Mae TPG Consulting, o Gaerdydd, yn cynnig gwasanaethau adeiladu a rheoli cyfleusterau i’w gleientiaid yn ogystal â bod yn syrfewyr adeiladu siartredig a rhedeg desg gymorth i gleientiaid.

Ers newid i Fand Eang Cyflym Iawn a symud popeth i'r cwmwl a dod yn fwy ystwyth, mae eu swyddfeydd yn gallu cydweithio’n well â’i gilydd, gyda'u syrfewyr allan yn y maes ac â phobl eraill.

Un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol yw datblygu eu meddalwedd mewnol eu hunain. Mae hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach a'i farchnata i ddod â ffynhonnell newydd o elw i’r cwmni, rhywbeth nad oedd yn bosibl cyn cael Band Eang Cyflym iawn.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen