Wedi cychwyn yn cynnig danteithion melys, ac ehangu i fod yn fusnes pobi mawr, mae Blooming Baked yn fusnes sy’n mynd o nerth i nerth. 

Sefydlwyd Blooming Baked yn ffrwyth dychymyg Daniel a Danni Horton. Cafodd y pâr priod o Lannau Dyfrdwy, sy’n ddeuawd busnes erbyn hyn, eu hunain gartref, yn ynysu gyda dau o blant ifanc, ac yn chwilio am ffordd o basio’r amser yn ystod rhwystredigaethau’r cyfnod clo. 

man standing in front of bakery holding a tray of baked goods

 

Bellach, mae’r pâr busnes dibrofiad yn rhedeg busnes ar-lein ffyniannus gyda siop i agor yn Shotton yn ddiweddarach eleni – y ceirios ar ben y deisen i’r pâr entrepreneuraidd. 

Gan ddechrau gyda dim ond brownies ar y fwydlen, yn wreiddiol dan yr enw Blooming Brownies, dysgodd y tîm gŵr-a-gwraig bopeth am bobi eu hunain o gysur eu cegin gartref.  

Dywedodd Daniel: “Fe wnaethon ni benderfynu dechrau busnes becws oherwydd roedd y cyfnod clo cyntaf yn gyfnod brawychus ac roedden ni eisiau dod â hapusrwydd i’r tywyllwch. Mae pawb wrth eu bodd â danteithion blasus, ac roedden ni’n meddwl y byddai’n ffordd wych o gysylltu pobl â’i gilydd eto. 

“Doedd ganddon ni ddim profiad blaenorol o bobi, ond roedd gennym amser. Fe wnaethon ni ymrwymo 100 y cant o’n hamser, ynghyd â gofalu am ein dau blentyn ifanc.  

“Ar ôl naw mis o gynllunio ac ymarfer, fe wnaethom lansio i’r cyhoedd ym mis Ionawr 2021.” 

Ar ôl gwerthu drwy Facebook yn unig am y chwe mis cyntaf, lansiodd y busnes wefan a dechreuodd ddod yn fwy poblogaidd.  

Dechreuodd cwsmeriaid ofyn am greadigaethau blasus eraill, fel rocky road a chacennau bach, a hynny a wnaeth i'r Hortons ailfrandio ym mis Ionawr 2022. Wedi’i ailenwi’n Blooming Baked i gwmpasu’r cynnyrch newydd, roedd yr ail-frandio’n cynnwys logo newydd, iwnifform, a bwydlen wedi’i hailwampio y bu disgwyl mawr amdani.  

Bryd hynny, llwyddodd Daniel i gael cefnogaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau gyda’r nod o sbarduno rhagor o dwf busnes drwy werthu ar-lein.  

couple behind bakery counter with baked goods on display

 

Dywedodd Daniel: “Roedd ein gwerthiant drwy Facebook a’r wefan yn mynd yn dda, ac roedden ni’n postio cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, ond roeddwn i’n gwybod y gallem gael presenoldeb gwell ar-lein a chynhyrchu mwy fyth o werthiant ar-lein – doeddwn i ddim yn gwybod sut i wneud i hynny ddigwydd.  

“Fe wnaeth Nick Palmer yn Busnes Cymru ein helpu ni pan ddechreuon ni’r busnes am y tro cyntaf, gan siarad â ni am ein strategaeth fusnes gyffredinol, ac fe wnaeth ef ein cyfeirio at gymorth digidol Cyflymu Cymru. Mae Nick wedi mynd yr ail filltir yn ei rôl ac mae wedi bod yn ased enfawr i ni. 

“Fe ddechreuon ni weithio gyda chynghorydd, Catrin Williams, a gynhaliodd adolygiad llawn o’n gwefan a’n marchnata. Rhoddodd adroddiad manwl i ni ar y manteision a’r anfanteision, gydag argymhellion ar beth y gellid ei wella – roedd dros 30 tudalen o hyd ac roedd yn rhoi cymaint i ni weithio gydag ef.” 

Roedd y gwelliannau’n canolbwyntio ar optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), gan gynnwys ymchwil allweddair a pherfformiad ar y safle. Yn awyddus i ddysgu mwy am hysbysebu y telir amdano, roedd yr adroddiad hefyd wedi rhoi gwell dealltwriaeth i Daniel o sut mae cynnal ymgyrchoedd talu-fesul-clic (PPC) wedi’u teilwra ar Facebook a Google. 

Ychwanegodd Daniel: “Y prif awgrym i ni oedd optimeiddio ein gwefan gydag allweddeiriau a fyddai’n ymddangos ar Google. Gall SEO fod yn her os nad ydych chi’n gwybod beth rydych chi’n ei wneud, felly roedd yn ddefnyddiol cael rhywfaint o arweiniad ynghylch ble i ddechrau.  

“Fe wnaethon ni dreulio rhywfaint o amser yn gwneud gwaith ymchwil i allweddeiriau ac erbyn hyn rydyn ni wedi dechrau gwneud newidiadau i’n gwefan, fel ychwanegu’r geiriau allweddol at ein copi gwe, ychwanegu disgrifiadau meta, a gwneud llif y wefan yn haws ei ddefnyddio. 

“Mae ein gwerthiant ar-lein wedi dyblu ers cyn yr ail-frandio, ac rydyn ni’n gwybod bod yr holl newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud wedi bod yn fodd i wneud i hyn ddigwydd.

“Yn ddiweddar rydyn ni wedi ychwanegu dadansoddiadau SEO at ein gwefan, felly byddwn ni’n gallu monitro’r cynnydd a pharhau i wella’r safle dros y misoedd nesaf. Rydyn ni hefyd wedi cofrestru ein busnes gyda Google yn ddaearyddol ac rydyn ni wedi gweld canlyniadau hyn bron yn syth – mae ein sylfaen cwsmeriaid leol yn tyfu, ac mae ein cwsmeriaid yn dweud wrthym eu bod wedi dod o hyd i’n gwefan neu ein tudalen Facebook drwy Google.” 

Gyda’r siop yn Shotton yn agor ym mis Medi, mae’r pâr yn gweithio bob awr o’r dydd i gyflawni archebion tra’n paratoi’r uned ar Ffordd Caer.  

Dywedodd Daniel, sydd wedi cyffroi am y dyfodol: “Mae cael y siop yn barod i agor wedi bod yn straen, ond rydyn ni’n gweithio’n galed i gyflawni ein nodau.  

“Rydyn ni’n bwriadu parhau i werthu drwy Facebook ac ar-lein a byddwn yn cyflogi staff i’n cefnogi yn y siop.  

couple in bakery with tray of baked goods and chalkboard menu on wall

 

“Bydd y gwaith o redeg y busnes a’n presenoldeb ar-lein yn parhau wrth i ni ddal i weithio drwy’r adroddiad gan Cyflymu Cymru i Fusnesau.  

“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni ar y trywydd iawn i barhau i dyfu a’n prif nod dros y 12 mis nesaf yw croesawu cwsmeriaid drwy’r drws yn Shotton, yn ogystal â gyrru ochr fasnachol y busnes ymhellach.  

“Rydyn ni’n cyflenwi nwyddau wedi’u pobi i nifer o fusnesau i’w hailwerthu, fel caffis, canolfannau chwarae meddal, a siopau hufen iâ, ac rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy o botensial i ni o fewn gwasanaethau bwyd. 

“Mae’r gefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi ein helpu ni’n aruthrol ac rydyn ni mor ddiolchgar i Nick a Catrin am weithio gyda ni ac am wir ddeall ein busnes a’r hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni. 

“Mae’r cynnydd mewn gwerthiant ar draws Facebook a’r wefan wedi golygu ein bod ni’n gallu agor y siop – rydyn ni wedi cyrraedd pwynt na wnes i erioed feddwl y bydden ni’n ei gyrraedd pan gawson ni’r syniad yn ôl yn ystod y cyfnod clo.  

“Byddwn yn bendant yn argymell y cymorth i fusnesau bach, ac yn enwedig busnesau newydd heb brofiad blaenorol o redeg busnes.” 


Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen