Mae 67% o fusnesau bach eisoes wedi gofyn am help

Mae bron i hanner busnesau bach y DU yn dweud bod angen iddynt wella eu sgiliau digidol i’w helpu drwy’r pandemig, yn ôl arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Lloyds Banking Academy a Small Business Britain.

Canfu Arolwg Adfer a Chefnogi Busnesau Bach fod 60% o gwmnïau bach yn dymuno cael help gyda marchnata a gwerthu, a bod dros draean yn dymuno gwella eu gallu i werthu/e-fasnachu ar-lein.

Mae’r gwasanaeth cymorth digidol, Cyflymu Cymru i Fusnesau, wedi gweld yn uniongyrchol sut mae’r coronafeirws wedi arwain at gynnydd yn nifer y busnesau sy’n gofyn am help i symud cynnyrch, gwasanaethau a gweithleoedd ar-lein - llawer ohonynt am y tro cyntaf - wrth i’r wlad fynd i'r cyfnod clo.

Rhwng Ebrill 2020 ac Ebrill 2021, rhoddodd gyngor arbenigol i bron i 1,000 o fusnesau, gyda 4,420 arall yn manteisio ar ei weminarau am ddim.

Roedd COVID yn ein gorfodi i newid sut roedden ni’n gweithio

Ar ôl cymryd y camau cyntaf o weddnewid ochr ddigidol y cwmni cyn y pandemig, cysylltodd Undeb Credyd Smart Money Cymru â Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael adolygiad gwrthrychol o’r hyn roeddent wedi’i gynllunio.

Dyma’r Prif Swyddog Gweithredol, Mark White yn esbonio: “Roedden ni wedi bod ar ei hôl hi braidd o ran technoleg newydd dros y blynyddoedd diwethaf. Ond, roedd COVID-19 yn ein gorfodi i newid sut roedden ni’n gweithio.”

Meddai’r Is-gadeirydd, Geraint Jones: “Roedden ni wedi llunio rhestr o feysydd i ganolbwyntio arnyn nhw, ond roedd cael cyngor diduedd gan ein Cynghorydd Busnes Digidol, Cath Padfield, o fudd enfawr. Roedd ein sesiwn un i un gyda Cath yn tynnu sylw at feysydd newydd lle gallem wella prosesau, a rhoddodd yr hyder i ni fwrw ymlaen â’r pethau roedden ni eisoes wedi bwriadu eu newid.”

“Mae’r ochr ddigidol wedi gwneud pethau’n rhatach ac yn haws. Os ydyn ni’n mynd i ddod allan o’r pandemig hwn yn fwy addas a chryf, mae angen i ni gael y dechnoleg ddigidol yn iawn,” meddai White.

Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn: Un o undebau credyd Cymru’n croesawu’r dechnoleg ddigidol

Roedd technoleg ddigidol wedi cynyddu ein gwerthiant 837%

Roedd strategaeth ddigidol ddiwygiedig a roddwyd ar waith ychydig cyn y pandemig ac a gafodd ei mireinio yn ystod y tair wythnos gyntaf, wedi golygu bod gwerthiant ar-lein WoodenGold wedi cynyddu 837% wrth i gwsmeriaid wario 70% yn fwy ar yr hyn roeddent yn ei brynu ar gyfartaledd.

“Deall fy nghwsmeriaid a ble maen nhw’n gweithredu oedd yn bwysig. Mae 90% ohonyn nhw’n byw ar Instagram ac maen nhw’n hoffi cefnogi masnachwyr annibynnol, a dyna beth roeddwn i eisiau manteisio arno,” eglura Stephen Cichocki, gwneuthurwr gemwaith artisan arbenigol WoodenGold.

Mynychodd Cichocki gwrs marchnata digidol lle bu’r Cynghorydd Busnes Digidol, Pete Mackenzie, yn ei helpu. Canolbwyntiodd ar gwsmeriaid WoodenGold; gan feithrin eu hyder yn Cichocki a’i gynnyrch, yn ogystal â phwysleisio’r daith o brynu ar draws llwyfannau digidol perthnasol a’r wefan.

Stephen of WoodenGold working in a workshop.

 

Dywedodd Cichocki, “O’m profiad i o ddefnyddio safleoedd Trydydd Parti fel Etsy, roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi feithrin ymddiriedaeth ynof fi fy hun ac yn fy musnes, ac fe wnaeth Pete helpu gyda hynny. Awgrymodd ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw ataf fi, fel crefftwr modrwyau, yn ogystal â’m cynnyrch. Y farn oedd y byddai hyn yn annog pobl i fynd ar fy ngwefan, a oedd wedi’i diweddaru, ac sydd bellach yn seiliedig ar egwyddorion marchnata a sbardunau ymddiriedaeth Pete, ac wedi’i chynllunio i’w gwneud mor hawdd â phosibl i fy nghwsmeriaid brynu.

“Fe wnes i lwytho fideos i fyny ar Instagram ohonof fi’n creu modrwyau yn y gweithdy er mwyn ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid, ac yna hyrwyddo’r hyn a oedd wedi’u rhestru ar y wefan. Dechreuais gyda modrwyau pren a oedd yn costio £60-£70, cyn ychwanegu eitemau mwy drud mewn arian neu aur, gan wneud mwy o ymdrech fyth ar y cyfryngau cymdeithasol gyda fy ngemau uchel eu gwerth.”

Roedd y strategaeth o fagu hyder prynwyr a gwella’r hyn roedd yn ei gynnig ar-lein yn gweithio. “Po fwyaf costus yw’r cynnyrch, po fwyaf o amser y bydd fy nghwsmeriaid yn ei dreulio yn gwneud ymchwil ac yn gofyn cwestiynau i mi,” meddai Cichocki.

“Mae’r dull hwn yn rhoi bywyd i’r busnes ac, yn hollbwysig, yn helpu gyda’r llif arian,” meddai.

Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn: Pren, arian ac aur: cylch cyfaredd gŵr o Gaerdydd


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen