- Sector:
- Retail
- Rhanbarth:
- Ceredigion
Mae’r hyn a ddechreuodd yn fusnes bach yn y brifysgol wedi ehangu’n fenter manwerthu newydd feiddgar i’r entrepreneur o Aberystwyth, Khalid Ameen Aslam. Mae ei frwdfrydedd tuag at ffasiwn glasurol wedi esblygu’n fusnes llawn amser a hynny gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru.
Dechreuodd y gŵr 24 mlwydd oed werthu dillad ail law wrth astudio ei radd meistr, a sylweddolodd yn fuan iawn bod yr hyn a ddechreuodd fel hobi gyda’r potensial i ddod yn rhywbeth mwy, a hynny oherwydd y cymorth a gafodd gan Syniadau Mawr Cymru.
Mae KB Retro, a agorodd ei ddrysau’n swyddogol ym mis Mawrth 2025, yn cynnig casgliad unigryw o hen ddillad cynaliadwy a ffasiynol, ac mae’r cwbl yn deillio o frwdfrydedd cynyddol Khalid tuag at hanes ffasiwn a’r economi gylchol.
Wrth siarad am ddatblygiad ei fusnes, dywedodd: “Dim ond trio gwneud ychydig mwy o arian wrth i mi astudio oeddwn i, sy’n gallu bod yn ddrud iawn. Ond dros amser, gwirionais ar ddod o hyd i ddarnau, dysgu am gyfnodau ffasiwn, a hyrwyddo dewisiadau cynaliadwy.
“Mae’r syniad sydd wrth wraidd y busnes yn syml, annog ffasiwn araf a dewisiadau cynaliadwy. Mae prynu dillad ail law yn helpu i leihau gwastraff ac yn lleihau effaith amgylcheddol y diwydiant ffasiwn, sef achos dw i’n teimlo’n gryf iawn drosto. Roeddwn i hefyd yn awyddus i weithio i fi fy hun.”
Mae Khalid yn dweud bod llawer o’i lwyddiant yn deillio o’r arweiniad a gafodd gan Syniadau Mawr Cymru. Cysylltodd am gymorth ym mis Medi 2024 a chafodd ei baru â’r Cynghorydd Busnes Caryl George, a chwaraeodd ran allweddol mewn troi ei syniad yn fenter go iawn.
Gyda chymorth Caryl, sicrhaodd Khalid y Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc, a alluogodd ef i sicrhau gofod manwerthu yn Aberystwyth a rhoi bywyd i KB Retro.
Bellach, mae’r siop yn ffynnu, yn cynnig popeth o hen grysau-t pêl-droed o’r 1980au i ddarnau cynllunydd moethus gan frandiau fel Carhartt, Stone Island, ac Arc’teryx. Gyda’r prisiau’n amrywio o £5 i £150, maent yn apelio i gyllidebau myfyrwyr a chasglwyr ffasiwn go iawn yn yr un modd.
Dywedodd Khalid: “Dw i’n falch o gael cynnig rhywbeth unigryw i’r dref. Roedd yna fwlch gwirioneddol yn y farchnad yma, ac roeddwn i am ei lenwi gyda rhywbeth a oedd hefyd yn cyd-fynd â fy ngwerthoedd.”
Gan edrych at y dyfodol, mae Khalid yn anelu at ehangu yn lleol ac ar-lein, ac yn gobeithio gweithio’n agosach â busnesau eraill yn Aberystwyth a gwella’r profiad siopa yno. Mae hefyd yn ymdrechu i feithrin presenoldeb ar-lein a fydd yn ei alluogi i dyfu y tu hwnt i Gymru a gwneud KB Retro yn enw hysbys ym mhob cwr o’r DU.
Dywedodd Caryl George, Cynghorydd Busnes Syniadau Mawr Cymru: “Daeth Khalid ata i â chysyniad gwych ond doedd o ddim yn siŵr sut i’w wireddu. Manteisiodd ar bob cyfle i ddysgu, tyfu a mireinio’i fusnes, ac rwyf wedi fy mhlesio pa mor sydyn mae wedi troi ei fusnes bach yn fusnes llawn amser, go iawn, llwyddiannus. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth sydd gan y bennod nesaf i'w chynnig iddo.”
Ydi hyn wedi dy ysbrydoli i ddechrau dy syniad busnes?
Chwilio am arweiniad?
Digwyddiadau diweddaraf
Un o'r trafferthion mwyaf sy’n wynebu perchnogion busnes newydd yw gwybod pa bris i’w roi ar eu...
Nid yw ymchwil marchnad yn ymwneud â gofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau a ydyn nhw’n hoffi’ch...
Gall creu rhagolwg llif arian ymddangos yn frawychus i rai, ond bydd Syniadau Mawr Cymru yn dangos...
Hunan-gyflogedig, cwmni cyfyngedig, unig fasnachwr; gall gwybod pa fath o berchennog busnes yr...