Mae cwmni ansolfedd blaengar o Abertawe wedi achub y blaen ar ei gystadleuwyr gyda'i ymagwedd at dechnoleg ddigidol.

 

Fe wnaeth buddsoddiad rhagweithiol McAlister & Co yn y seilwaith digidol nid yn unig chwarae rôl hanfodol yn adran fasnachol y cwmni yn treblu o ran maint, ond fe gadwodd y cwmni ar y blaen i newidiadau allweddol yn neddfwriaeth y Llywodraeth.

 

Ac mae'r newidiadau wedi cynyddu effeithlonrwydd a morâl staff hefyd. Yn ogystal, mae McAlister & Co, a sefydlwyd yn 2007 ac sy’n cyflogi 18 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig, wedi ennill mantais gystadleuol mewn marchnad afreolus.

 

Mae cyfarfodydd rhithwir wedi lleihau amser a chostau teithio'n ddramatig

 

Dywedodd Sandra McAlister, y sylfaenydd a'r rheolwr gyfarwyddwr: “Bu newidiadau sylweddol i'r modd y gallwn drin achosion o ganlyniad i ddiwygiadau i ddeddfwriaeth Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016. Er enghraifft, gall cyfathrebu a gohebiaeth fod yn electronig. Llwyddom i fod ar flaen y gad drwy weithredu systemau VoIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd), sy'n ein galluogi i gynnal cyfarfodydd rhithwir, sy'n lleihau amser teithio'n ddramatig. Yn ogystal, mae'n golygu llai o gostau gweinyddol.

 

“Yn ystod ein trawsnewidiad digidol cawsom y cyfle i adolygu prosesau'r cwmni, ac yn dilyn adborth gan staff, fe wnaethom uwchraddio i feddalwedd sy'n seiliedig ar y cwmwl. Mae hynny wedi cynyddu effeithlonrwydd yn sylweddol. Rhan o'n rôl yw dadansoddi cofnodion ar ddatganiadau banc. Yn hanesyddol, roedd y rhain yn cael eu rhoi ar daenlen â llaw, ac roedd hynny'n gallu cymryd diwrnod cyfan, yn ogystal â bod yn agored i wallau dynol. Mae'r camau hyn yn cymryd ychydig funudau yn unig erbyn hyn, ac yn lliniaru unrhyw gamgymeriad.

 

Mae marchnata digidol yn allweddol ar gyfer sbarduno twf

 

“Fe wnaethom ni hefyd gyflwyno system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid sy'n seiliedig ar y cwmwl, sy'n ein galluogi i neilltuo staff i gyfarfodydd newydd yn seiliedig ar leoliad. Mae hynny'n golygu bod amser teithio yn cael ei leihau ymhellach fyth. Mae'r app hefyd yn galluogi'r tîm gwerthu i gael gafael ar ddata cwsmeriaid ar eu ffôn wrth iddyn nhw symud o le i le.”

 

Mae Sandra hefyd yn cyfeirio at groesawu marchnata digidol fel sbardun allweddol o ran llwyddiant y busnes. Mae'r cwmni wedi cynnal trosiant o fwy na £1 miliwn am y tair blynedd diwethaf ac wedi cyflogi dau aelod newydd o staff yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Ychwanegodd: “Daw hanner ein busnes masnachol drwy farchnata ar-lein. Defnyddiais YouTube i ddysgu am dalu fesul clic (PPC), ac rwy'n gweithio'n agos gyda'n hasiantaeth allanol i redeg ymgyrchoedd hysbysebion Google llwyddiannus. Yn ogystal, rydyn ni’n cyfuno’r digidol a’r traddodiadol. Rydyn ni’n postio cylchlythyr wedi ei argraffu unwaith y flwyddyn, ac mae’n cael ei groesawu’n fawr gan fod pobl yn hoffi cael rhywbeth drwy'r post.

 

Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau syniadau ar gyfer tactegau yn y dyfodol

 

“Rydyn ni hefyd wedi cael cymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau i helpu i nodi cyfleoedd a syniadau newydd. Cefais sesiwn un i un ac adroddiad marchnata gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, a oedd yn eithriadol o dda a gwerthfawr. Fe wnaethon nhw agor fy llygaid i lawer o gyfleoedd a gollwyd, yn ogystal â syniadau ar gyfer tactegau yn y dyfodol.

 

“Yn benodol, buom yn trafod marchnata cynnwys a Chysylltiadau Cyhoeddus i gyflwyno'r busnes fel cwmni arbenigol. Ers hynny rydyn ni wedi cynnal seminarau a gweithdai i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl allweddol, gan gynnwys cyfreithwyr a chyfrifwyr, ar newidiadau deddfwriaethol ac arferion gorau. Yn y dyfodol, rydyn ni’n gobeithio cynhyrchu seminarau fideo ar y we fel bod modd mynd at ein cynnwys yn unrhyw le yn y byd.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen