Lle mae geiriau’n methu, mae cerddoriaeth yn siarad.

Yr awdur enwog, Hans Christian Andersen, oedd y cyntaf i yngan yr ymadrodd hwnnw, sydd wedi’i fabwysiadu gan berchennog Resonance Music Studio, Paul Edwards.

Nod y cyfansoddwr a’r addysgwr o Ben-y-bont ar Ogwr yw rhoi llais i bawb trwy ei gyrsiau cerddoriaeth.

Paul at Resonance Music Studio

 

Fe wnaeth Paul, sydd â chefndir mewn cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth draddodiadol a modern, lansio cwrs o’r enw ‘Couch to Five Chords’ ar ôl gofyn am help a chefnogaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Fe wnaeth sesiwn un i un gyda’r cynghorydd, Peter Mackenzie, a adolygodd wefan Paul, hoelio sylw’r cerddor ar greu rhaglen addysgu.

Meddai Paul, a lansiodd y cwrs ddiwedd y llynedd: “Roedd Peter yn hapus gyda’r ffaith bod y wefan yn esbonio pwy ydw i a beth rwy’n ei wneud, ond y peth mawr oedd ar goll oedd y ffaith nad oedd yn gwerthu dim ac roedd angen i hynny newid.

“Meddyliais am roi cerddoriaeth arni, ond mae cymhlethdodau o ran hawlfraint, felly dyna pryd y penderfynais i ddechrau fy nghyrsiau a’m platfform dysgu ar-lein fy hun.

“Rwy’n gitarydd ac mae pobl yn dathlu fy nawn pan rwy’n chwarae, rhywbeth rwy’n ei gymryd yn ganiataol. Roedd y gallu i drosglwyddo’r sgiliau hynny i eraill yn gwneud synnwyr.”

 Aeth y cyn athro ysgol, Paul, ati i lunio cynllun i lansio cwrs am ddim ar Teachable, a fyddai’n bwydo i gynllun hyfforddi mwy y mae’n rhaid talu amdano.

Pan roedd popeth yn ei le, hysbysebodd y cwrs ar Facebook, gyda chyngor Peter ar ddefnyddio mwy o’r cyfryngau cymdeithasol yn canu yn ei glustiau.

Meddai Paul ymhellach: “Mae cyrraedd adeg lansio’r cwrs wedi bod yn arafach, ond roeddwn i am wneud yn siŵr bod popeth yn gywir, ac roedd y niferoedd ar y cwrs cyntaf yn galonogol iawn.

“Roedd Peter yn awyddus iawn i mi gynyddu nifer fy negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys fideos ohonof i’n chwarae’r gitâr a chynnwys yn ymwneud â fy ngwaith cynhyrchu, i ledaenu ymwybyddiaeth o’r hyn yr oedd gen i i’w gynnig a chynyddu nifer fy nilynwyr – gweithiodd hynny, heb os. 

“Cofrestrodd dros 50 o bobl ar gyfer y cwrs am ddim, sy’n addawol iawn, ac rwy’n optimistaidd y bydd mudo i’r opsiwn â thâl. 

“Rwy’ wedi cael rhai niferoedd da iawn o ran metrigau ar fy nhudalen Facebook ers rhoi mwy o ffocws ar gynhyrchu cynnwys.

“Roedd un neges yn hysbysebu’r prif gwrs wedi cyrraedd dros 6,000 o bobl, gyda’n agos at  11,000 o argraffiadau a chliciwyd ar ddolenni dros 200 gwaith.

“Hefyd, dilynodd dros 50 o bobl newydd y dudalen, gyda’r nifer sy’n rhannu ac yn hoffi yn cynyddu hefyd.”

Mae cyngor Peter hefyd wedi helpu hybu gwefan y cwmni ac mae Paul wedi gweithio’n galed i wella pob agwedd ar y busnes.

Gwnaed awgrymiadau ar ôl archwilio i optimeiddio peirannau chwilio (SE) ac oherwydd bod Paul wedi derbyn y rhain, cafwyd cyfres o ganlyniadau cadarnhaol.

Paul in his music studio

 

Meddai: “Roedd Peter am i mi wella’r ôl-ddolenni ar y safle, a fyddai’n helpu gyda SEO, ac mae mor gyfredol â phosibl nawr, yn fy marn i.

“Mae dolen i raglen ddogfen y BBC o’r enw Strong Women, y bues i’n gweithio arni, ynghyd â chyfweliad ar ITV yn siarad am Richard ‘Dil’ Williams a helpu i gynhyrchu ei gân Nadoligaidd, A Picture of Christmas.

“Yn sicr, o ran ymweliadau ac edrychiadau, mae’r wefan yn gweithio’n well nag yn y gorffennol, a diolch i’r argymhellion a gefais y mae hynny.

“Bues i’n edrych ar y ffigurau ar gyfer y 30 diwrnod diwethaf ac mae’r edrychiadau wedi cynyddu 177 y cant ac mae ymweliadau unigryw i fyny 67 y cant, gyda rhyw dair tudalen yn cael eu gweld ar gyfartaledd, sy’n awgrymu nad yw pobl yn clicio i ffwrdd yn syth.

“Awgrymodd Peter y gallai cyflymder y safle gael ei wella ac mae hynny’n un peth arall wedi’i gwblhau ar y rhestr o bethau i’w gwneud.”

Ni fydd Paul yn gorffwys ar ei rwyfau, serch hynny, gan fod cynlluniau ar y gweill i ymestyn ei gynnig yn y dyfodol, ynghyd â chynyddu ei ddefnydd ar y cyfryngau cymdeithasol ymhellach.

Dywedodd: “Pan ddechreuais i feddwl am y cwrs addysgu, roeddwn i am gynnig rhywbeth gwahanol i’r mwyafrif, sy’n aml yn arddangos eu dawn heb esbonio sut y cyrhaeddont eu lefel bresennol.

“Rwy’ wedi addysgu fy hun ac rwy’ am ysbrydoli a helpu cynifer o bobl â phosibl i chwarae’r gitâr, felly dilynais i lwybr y cwrs ‘Couch to Five Chords’.

paul playing guitar

 

“Hoffwn i ddangos i bobl beth rwy’n gallu ei wneud, a allai, rwy’n amau, helpu’r bobl sy’n ystyried gwneud y cwrs i ymddiried ynof i!

“Gyda hynny mewn cof, rwy’ wedi ystyried defnyddio TikTok ynghyd ag ychwanegu fideos at Facebook ac YouTube fel rwy’n gwneud yn barod.

“Yna, y nod tymor hwy ywlansio cwrs cyfansoddi cân, sy’n clymu â’m gwaith fel cyfansoddwr.

“Hefyd, rwy’n ystyried sut i wella fy ngwefan yn gyson a ph’un a yw hynny’n golygu symud o Weebly i WordPress; mae’n ymddangos bod hwnnw’n cael mwy o effaith ar Google, ond cawn weld.”


Gweld rhagor o hanesion llwyddiant busnes


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen