I un cynhyrchydd bwyd yn Ne Cymru, rhoddodd cyngor digidol gan wasanaeth cefnogi busnes rywbeth iddyn nhw gnoi cil drosto, ac mae Terry’s Patisserie yn awr yn cael llwyddiant, gyda’r trosiant ar fin dyblu am yr eilwaith yn yr un nifer o flynyddoedd.

Mae cyfarwyddwr datblygu busnes y cwmni, Rhys Williams wedi mynychu gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn darganfod y pethau i wneud a’r pethau na ddylech eu gwneud ar gyfer marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan, wrth i’r cwmni teuluol o Gaerffili gyrraedd cam canolog ei siwrnai.

Mae Terry’s Patisserie, sy’n arbenigo mewn cyflenwi teisennau ar gyfer arlwywyr o safon, yn cynnwys tartennau, teisennau siocled a theisennau caws wedi trawsnewid o fod yn “fusnes cartref i fod yn wneuthurwr go iawn”.

 

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi tynnu sylw at rai o faterion gwirioneddol bwysig

Mae Rhys yn credu bod ei bresenoldeb digidol wedi chwarae rhan hanfodol o gael gwaith gyda chyfanwerthwyr y gwasanaethau bwyd a chadwyni gwestai a bwytai. “Mae canfyddiadau wedi newid,” dywedodd. “Mae’r wefan newydd a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol yn ein portreadu ni mewn goleuni mwy proffesiynol, ac yn ein hystyried fel rhywun a all ymdrin â chontractau mwy.

“Roeddem ni’n dechrau denu mwy o sylw, diolch i arddangos mewn sioeau masnach ac ennill achrediad diwydiant uchel SALSA (Cymeradwyaeth Cyflenwr Diogel a Lleol), sy’n dangos bod ein gwaith ni at lefel a safon benodol.

“Roeddem ar ganol adeiladu gwefan newydd a thynnodd Cyflymu Cymru i Fusnesau sylw at rai o faterion gwirioneddol bwysig, yr oedden ni’n gallu eu gweithredu cyn iddi fynd yn fyw. Er enghraifft, oherwydd bod mwy o bobl yn ymweld â gwefannau ar eu ffonau symudol o’i gymharu â chyfrifiaduron pen desg, roedden nhw yn argymell y dylai fod ar gyfer dyfeisiau symudol yn gyntaf er mwyn darparu ar gyfer hyn.

 

Roedd y cyngor yn un gwerthfawr

“Yn ychwanegol, rhoddodd y gweithdy gymorth inni gyda OPCh (optimeiddio peiriannau chwilio) er mwyn ein helpu ni i drefnu ymadroddion allweddol yn ôl blaenoriaeth yn y canlyniadau chwilio, yn ogystal â Google Analytics, fel y gallwn ni nodi beth oedd pobl yn ei wneud wrth iddyn nhw gyrraedd y safle.

“Ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, awgrymwyd ein bod yn canolbwyntio ar LinkedIn gan ein bod yn targedu gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth bwyd B2B, a rhoddwyd rhai awgrymiadau inni hefyd ynglŷn â’r cynnwys gorau i’w gyhoeddi ar y platfform er mwyn mwyhau’r canlyniadau. Roedd yr holl wybodaeth yn werthfawr iawn!”

Mae Terry’s Patisserie yn ychwanegu safle 800 troedfedd sgwâr at ei weithrediadau eleni wrth iddo ehangu i wneud crwst. Hefyd, mae’r busnes, sy’n cyflogi 12 yn cyflwyno system CAM er mwyn ymdrin â’r gwaith ychwanegol sydd ynghlwm â’r adran deisennau a’r adran grwst.

 

Bydd meddalwedd CAM yn ein helpu ni leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd

Ychwanegodd Rhys: “Mae CAM yn feddalwedd cynllunio adnoddau menter ac mae’n brosiect anferth inni. Mae derbyn achrediad gan SALSA ac ennill contractau newydd yn cynyddu’r gwaith papur yn sylweddol gan gynnwys anfonebau, gwerthiant, olrheiniadwyedd, stoc a chost. Bydd CAM yn symleiddio hyn inni, ac mewn gwirionedd, bydd yn lleihau costau ac yn cynyddu effeithlonrwydd.

“Bydd hefyd yn gweithredu fel clorian i bwyso ac mae cynhyrchu yn parhau yn unig os yw’r rysáit yn cael ei lynu ato: os yw 200g o fenyn yn y rysáit ond os nad yw’n cael ei gynnwys yn y broses gweithgynhyrchu, bydd y broses yn stopio. Bydd hyn yn cynyddu cynnyrch ac yn rheoli ansawdd yn ddramatig.

Unwaith y mae CAM wedi cael ei sefydlu, byddwn yn datblygu’r wefan yn safle e-fasnach, a fydd yn caniatáu cwsmeriaid i archebu yn uniongyrchol oddi wrthym ni. Gwnaethom ddyblu ein trosiant y llynedd i £250k, a’n nod yw ailadrodd hyn a gwneud £500k y flwyddyn nesaf. Rydym yn teimlo yn hyderus iawn, yn seiliedig ar yr isadeiledd digidol sydd gennym, a’r hyn a fydd gennym.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen