Yn lle dibynnu ar weinyddion lleol traddodiadol neu gyfrifiaduron personol i storio, rheoli a phrosesu data, mae’r cwmwl yn caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu a storio’r data hwn dros y rhyngrwyd. Mae’r cwmwl yn dibynnu ar rwydwaith o weinyddion o bell yn hytrach nag un peiriant ac, o ganlyniad, mae’n cynnig buddion gwych i fusnesau, gan gynnwys sioncrwydd, gallu diderfyn a chostau is.
Dyma 4 ffordd y gall eich busnes ddefnyddio’r cwmwl i leihau costau a gwella cynhyrchiant busnes
Lleihau costau gweithredu TG
Gan fod y cwmwl yn defnyddio gweinyddion o bell yn hytrach na pheiriannau mewnol i storio data, nid oes angen prynu caledwedd a meddalwedd drud. Yn sgil natur hyblyg y cwmwl, gall busnesau ‘gynyddu’, trwy ychwanegu gallu, heb fod angen caledwedd ffisegol newydd, pan mae llwyth gwaith yn cynyddu, neu ‘leihau’, pan mae angen lleihau gallu, er mwyn sicrhau nad ydych yn talu am rywbeth nad oes arnoch ei angen.
Cynyddu cynhyrchiant gweithwyr
Gan y gellir cyrchu’r cwmwl o leoliadau pell a chaiff ffeiliau eu diweddaru mewn amser real, gall eich staff fod yn gysylltiedig ble bynnag y maen nhw a phryd bynnag y maen nhw’n gweithio. Trwy gael un hyb canolog i storio prosiectau a ffeiliau, gallwch sicrhau bod eich gweithwyr bob amser yn gysylltiedig, ac yn gweithio ar yr un dudalen.
Arbed ar gostau cymorth TG
Yn ogystal â lleihau costau storio TG, gall y cwmwl ryddhau eich staff TG i weithio ar brosiectau mwy arloesol yn lle canolbwyntio eu hamser ar gynnal a chadw a chynorthwyo gyriannau caled ffisegol a meddalwedd.
Arbed ar gostau ynni
Trwy storio eich data ar weinydd o bell, rydych yn cael gwared ar yr angen am ddyfeisiau fel caledwedd a chyfrifiaduron. Wrth i chi leihau costau rhedeg, gallwch wneud arbedion ynni mawr a lleihau eich ôl-troed carbon. Yn dda ar gyfer eich busnes, yn dda ar gyfer y blaned!