Dysgwch sut mae Hope Rescue yn defnyddio technoleg ar-lein i helpu gwella bywydau cŵn crwydro neu gŵn sydd wedi’u gadael yn Ne Cymru.

Mae defnyddio technoleg y cwmwl, systemau talu electronig, y cyfryngau cymdeithasol a systemau Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VOIP) yn allweddol i gadw’r siop elusen a’r ganolfan achub mewn cysylltiad fel y gallant gyrraedd rhagor o bobl i gefnogi'r gwaith hanfodol a wnânt.
 

 

Sefydlwyd Hope Rescue yn 2005 i helpu cefnogi cŵn crwydro neu gŵn sydd wedi’u gadael yn Ne Cymru. Ar hyn o bryd, mae'r elusen yn cymryd yr holl gŵn crwydro gan dri awdurdod lleol ac yn cymryd cŵn gan berchnogion sy'n wynebu argyfwng ac na allant gadw eu hanifeiliaid anwes bellach.

 

Prynodd Hope Rescue ei ganolfan achub gyntaf yn Llanharan yn 2017, sy’n darparu 51 cwt achub, 20 cwt breswyl, 18 erw o goetir a 2 padog – ac mae'n lleoliad gwych i helpu i wella lles a chyfleoedd i gŵn sy'n dod i’r elusen.

 

Mae'r siop elusen ym Mhontypridd hefyd yn darparu ffurf incwm pwysig iawn i'r elusen i helpu'r tîm sy'n rhedeg y ganolfan achub.

 

Roedd cael canolfan achub a siop elusen yn gam mawr ymlaen i Hope Rescue – a gyda'r 2 wedi’i lleoli ar wahân, mae'n hollbwysig bod y dechnoleg ar waith i gysylltu gwahanol feysydd y busnes gyda'i gilydd.

 

Yn ddiweddar, mae Hope Rescue wedi newid i ddefnyddio band eang cyflym iawn, sydd wedi caniatáu i'r elusen dyfu ei seilwaith i wneud eu gweinyddu, eu gweithgareddau masnachol a'u marchnata ar-lein.

 

Yn siop yr elusen, mae gan Hope Rescue systemau POS a darllenydd cerdyn electronig, yn ogystal â gwahanol sgriniau sy'n galluogi cwsmeriaid cael gafael ar wybodaeth ar y wefan i ddysgu rhagor am wirfoddoli a'r cŵn sy'n chwilio am gartrefi.

 

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf wych i helpu ennyn cefnogaeth ar gyfer Hope Rescue, ond mae llwyfannau, megis Workplace by Facebook a fideo gynadledda trwy Skype hefyd yn galluogi’r tîm i gyfathrebu ar draws eu gwahanol safleoedd a gyda gwirfoddolwyr a staff mewn lleoliadau pell. 

 

Mae gosod system IP troslais newydd wedi golygu y gall yr elusen bellach dderbyn galwadau am gŵn crwydro y tu allan i oriau arferol.

 

Mae defnyddio technoleg i wella cyfathrebu yn hanfodol ar gyfer y gwaith y mae Hope Rescue yn ei wneud i ddod â'r gefnogaeth hanfodol a'r rhoddion a fydd yn parhau i wella bywydau cŵn yn Ne Cymru.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen