Eich straeon

Ffion McCormick Edwards

Barefoot.Tech
Ffion McCormick Edwards
Sector:
Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwchDiwydiannau CreadigolRetail
Rhanbarth:
Abertawe

Ar ôl ennill sawl cytundeb statws uchel a gwobrau cynaliadwyedd, mae dylunydd ifanc graddedig o Abertawe yn creu argraff gyda’i chasgliad ffasiwn. 

 

Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, sefydlodd Ffion McCormick Edwards ei busnes Barefoot.Tech dair blynedd yn ôl yn ystod y cyfnod clo, a hynny mewn ymgais i fynd i’r afael â’r holl hen siwtiau gwlyb nad oedd yn cael eu defnyddio rhag cael eu gyrru i safleoedd tirlenwi.  

 

Daw Ffion o deulu sy’n sgïo dŵr erioed, sy’n golygu bod yna wastad ddewis o siwtiau gwlyb wrth law. Wrth i sawl siwt wlyb fynd yn rhy fach iddi hi ac aelodau o’r teulu, dechreuodd Ffion feddwl am ddatrysiad cynaliadwy i ailddefnyddio ac ailbwrpasu’r ffabrig. 

 

Ailddefnyddiodd siwtiau gwlyb a siacedi achub i greu ei chasgliad blwyddyn olaf yn cynnwys bagiau, bagiau cefn a phyrsau ym Mhrifysgol Celf Bournemouth, cyn dychwelyd i Gymru a throi ei hangerdd yn fenter ar ôl graddio. 

 

Mae menter arloesol Ffion, a ddechreuwyd yn ystod y cyfnod clo, wedi ennyn diddordeb cleientiaid gan gynnwys baddonau rhew a phodiau adfer moethus Lumi Therapy, a Chanolfan Siwtiau Gwlyb Caerdydd. Mae hefyd mewn trafodaethau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn stocio ei chasgliad o fagiau sydd wedi cael ail bwrpas. 

 

Ar ôl cyfarfod ar hap yn ei ffair gynnyrch gyntaf yn y Mwmbwls, comisiynwyd Ffion i greu bag y gellid ei addasu ar gyfer Sue Kent, cyflwynydd Gardeners’ World y BBC, ar gyfer ei hanabledd braich uchaf.  

Dywedodd Ffion: “Nid yw hwn yn llwybr a ystyriais o’r blaen, ond fe wnes i wir fwynhau addasu fy nyluniadau i greu cynnyrch mor werth chweil, ac rwy’n ystyried ei ychwanegu’n barhaol at fy nghasgliad.” 

 

Mae ategolion Barefoot.Tech wedi’u gwneud o 80% neu uwch o ddeunyddiau siwtiau gwlyb neoprene wedi’u hadfer, a chânt eu stocio gan Ecoast yn Saundersfoot yn ogystal â bod ar gael ar wefan Barefoot.Tech.  

 

Yr haf diwethaf, enillodd Ffion wobr Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn yng Ngwobrau Pride Cymru Nation Radio, lle caiff unigolion tawel sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at eu cymunedau eu hanrhydeddu. 

 

Dywedodd Ffion: “Roedd yn golygu popeth i gael fy nghydnabod am ein cyfraniad i gynaliadwyedd, ond hefyd i fod yn cynrychioli busnesau bach, lleol. Cefais fy synnu fy mod wedi ennill, gan mai rhan fach iawn o’r byd busnes yw fy musnes i. Roedd cael fy newis o blith cannoedd o rai eraill a enwebwyd yn golygu cymaint.” 

 

Ers hynny, mae Ffion wedi creu hetiau bwced unigryw i Glwb Rygbi Glyn-nedd, tîm Pêl-rwyd Castell-nedd, ac mae brand rygbi blaenllaw wedi cytuno i ffurfio partneriaeth â Barefoot.Tech, gan gyflenwi ffabrig o hen beli i Ffion roi ail-bwrpas iddynt fel ategolion.  

 

A hithau’n rhoi rhywbeth bach yn ôl fel Model Rôl Syniadau Mawr Cymru, mae Ffion hefyd yn cynnal sgyrsiau ysbrydoledig ynghylch cynaliadwyedd gydag egin entrepreneuriaid mewn ysgolion a cholegau, gan gynnwys Coleg Merthyr, Ysgol Gyfun Pontarddulais ac Academi Ieuenctid Casnewydd. 

Mae Ffion bellach yn canolbwyntio ar ddylunio casgliad gaeaf Barefoot.Tech o fagiau ffasiwn-gyfeillgar ac eco ystyriol, gan gynnwys casgliad ar gyfer Lumi Therapy, wedi’i ail-lunio o ddeunyddiau o’u hen faddonau rhew.  

 

Mae ei phartneriaeth â’r Ganolfan Siwtiau Gwlyb yng Nghaerdydd yn debyg i Lumi Therapy, ac mae Ffion hefyd yn ail-bwrpasu hen siwtiau gwlyb y Ganolfan. Dywedodd Ffion: “Rwyf wedi fy synnu pa mor llwyddiannus yw fy mrand. Dydw i ddim wedi gorfod chwilio’n arw am brosiectau ac rwyf wrth fy modd hefo’r gwaith.  

 

“I fi, roedd y cyfnod clo yn fendith. Cefais yr holl amser i ganolbwyntio ar ddatblygu fy nghasgliad fy hun. Mae’n braf gweithio i fi fy hun, gan fy mod yn gallu trio pethau gwahanol ac yn gallu dweud ‘na’ os oes gen i ormod o waith, sy’n sefyllfa wych i fod ynddi.”  

 

Llwyddodd Ffion i ddechrau arni, diolch i gymorth gan Syniadau Mawr Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth ar gyfer unrhyw un dan 25 oed sydd eisiau datblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o’i ymrwymiad i’r Warant i Bobl Ifanc. 

 

Partner Ffion a soniodd wrthi gyntaf am Syniadau Mawr Cymru, ar ôl canfod y gwasanaeth ar-lein yng ngwanwyn 2022. Yna, mynychodd weithdy ar-lein wedi’i ariannu’n llawn gyda’r busnes o Gymru, Overseas Apparel. Sefydlwyd y busnes hwn hefyd gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, ac mae ganddynt siop yng nghanol Caerdydd.  

  

Dywedodd Ffion: “Roeddwn eisoes wedi graddio ac yn synnu bod y cynllun ar gael. Meddyliais yn syth ei fod yn gyfle gwych i ddechrau syniad busnes unrhyw un. Gwerthfawrogais yn fawr y cyngor ar nod masnach, treth yswiriant, cofrestru fel unig fasnachwr a chreu brand cymdeithasol. 

 

“Byddwn yn argymell i unrhyw berson ifanc yng Nghymru sydd â syniad busnes - mawr neu fach - i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru. Fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw, yn gweithio’n llawn amser fel entrepreneur hunan gyflogedig, heb eu cefnogaeth.” 

 

Dywedodd dîm Syniadau Mawr Cymru: “Pan ddaeth Ffion atom, roedd ganddi eisoes syniad busnes llwyddiannus a oedd wedi ymddangos mewn digwyddiadau sy’n diffinio’r diwydiant fel Wythnos Ffasiwn Llundain, a gwyddai y gallai gael effaith ar y diwydiant ffasiwn cylchol yma yng Nghymru.  

 

Yr hyn nad oedd ganddi oedd rhywun i gynnig cefnogaeth iddi gyda’r elfennau hanfodol o redeg busnes. Dyna yw ein pwrpas penodol yn Syniadau Mawr Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi Ffion wrth iddi ymgymryd â’r antur o entrepreneuriaeth.” 

Find out more
website: Barefoot.Tech

Business Wales are in no way responsible for 3rd party content

Ydi hyn wedi dy ysbrydoli i ddechrau dy syniad busnes?

Chwilio am arweiniad?


Digwyddiadau diweddaraf

Un o'r trafferthion mwyaf sy’n wynebu perchnogion busnes newydd yw gwybod pa bris i’w roi ar eu...

Nid yw ymchwil marchnad yn ymwneud â gofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau a ydyn nhw’n hoffi’ch...

Gall creu rhagolwg llif arian ymddangos yn frawychus i rai, ond bydd Syniadau Mawr Cymru yn dangos...

Hunan-gyflogedig, cwmni cyfyngedig, unig fasnachwr; gall gwybod pa fath o berchennog busnes yr...


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.