Dysgwch sut wnaeth Lisa Fearn gyfuno ei sgiliau a’i diddordebau i greu ysgol goginio i blant. Ar ôl tyfu’n llwyddiannus a derbyn cymorth digidol, mae Lisa yn adnewyddu hen feudy i greu ysgol goginio a chaffi llawer yn fwy.
Dwi’n rhedeg ysgol goginio Y Pumkin Patch. Ni’n dysgu plant ac oedolion i goginio.
Ydw, dwi’n caru bwyd. Ond wrth gwrs hyd yn oed os nad ydych chi’n caru bwyd, rhaid i chi fwyta 3 gwaith y dydd. Felly mae angen i bawb goginio.
“Ti moin mynd draw fan’na dishwgl? Golchwch eich dwylo. Oce?”
O’n i ddim yn gweithio achos fy mod yn codi teulu ifanc. Teulu o bump o blant bach.
Roedd gen i hyder mewn coginio, garddio a phlant. Felly, ges i’r syniad o agor ysgol goginio i gyfuno’r tri peth yna.
Fi wrth fy hunan ar hyn o bryd, ond mae gen i bump o blant. Mae pob un o nhw’n helpu i wneud gwahanol jobs ar wahanol amseroedd.
“Ti mod beth galle ti neud? Neud rhai getre a’u rhoi nhw i dadi Nadolig”
Dwi’n defnyddio tipyn o’r cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, Twitter ac Instagram ac mae rheini’n cyrraedd gwahanol bobl.
“Mae hi’n dysgu ni technegau fel torri, a fel i goginio pethau gwahanol ym mhob gwers.”
“Mae’r merched hefyd yn joio. Sdim ishe i fi gwca na glanhau lan heno!”
Mae hi’n dysgu ni am fwyta’n iach – ac am gacennau hefyd!”
Nes i gysylltu â Chyflymu Cymru i Fusnesau i wneud yn siŵr bod fy ngwefan yn edrych ar ei orau a’i fod yn cysylltu â’r bobl gywir.
“Ife tri o rheina?”
Yn wreiddiol, nes i gysylltu â Chyflymu Cymru i Fusnesau a mynd ar gwrs i weld pa wybodaeth oedd ei hangen arna i.
Wedyn, daeth Paul i’r tŷ i edrych ar y wefan a gweld pa fath o bethau oedd angen ei newid i gynyddu’r busnes.
Mae e nawr yn golygu fy mod yn deall pethau fel keywords a Search Engine Optimisation.
Lot o eiriau mawr ond y pethau bach syml yna i neud yn siŵr bod y bobl gywir yn gweld y wefan.
Erbyn hyn dwi am gael gwefan newydd fydd yn cynyddu’r busnes gobeithio a bydda i’n gweld lles mawr.
“Blasa fe ’to ar y diwedd i weld a oes ishe mwy. Oce?”
Mae defnyddio technoleg ddigidol yn golygu bod y cwsmeriaid hynny sy’n gweld y wefan hefyd yn gallu bwcio pethau. Ac wrth gwrs, mae’r busnes yn cynyddu.
O fewn y 6 mis nesa, fi’n gobeithio symud yr ysgol goginio o fan hyn.
Rydyn ni wedi bod yma ers 10 mlynedd nawr a symud lawr i’r sieds i adeilad sydd wedi’i wneud yn bwrpasol ar gyfer yr ysgol goginio gyda siop goffi.
“Rhys, paid â cwympo. Ôl-reit?”
Beth chi’n meddwl o’r syniad hyn? Dodi coeden i dyfu fan hyn y tu fewn o flaen y ffenest.
“Waw! Cŵl!”
Byddwn ni’n symud mewn i’r sied mewn 2 neu 3 mis. Erbyn hynny, fi’n gobeithio y bydd gennym ni rhyw 5 neu 6 o staff.
“Reit, off â ni. Mae’n oer ma!”
Bydden i’n annog unrhyw un i gysylltu â Chyflymu Cymru i Fusnesau. Gallan nhw fod o lês i chi a rhoi cymorth i chi yn y byd digidol.