Mae cwmni bwyd cŵn, sef menter ddiweddaraf entrepreneur amaethyddol cyfresol, wedi mwynhau blwyddyn weithredol gyntaf garlamus gan ennill pedair gwobr ddiwydiant a chynyddu gwerthiannau gan fwy na 10 gwaith rhwng mis Mehefin a mis Hydref.

 

Sefydlodd Beth James TP Feeds, a leolir yng Nghydweli, Sir Gâr, ym mis Ebrill 2017 a derbyniodd dri chontract masnach o fewn y mis cyntaf. Erbyn hyn mae gan y busnes gwsmeriaid ar draws y Deyrnas Unedig gan gynnwys yn Llundain, Dyfnaint, Henffordd, Glannau Mersi a ledled De Cymru. Mae hefyd wedi ehangu’r hyn y mae’n ei gynnig drwy lansio rysáit bwyd cathod ar ddechrau’r flwyddyn.

 

Picture of dog food and dog bowl

 

Sefydlodd Beth, y mae ganddi ddau fachgen, TP Feeds ar dyddyn ei theulu sydd hefyd yn gartref i gwmnïau eraill Beth. Ymhlith ei busnesau eraill mae hyfforddi cŵn adar a chyflenwi cig maes o’r fferm. Yn flaenorol, rhedodd siop anifeiliaid anwes ar-lein arobryn, The Working Pet, ac oddi yno cafodd y syniad am TP Feeds.

 

Meddai: “Penderfynais ganolbwyntio ar fwyd cŵn fforddiadwy, o safon uchel. Mae’n bwnc rwy’n angerddol drosto o ganlyniad i fod yn berchen ar gŵn gweithio a’u hyfforddi fy hun, yn ogystal â bod yn ferch i filfeddyg ymddeoledig.

 

Arweiniodd integreiddio prosesau digidol gyda phrosesau traddodiadol at lwyddiant

 

“Ni feddyliais byth y byddai mor llwyddiannus mewn cyfnod amser mor fyr. Gosodais darged ceidwadol o ennill dau fanwerthwr yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, ac roedd gennyf dri ymhen dyddiau o lansio’r busnes! Rhoddodd hwb enfawr i’m hyder.

 

“Mae integreiddio prosesau digidol gyda phrosesau traddodiadol wedi helpu’r llwyddiant. Er enghraifft, derbyniodd un o’m postiau ar Facebook lawer o ymgysylltu a chynyddodd hynny ei gyrhaeddiad. Gwelodd prydferthwr cŵn yng Ngheredigion fy mhost a chysylltodd â mi drwy lwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chyfarfod â mi yn ystod digwyddiad lleol y cefais stondin ynddo. Erbyn hyn mae’n gwerthu fy nghynyrchiadau i ategu gwerth i’w gwsmeriaid.

 

“Hefyd, rwy’n arolygu fy nadansoddeg Google bob dydd, yn enwedig ar ôl i mi fynychu sioeau sirol a ffeiriau sirol a sylwaf fod cynnydd yn nifer y traffig gwe ac yn nifer y pryniannau trwy fy safle e-fasnach. Pan dderbyniaf archebion trwy’r wefan defnyddiaf PayPal, sy’n fy ngalluogi i reoli cronfeydd a thaliadau’n hawdd.

 

“Defnyddiaf ddadansoddeg y safle i hysbysu fy nhactegau. Er enghraifft, derbyniaf adroddiadau wythnosol a gwn fod fy mlog yn denu llawer o ymwelwyr. Nodaf y pynciau sy’n boblogaidd ac mae’r sgyrsiau’n parhau trwy bostiau dilynol. Rwyf hefyd yn dadansoddi data cwsmeriaid, gan gynnwys arferion prynu. Golyga hyn y gallaf anfon negeseuon e-bost pwrpasol a phersonol trwy Mailchimp, sydd â chyfradd ymatebion ragorol ac yn cynyddu gwerthiannau.”

 

Helpodd Cymru Cyflym i Fusnesau i wella fy ngwefan

 

Mynychodd Beth weithdy Y Digidol Amdani Cymru Cyflym i Fusnesau yn fuan ar ôl lansio’r busnes i wirio ei gweithgarwch ar-lein i sicrhau ei bod yn gweithredu mor effeithlon â phosib.

 

“Roedd y cwrs yn dda am ei fod yn trafod agweddau amrywiol o hyrwyddo gwefan,” ychwanegodd. “Ar ôl y gweithdy newidiais ychydig ar y gosodiad i roi delweddau baner ar draws brig y dudalen hafan, yn ogystal â gosod negeseuon allweddol a chynnwys mewn mannau amlwg ar frig y dudalen. Edrychodd fy safle yn llawer gwell, ac roedd yn fwy deniadol a phroffesiynol.

 

“Hefyd derbyniais adroddiad diagnosteg gan ymgynghorydd Cymru Cyflym i Fusnesau ar ôl y sesiwn a restrodd feysydd i’w canolbwyntio arnynt ac awgrymiadau ar gyfer mân newidiadau. Rhoddodd dawelwch meddwl pellach fod rhan allweddol o’m busnes yn effeithiol.”

 

Parhau i ddefnyddio marchnata ar-lein ac all-lein i dyfu’r busnes

 

Mae Beth yn parhau i chwilio am gyfleoedd integredig ar-lein ac all-lein i gynorthwyo â thwf y cwmni ym mlwyddyn dau, sy’n cynnwys creu partneriaeth barhaus ag un o atyniadau ymwelwyr mawr Cymru yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am y rysáit bwyd cathod.

 

Ychwanegodd: “Cafodd y rysait bwyd cathod ei lansio o ganlyniad i siarad â chwsmeriaid y dywedasant wrthyf fod eu cathod yn dwyn bwyd eu cŵn!

 

“Y nod yw cynyddu trosiant 140% dros y 12 mis nesaf. Fel rhan o’r strategaeth, byddaf yn mynychu ac yn noddi digwyddiadau, yng Nghymru ac yn Lloegr, yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’m brand, ac yn cynyddu a mireinio fy ymgyrchoedd hysbysebu ar Google AdWords a Facebook.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen