- Sector:
- Diwydiannau Creadigol
- Rhanbarth:
- Caerdydd
Mae gan yr entrepreneur a’r diddanwr, Stifyn Parri, dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol ac mae’n gweithio fel Cynhyrchydd Creadigol, Cyflwynydd, Ymgynghorydd a Mentor. Fel actor, mae wedi serennu fel Marius yn Les Misérables yn y West End yn Llundain, ac wedi chwarae rhan Christopher Duncan yn Brookside ar Channel 4, lle’r oedd yn rhan o’r gusan gyntaf rhwng cwpl hoyw ar deledu Prydain. Mae hefyd yn cyflwyno rhaglenni gemau ac yn cynnal rhaglenni sgwrsio.
Sefydlodd MR PRODUCER yn 2001 ac ers hynny mae wedi cynhyrchu rhai o ddigwyddiadau byw amlycaf Cymru, gan gynnwys Penwythnos Agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfer BBC Cymru, Cyngerdd Agoriadol ‘Welcome 2 Wales’ Cwpan Ryder yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer SKY 1 a Sky Arts, a Gala 50 Mlynedd Trychineb Aberfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gyda Michael Sheen, Bryn Terfel a Siân Phillips yn serennu.
Fe wnaeth Stifyn greu a rheoli’r Welsh and Sexy Society (SWS), cymdeithas gymdeithasol fyd-enwog i alltudion Cymreig, am dros 10 mlynedd, gan drefnu digwyddiadau yn Llundain, Sbaen, Efrog Newydd a Rwsia.
Mae uchafbwyntiau eraill ei yrfa yn cynnwys cyfweld Miriam Margoyles yn ei thaith lyfrau a werthodd yn llwyr a bod yn rhan o’r ffilm ‘Cardiff’ a enillodd wobrau. Yn ddiweddar bu’n gweithio ar ddwy raglen ddogfen ar gyfer BBC ac S4C a enillodd wobrau, yn dathlu pen-blwydd y Fonesig Siân Phillips yn 90 oed, yn ogystal â’i raglen bersonol ei hun, “Paid â Dweud Hoyw / Don’t Say Gay”, sy’n olrhain ei daith bersonol drwy’r 1980au. Cafodd ei enwebu ar gyfer y Cyflwynydd |Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru, ac fe enillodd ei raglen ddogfen wobr Celtic Media am yr un rhaglen. Mae wedi cyhoeddi ei hunangofiant, Allan a Fo!’/‘Out with it!’ Mae’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.