Cymuned ar-lein yw’r brif wobr ddigidol ar gyfer unrhyw frand.
Mae cynulleidfa ar-lein yn bwysig ond, mewn gwirionedd, rydych chi’n cyfrannu at ddeialog unffordd. Mae’n hawdd iawn siarad â, neu hyd yn oed at eich darpar gwsmeriaid. Tra bod cymuned yn caniatâi i chi ymgysylltu â’ch brand. Mae cymuned yn pontio’r bwlch rhwng eich busnes a’ch cwsmeriaid. Mae’n datblygu perthnasoedd, annog cyfeiriadau, codi ymwybyddiaeth, adeiladu’ch hunaniaeth ar-lein ac yn cydnabod eich cwsmeriaid am eu buddsoddiad yn eich brand.
Dyma 9 ffordd gall eich busnes ddechrau tyfu cymuned ar-lein:
Mae cynnwys unigryw yn hanfodol
Dechreuwch greu a rhannu cynnwys unigryw. Postiwch gynnwys a fydd yn cadw’ch cwsmeriaid yn dychwelyd tro ar ôl tro i ryngweithio â’ch busnes. Byddwch yn greadigol ond yn berthnasol, gwerthfawr ac yn apelgar. Mae rhannu cynnwys yn gyson yn wych, ond yn y bôn, mae angen iddo fod yn ddefnyddiol a diddorol i’ch cymuned fel eu bod nhw’n teimlo rheidrwydd i roi sylwadau ac ymgymryd ag ef.
Pa mor addas yw eich cynnwys?
A yw’n debygol y byddai rhywun yn rhannu’r cynnwys hyn? Meddyliwch y tu hwnt i glicio ‘postio’ ar fideo, delwedd neu gofnod blog ac ystyriwch sut y bydd pobl yn ymgymryd ag ef. Ydy’r cynnwys hyn yn annog eich cymuned i ymateb, rhoi sylwadau, rhannu syniadau neu ei rannu ar eu llwyfannau ei hun? Ystyriwch ddefnyddioldeb a swyddogaeth eich cynnwys a gallwch ddechrau cynhyrchu pethau a fydd yn wirioneddol yn cysylltu’r gymuned a chreu sgyrsiau.
Byddwch yn gymdeithasol
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn darparu dull hawdd ar gyfer rhannu cynnwys ond mae hefyd yn llwyfan wych i gadw golwg ar sgyrsiau a chynnal canolbwynt i’ch cymuned. Gall ddefnyddio hashnod penodol fod yn ffordd wych i ddilyn beth sy’n mynd ymlaen a phwy sy’n dweud beth am eich busnes. Mae hashnod neu broffil penodol ar gyfer eich cymuned yn cynnig ffordd glir i gwsmeriaid ddechrau cyfrannu yn y sgyrsiau. Fodd bynnag, nid yw’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer arsylwi yn unig! Mae angen i chi fod yn weithredol: rhannwch, gofynnwch gwestiynau a chyfathrebwch â dilynwyr.
Rhannwch gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr
Gwnewch i gwsmeriaid deimlo’n rhan o’ch brand drwy ryngweithio â chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr. Os yw cwsmer yn tynnu llun gyda’ch cynnyrch neu’n rhannu cofnod blog yn adolygu’ch gwasanaeth, gallwch ei ail-bostio ar eich llwyfannau eich hun. Bydd eich cwsmeriaid yn teimlo gwerthfawrogiad ac yn gydnabyddedig am eu hymrwymiad. Bydd hyn hefyd yn eich darparu ag amrywiaeth o gynnwys ar gyfer eich llwyfannau digidol. Cofiwch mai perthynas o’r naill ochr sydd â’ch cymuned, felly cymerwch y camau i sicrhau bod eich cwsmeriaid yn teimlo fel rhan annatod o’ch busnes.
Byddwch yn ddilys
Rhaid i’ch cymuned gredu eu bod nhw’n ymgysylltu â phobl go iawn a phersonoliaeth ddilys. Os ydych chi’n ddilys, mawr eich calon ac yn ddidwyll, bydd eich cymuned yn ymateb i hyn drwy ddatblygu perthnasau go iawn gyda’ch brand. Mae cwsmeriaid yn dod yn fwyfwy craff ac yn adnabod yn syth y busnesau sy’n ffugio diddordeb ar yr arwyneb er mwyn cynyddu gwerthiannau.
Gadewch i ni fod yn bersonol
Datblygwch bersonoliaeth eich brand a rhowch ragor o wybodaeth i’ch cymuned am eich busnes drwy fod yn bersonol. Gallai hyn fod ar ffurf cyfweld â staff, lluniau o’r tîm neu’r tîm yn meddu ar y cyfryngau cymdeithasol. Fel y dywed yr hen air “mae pobl yn prynu wrth bobl”, felly mae’n bwysig bod eich cymuned yn gwybod nad logo yn unig ydych chi ond tîm gwych o bobl.
Gwnewch hi’n hawdd i eraill rannu
Er na ddylech chi boeni’ch cymuned i rannu’ch cynnwys, gallwch wneud hi’n hawdd iddynt wneud hynny. Dechreuwch drwy gynnwys eich botymau cymdeithasol ar eich gwefan, amlygu’ch hashnodau, cynnwys botymau rhannu ar eich cynnwys a darparu dolenni clir.
Byddwch yn gyson
Wrth i bobl ymgysylltu â’ch busnes yn amlach, byddent yn dechrau disgwyl pethau penodol gan eich brand. Er enghraifft, byddent yn adnabod eich cymeriad ac yn disgwyl rhyw lefel o gyfathrebu gan ragweld pa mor aml rydych yn rhyngweithio a’r fath o gynnwys rydych yn ei rannu.
Gwerthfawrogwch eich cymuned
Yn anad dim, mae’n rhaid i chi werthfawrogi eich cymuned. Os yw’ch cwsmeriaid yn cymryd yr amser i siarad am eich brand ac ymgysylltu ag ef, mae’n hanfodol eich bod chi’n dangos parch a gwerthfawrogiad atynt am eu hymdrechion. Ymatebwch, rhyngweithiwch a dechreuwch ddatblygu’ch perthnasoedd gyda’ch ased pwysicaf!
Mae twf llwyfannau digidol wedi’i gwneud hi’n haws nag erioed i dyfu’ch cynulleidfa ar gyfradd esbonyddol ond mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd y camau i drosi’r cwsmeriaid hyn i fod yn gymuned ffyddlon sy’n dod i fod yn hyrwyddwyr eich brand.