Yn Nyffryn Gwy hardd, gwna Llaethdy Brookes hufen iâ a chaws sy’n boblogaidd â bwytai a gwestai lleol a gwerthir gan fasnachwyr mawr yn cynnwys Waitrose a Morrison’s.

Ar ôl cymorth SEO am ddim o Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae’r teulu’n defnyddio’i wefan a chyfryngau cymdeithasol i rannu ei hanes, arddangos cynnyrch a chael mwy o gwsmeriaid.

 

 

Panta Farm ym mhrydferthwch Dyffryn Gwy yw lleoliad Brooke’s Dairy.  Mae’r teulu wedi bod yma ers dros 30 mlynedd ac maen nhw’n cynhyrchu hufen iâ a chaws o’r llefrith ddaw o’u buches Jersey pedigri.  Mae’r llefrith yn berffaith ar gyfer gwneud hufen iâ a chaws gan fod llawer iawn o fraster menyn a phrotein ynddo sy’n creu’r blas hufennog trwchus.

 

Cynhyrchu hufen iâ oedd Brooke’s Dairy yn wreiddiol, ond wrth i’r busnes dyfu, maen nhw wedi ychwanegu cynnyrch newydd fel sorbet sy’n boblogaidd mewn allfeydd adwerthu a thai bwyta.  Mae eu gradd pum seren ac achrediad SALSA yn golygu eu bod yn gallu gweithio gydag adwerthwyr mawr fel Waitrose a Morrisions.

 

Yn fwyaf diweddar maen nhw wedi dechrau gwerthu caws brie meddal a ddatblygwyd gan Hannah.  Er mai dim ond llwythi bychain mae hi’n eu cynhyrchu ar hyn o bryd, mae’n boblogaidd iawn.  Mae’r caws eisoes wedi ennill y wobr Arian yn y Sioe Fawr a’r wobr Aur yng Ngwobrau Caws y Byd.

 

Fel llawer o fusnesau, roedd gan Brooke’s Dairy eu gwefan eu hunain ond nid oeddynt yn gwneud defnydd llawn ohoni.  Ond ers iddyn nhw ddechrau gwneud caws, mae’r tîm wedi bod yn edrych ar yr hyn mae busnesau eraill yn ei wneud a sylweddoli bod arnynt angen cymysgu dulliau traddodiadol ac ar-lein o farchnata.

 

Cyfuniad o ddefnyddio Twitter a Facebook ynghyd ag ymweld â phobl a rhannu samplau cynnyrch fydd dyfodol y busnes.

 

Bu Brooke’s Dairy yn bresennol mewn gweithdy SEO gan Cyflymu Cymru i Fusnesau oedd yn gymorth mawr iddyn nhw.  Rhoddodd y gweithdy wybodaeth iddyn nhw am y pethau y dylent fod yn eu gwneud gyda’u gwefan i wneud i’r busnes dyfu.

 

I Hannah dau o’r prif bethau a gafodd o’r gweithdy oedd sut i ddefnyddio Mailchimp i gyrraedd cronfa ddata o gwsmeriaid i hyrwyddo eu cynhyrchion newydd.  Hefyd maen nhw wedi edrych ar archebu ar-lein, ar gyfer eu caws newydd ac ar gyfer eu cwsmeriaid hufen iâ presennol, er mwyn ei gwneud yn haws prynu gan y busnes.

 

Mae bod ar-lein yn rhoi arf anhygoel i Brooke’s Dairy ymchwilio i gwsmeriaid posib, ond hefyd i ddweud stori a hanes y fferm.  Gan fod y tîm wedi dechrau defnyddio mwy ar gyfryngau cymdeithasol erbyn hyn, maen nhw wedi darganfod eu bod yn gallu dysgu am yr hyn mae cwmnïau eraill yn ei wneud a deall beth mae cwsmeriaid ei eisiau gan gynnyrch newydd.

 

Mae Brookes Dairy yn gyffrous am sut y gall defnyddio llwyfannau ar-lein eu helpu i dyfu yn y dyfodol.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen