Eich straeon

Ben Jenkins

Bull-Ectrics
Ben Jenkins
Sector:
Adeiladu
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Bu i achos fu bron â digwydd yn ystod ei blentyndod sbarduno uchelgais hirhoedlog Ben Jenkins i fod yn drydanwr medrus. Mae bellach wedi dechrau ei fusnes ei hun, Bull-Ectrics. 

Mae’r gŵr 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr yn cofio tân fu bron â digwydd yng nghartref ei blentyndod, lle gosododd adeiladwyr gawod newydd er gwaethaf bwrdd ffiwsiau diffygiol. Mae’r syniad o’r hyn a allai fod wedi digwydd wedi aros yn ei feddwl byth ers hynny. 

Dywedodd Ben: “Dechreuais i fod yn eithaf paranoid wrth dyfu i fyny am ddiogelwch systemau trydanol. Mae’r profiad wastad yng nghefn fy meddwl, ac rydw i wastad yn ymwybodol y dylid gosod a defnyddio unrhyw fath o strwythur neu ddyfais yn ddiogel a chywir.” 

Roedd Ben wastad eisiau gweithio iddo’i hun ac, ar ôl yr ysgol, bu’n gwneud ychydig o hyfforddiant personol, a dechreuodd ei fusnes garddio ei hun. Gyda diddordeb brwd mewn trwsio dyfeisiadau, o bethau fel PlayStation i deledau a cheir ei ffrindiau hyd yn oed, penderfynodd astudio Diploma NVQ EAL Lefel 3 am 2 flynedd mewn Gosod Systemau Electrodechnegol yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot.  

Ar ôl cwblhau prentisiaeth drydanol, aeth Ben ymlaen i ddechrau Bull-Ectrics gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru sydd, fel rhan o Busnes Cymru, yn ceisio cefnogi unrhyw un dan 25 oed i ddatblygu syniad busnes, gan gynnwys myfyrwyr a graddedigion, fel rhan o’i hymrwymiad i’r Warant i Bobl Ifanc.  

 

Dywedodd: “Helpodd y tîm Syniadau Mawr Cymru fi i wneud cais am Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc, ac rwyf wedi buddsoddi’r arian i gael offer a gwisg. Rwyf wedi cael ychydig o swyddi ac wedi cwblhau dros 100 o gyrsiau Iechyd a Diogelwch yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.” 

Roedd Ben yn un o bron i 40 o entrepreneuriaid ifanc a fynychodd benwythnos preswyl Bŵtcamp i Fusnes 2024 ym mis Mawrth wedi’i ariannu’n llawn gan Syniadau Mawr Cymru. 

 

Dywedodd Ben: “Mae Bŵtcamp i Fusnes yn ddigwyddiad arbennig sy’n rhoi cyfle gwych i atgyfnerthu’r sylfeini ar gyfer dechrau busnes. Bu siaradwyr yn arwain drwy feysydd allweddol busnes ac yn rhoi arweiniad ar lywio’r byd busnes. 

Rwyf hefyd wedi elwa ar nifer o weminarau Busnes Cymru, gan gynnwys rheoli eich cyllid a’ch treth, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Ers hynny, rwyf wedi weirio tŷ haf, gweithio ar greu fy mhortffolio o brosiectau a fy mhroffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol.” 

 

 

Dywedodd Amanda Bordessa, Cynghorydd Busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae Ben yn llawn angerdd at y maes gwaith hwn, a chanddo ysbryd entrepreneuraidd go iawn. Mae wedi uwchsgilio ac wedi creu sylfaen gleientiaid ffyddlon. Rydym yn dal i gynnig cymorth mewn sawl agwedd ar redeg busnes, ac rydym yn hyderus yr aiff o nerth i nerth.” 

Ydi hyn wedi dy ysbrydoli i ddechrau dy syniad busnes?

Chwilio am arweiniad?


Digwyddiadau diweddaraf

Un o'r trafferthion mwyaf sy’n wynebu perchnogion busnes newydd yw gwybod pa bris i’w roi ar eu...

Nid yw ymchwil marchnad yn ymwneud â gofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau a ydyn nhw’n hoffi’ch...

Gall creu rhagolwg llif arian ymddangos yn frawychus i rai, ond bydd Syniadau Mawr Cymru yn dangos...

Hunan-gyflogedig, cwmni cyfyngedig, unig fasnachwr; gall gwybod pa fath o berchennog busnes yr...


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.