Bydd staff sy’n cael cefnogaeth yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn perfformio’n well. Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i gefnogi eich staff drwy brofiadau anodd.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i ganfod bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu a deall canllaw Acas ar gyfer y maes hwn.
- Sut i ddelio â salwch staff o ddiwrnod cyntaf eu habsenoldeb. A’r camau fydd angen i chi eu cael ar waith i helpu staff ag anableddau.
- Deall mwy am Ymchwiliadau Disgyblu. Dysgu sut y gynnal y broses o’r dechrau i’w diwedd, canlyniadau posibl a beth fydd yn digwydd nesaf.
- Y pethau allweddol y dylech eu deall wrth ddelio ag achwynion yn y gweithle, gan gynnwys pa bryd y byddai dull anffurfiol yn fwy effeithiol.
- Deall y Ddeddf Cydraddoldeb, ac Aflonyddu Rhywiol yn y gweithle. Beth yn union yw eich cyfrifoldebau o ran ymddygiad derbyniol ac annerbyniol mewn amgylchedd gwaith.
- Dysgu sut y gall amgylchedd gwaith cefnogol leihau absenoliaeth a gwella morâl staff.
Yn syml, mewngofnodwch i roi cynnig ar y cwrs hwn. Heb eich cofrestru eto? Mae creu cyfrif yn hawdd.
Cwrs sampl
Heb gofrestru eto? Rhowch gynnig ar y cwrs sampl - Creu timau llwyddiannus.
Gweld cwrs samplEisiau gweld mwy o'n cyrsiau? Dilynwch y 3 cam hawdd i gofrestru cyfrif.
