Boed yn ofalu am lewod yn Folly Farm, trin adargi bach melyn neu ddarparu gofal 24 awr i anifeiliaid fferm ac anwes lleol, mae milfeddygfa Allen a’i Bartneriaid yn Sir Gâr yn mynd yr ail filltir. Mae’n frwd iawn dros les anifeiliaid, ac yn cynnal Clwb Anifeiliaid Anwes Tew wythnosol yn rhad ac am ddim, ac mae’n un o’r ychydig filfeddygfeydd yn yr ardal sy’n darparu ôl-ofal therapi laser i gyflymu gwellhad y claf.

 

Picture of people holding dogs

 

Daeth yr ateb drwy dechnoleg ddigidol

 

Gyda rhestr y cleifion yn tyfu, labordy i’w rhedeg ar y safle, a bod ar alw 24/7, roedd angen i’r filfeddygfa ddod o hyd i ffordd o leihau’r pwysau sydd ynghlwm wrth gynnal practis prysur, a helpu i feithrin mwy o gyswllt â’i chwsmeriaid. A thechnoleg ddigidol oedd yr arwr annisgwyl. Cyflwynwyd system meddalwedd newydd, cofleidiwyd y cyfryngau cymdeithasol, a gofynnwyd am gyngor arbenigol drwy fenter Llywodraeth Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Bu staff y practis mewn gweithdy digidol dan ofal Cyflymu Cymru i Fusnesau i ddysgu sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn well i gyrraedd pobl sy’n hoff o anifeiliaid. Cawsant gyngor un ag un hefyd ar ddatblygu gwefan, dadansoddeg, a marchnata ar-lein a thrwy ebost. Roedd y tîm o’r farn y byddai cyfathrebu â’r cwsmeriaid drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnal ac yn meithrin eu perthynas â’r cleientiaid. Byddai hefyd yn gyfle i gwsmeriaid i rannu eu straeon a’u negeseuon o ddiolch â’r gymuned ehangach.

 

Rydym wedi arbed amser ac yn gweithio’n fwy effeithlon

 

Cyn cael cymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau, roedd milfeddygfa Allen a’i Bartneriaid wedi cael llif o gwsmeriaid newydd, ac felly penderfynodd y practis fuddsoddi yn ‘Rapport’, offeryn ar-lein yn benodol i filfeddygon sy’n rheoli stoc, yn darparu adnodd archebu ar-lein ac yn anfon negeseuon awtomatig i atgoffa’r cwsmeriaid am eu hapwyntiadau.

 

Mae Rapport wedi rhoi mwy o amser o lawer i staff y practis i ganolbwyntio ar drefnu dyddiaduron y milfeddygon, o achosion brys megis damweiniau traffig ar y ffyrdd a thrafferthion bwrw lloi, i’w hapwyntiadau arferol o ddydd i ddydd. Ond er mwyn gwneud y defnydd gorau o amrywiol nodweddion y system, roedd angen cysylltiad cyflym a dibynadwy â’r we. Roedd y cysylltiad ysbeidiol yn atal llawfeddygon rhag cyflawni ymchwil pwysig gan gynnwys gweld cyfraddau dognau moddion a rhannu gwybodaeth am achosion cymhleth.

 

Cafodd Allen a’i Bartneriaid yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gâr, ei sefydlu yn 1989 yng nghartref y sylfaenydd, W.G Allen. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r practis yn cyflogi 20 aelod o staff – gan gynnwys naw milfeddyg a thîm nyrsio – ac yn darparu gofal meddygol i anifeiliaid bach a da byw, yn ogystal ag ambell i rywogaeth egsotig.

 

Gallwn ddarparu gofal o’r ansawdd gorau i’n hanifeiliaid anwes

 

“Mae’r feddalwedd newydd, ynghyd â chysylltiad band eang ffibr dibynadwy, wedi cael effaith wirioneddol gadarnhaol ar y ffordd rydym yn gweithio o ddydd i ddydd,” meddai Judy Bellingham, cydlynydd marchnata’r cwmni. “Roedd yr hen gysylltiad yn achosi problemau i’r milfeddygon oherwydd roedd angen iddynt allu defnyddio’r rhyngrwyd yn gyflym ac yn rhwydd er mwyn darparu triniaethau, ond nawr mae’r system yn gweithio’n esmwyth iawn.

 

“Yn ogystal, mae gallu trefnu apwyntiadau ar-lein yn gwneud pethau’n haws i’n cwsmeriaid sy’n byw bywydau prysur, ac oherwydd ein bod yn afon negeseuon atgoffa atynt mae llai o apwyntiadau’n cael eu methu. Mae’n rhoi mwy o hyder i’r perchnogion y bydd eu hanifeiliaid anwes yn cael y driniaeth orau, a hynny mewn da bryd.

 

“Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu deunyddiau e-farchnata, fel e-gylchlythyr misol neu chwarterol, yn ogystal â gwella ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn trefnu hysbysiadau ymlaen llaw ar Facebook ac yn rhannu newyddion a straeon perthnasol ac amserol, yn arbennig felly i berchnogion da byw ac anifeiliaid anwes lleol. Mae’r busnes wedi cymryd camau technolegol eithaf arwyddocaol dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi ychwanegu at effeithiolrwydd ein gwaith ac wedi gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’n cwsmeriaid.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen