enw da eich brand fel un dibynadwy, sy’n ymgysylltu ac yn ddefnyddiol.

Gwnewch y gorau o gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr

Mae’r byd o rannu cymdeithasol hefyd yn hollbwysig i’ch busnes gan roi catalog o gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr i ddatblygu’r teimlad dilys hollbwysig ar gyfer ddefnyddwyr deallus. Yn hytrach na dibynnu ar ddelweddau stoc a'r un hen luniau diflas, gwnewch y mwyaf o'r lluniau, blogiau a fideos a rennir gan eich cwsmeriaid.

Gwefan Symudol-gyfeillgar

Dylai'r broses archebu fod yn syml, yn llyfn a hylaw. Gan fod defnyddwyr yn torchi llewys ac yn ymarferol gyda'u teithio, maen nhw’n dibynnu fwyfwy ar eu ffonau symudol i ymchwilio a bwcio eu gwyliau. Bydd gwefan symudol-gyfeillgar nid yn unig yn helpu gosod eich busnes ar safle uwch mewn SERPs ond hefyd yn rhoi taith gwsmer didrafferth i ddefnyddwyr. Os yw’n bosib, gallech hyd yn oed ystyried ap archebu syml fel Airbnb neu'r Traveline i wneud y profiad symudol hyd yn oed yn fwy greddfol ac effeithiol.

Ydych chi’n gwerthu eich brand Twristiaeth a Lletygarwch ar gyfryngau cymdeithasol?

Mae 90% o fusnesau yn codi ymwybyddiaeth brand gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Mae marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hawdd iawn i godi’ch proffil, denu cwsmeriaid newydd ac ennill busnes newydd. Cofrestrwch i gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau - Tyfwch Eich Busnes Twristiaeth Drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol nawr!

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen