Mae’r cwbl yn dechrau gyda breuddwyd.

Dyna yw’r pennawd yn adran ‘Abigail’ o wefan goluro Abigail Hannah Makeup, ac mae’r freuddwyd ar hyn o bryd yn wir ar gyfer yr artist coluro a’r therapydd harddwch. Gyda dyddiadur sydd bron yn llawn yn gyson a chynlluniau i sicrhau ei hadeilad ei hun a recriwtio staff arbenigol, mae Abigail Hannah Makeup yn sicr yn fusnes sy’n datblygu.

Ar ôl cymryd y cam anferth o ddod yn entrepreneur ym mis Chwefror 2020, daeth y pandemig byd-eang a rhoi strocen dan bob olwyn. Fodd bynnag, nid oedd y fam i ddau yn barod i adael ei breuddwyd lithro o’i gafael, ac yn lle hynny gwnaeth y gorau o’i hamser i fireinio’r sgiliau a oedd eu hangen i redeg a datblygu eich busnes ei hun cyn ailagor pan laciodd y cyfyngiadau.

 

Abigial sitting in front of body length mirror on her IPhone

 

Dyma pryd yr oedd Cyflymu Cymru i Fusnesau a’r cynghorydd Leon Ingham yn ddefnyddiol, ac agorwyd llygaid Abigail i’r potensial yn ei busnes ei hun pe bai’r strategaeth gywir yn cael ei gweithredu.

“Yn sylfaenol, dywedodd Leon ‘dyma restr hir iawn o bethau i wella beth yr ydych chi’n ei wneud yn barod’,” meddai Abigail. “Syniadau allweddol oedden nhw na fyddwn i wedi meddwl amdanyn nhw fy hun.”

Gyda hyder a gafwyd gan gynllun gweithredu a luniwyd ochr yn ochr â Leon a Cyflymu Cymru i Fusnesau, trawsnewidiodd Abigail ei phresenoldeb ar-lein.

Eglurodd hi: “Roedd gen i wefan sylfaenol, rad ac am ddim, y cefais yn unig oherwydd fy mod yn gwybod fy mod angen rhywbeth. Yn awr, mae gen i wefan sy’n edrych yn fwy proffesiynol, ond yn bwysicach, gall pobl ddod o hyd imi ar eu peiriannau chwilio. Cefais fy nghyflwyno gan Leon i optimeiddio peiriannau chwilio (OPCh) ac mae fy safle yn awr yn ffynhonnell allweddol o ymholiadau ac archebion.

“Yn ychwanegol at hynny, rydw i wedi gosod system archebu, sy’n galluogi pobl i archebu ar-lein, yn lle bod yn rhaid i mi reoli hyn gyda llaw a chael y drafferth o sortio ddyddiadau ac amseroedd. “Roeddwn i’n cicio fy hun am beidio â’i wneud yn gynt.

“Roeddwn i’n cicio fy hun am beidio â’i wneud yn gynt.

“Mae hyn wedi cael gwared â llawer o straen ac mae wedi arbed llawer iawn o amser i mi, amser y gallaf ei dreulio gyda’m plant a’m ffrindiau. Mae’r buddion yn ymestyn y tu hwnt i’m cwmni at fy nheulu hefyd.”

Yn ogystal, cafodd Abigail ei chyflwyno i Google My Business, sy’n rhoi hwb i’w brand yn y canlyniadau chwilio, ynghyd â chyrsiau sy’n cael eu rhedeg gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, gan gynnwys uwch weithdy’r cyfryngau cymdeithasol.

Gyda mwy na 30 o archebion priodas yn 2021, dywedodd Abigail: “Sylwais fod mwy o ymholiadau a chwsmeriaid newydd yn cysylltu oddeutu mis ar ôl gwneud y newidiadau a awgrymwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Abigail is standing in front of a salon prep station surrounded by bottles of hair colour and general stock on her laptop

 

“Gwnaeth Leon i mi deimlo nad oedd unrhyw gwestiwn yn gwestiwn gwirion, a’i bod yn werthfawr cael rhywun i siarad gydag ef a oedd yn deall y weledigaeth yr oedd gen i ac eisiau fy helpu i gyflawni’r nod honno.

“Nid wyf yn meddwl y byddwn yn y sefyllfa hon yn awr heb y gefnogaeth a’r arweiniad gan Leon a Chyflymu Cymru i Fusnesau. Ymdriniwyd â phob mater bychan at y pwynt y gallwn ni ymgeisio am grant busnes.

“Yn fy marn i, roeddwn i’n meddwl mewn termau eithaf bychan ac y byddai’n cymryd llawer o amser i adeiladu’r busnes, ond gwnaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau wneud i mi sylweddoli’r potensial.” Ynglŷn ag uwch weithdy’r cyfryngau cymdeithasol, ychwanegodd Abigail, sy’n defnyddio Facebook ac Instagram: “Roedd yn gwrs gwych ar gyfer edrych ar y gwahanol blatfformau ac agor fy llygaid i’r strategaethau gorau, oherwydd bod yr hyn yr oeddwn i’n meddwl ei fod yn wir, ddim o angenrheidrwydd yn wir.

“Roedd yn ffantastig ar gyfer fy helpu i archwilio beth oedd pobl lwyddiannus eraill yn ei wneud, gweithredu’r darnau gorau a datblygu fy mhrosesau cyfryngau cymdeithasol go iawn.” Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ymestyn y tu hwnt i farchnata a hyrwyddo’r brand at gefnogaeth weithredol o ddydd i ddydd.

Ychwanegodd Abigail: “Yn ystod yr alwad ffôn ddwy awr, siaradodd Leon hefyd am wneud bywyd yn haws i mi yn nhermau defnyddio cymaint o offer ar-lein ag sy’n bosibl.

“Yn ogystal â’r system archebu ar-lein, rydw i’n defnyddio Xero yn awr ar gyfer cadw cyfrifon a chyfrifyddu, ac mae gen i system farchnata e-bost yr ydw i wedi’i gweithredu sy’n gysylltiedig â’m gwefan, ac sydd yn awr yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â thriniaethau newydd ar gyfer fy nghleientiaid.”

 

Abigail is facing a mirror looking at her laptop on her lap

 

Nid yn unig y mae’r cyhoedd wedi dechrau sylwi ar fusnes Abigail, ond mae ei thalentau wedi ennill cydnabyddiaeth iddi o fewn y diwydiant. Wedi’i henwebu ar gyfer Arbenigwr Colur Llawrydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Harddwch a Gwallt Cymru yn 2021, mae Abigail Hannah Makeup hefyd yn y ras ar gyfer y Busnes Harddwch Gorau yng Ngwobrau Busnesau Gorau Cymru 2022.

Mae dyddiadur llawn dop ac enwebiadau am wobrau yn ffantastig, ond gyda chefnogaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae Abigail wedi gosod nodau tymor byr a hirdymor iddi’i hun.

Ychwanegodd hi: “Mae gen i gynllun pum mlynedd, sy’n cynnwys adleoli i’m hadeilad fy hun, ac nid wyf yn dymuno gorfod symud, ac felly rydw i’n dymuno cael rhywle y byddaf yn berchen arno yn hytrach na rhentu. Hefyd, rydw i’n dymuno cael arbenigwr ym mhob un o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig fel bod popeth o dan yr unto, ac mae hyn yn golygu y bydd recriwtio yn digwydd.”

“Yn yr hirdymor, y nod yw ymddeol pan ydw i’n 45 oed, ac felly mae popeth yn y cynllun wedi ystyried hynny.

“Nid oeddwn erioed wedi disgwyl bod yn y sefyllfa hon. Rydw i’n parhau i gofio’r eiliad honno yn ystod fy ngradd ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru pan sylweddolais fy mod yn mwynhau’r gwaith tynnu lluniau yn fwy na dim arall.

“Pan ddarganfyddais beth yr oeddwn yn angerddol amdano, meiddiais freuddwydio.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen