- Sector:
- Health care and complementary care
- Rhanbarth:
- Conwy
Sefydlais Happy Yoga Wales er mwyn gwneud Ioga a llesiant yn hygyrch, yn hwyl ac yn groesawgar i bawb - yn enwedig i’r rhai sy’n dechrau o’r newydd. Drwy Ioga, Ioga Chwerthin, Ioga Wyneb ac ymwybyddiaeth ofalgar, rwy’n cyflwyno sesiynau cyfeillgar sy’n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Yn ogystal â sesiynau byw, mae gwefan a sianel YouTube Happy Yoga Wales yn cynnig llyfrgell gyfoethog o adnoddau, gan gynnwys arferion ymwybyddiaeth ofalgar dan arweiniad a dosbarthiadau ioga y gellir eu dilyn, ynghyd â chyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb fel y Cwrs Ioga i Ddechreuwyr Llwyr.
Cyn dod yn entrepreneur amser llawn, roeddwn yn athrawes ysgol brysur gyda meddwl hynod weithgar - meddwl ADHD bywiog, yr wyf wedi ei ddiagnosio fy hun. Roedd Ioga ac arferion llesiant eraill wedi cael effaith drawsnewidiol ar fy mywyd, gan fy helpu i ganolbwyntio’n well a bod yn berson mwy presennol a hapus. Trwy fy ngwaith fel athrawes, roedd hi’n amlwg i mi fod llawer o bobl ifanc yn ei chael hi’n anodd gyda rheoli emosiynau, perthnasoedd cymdeithasol a delio â heriau bywyd.
Wrth weithio mewn ysgol breswyl annibynnol, gwelais effaith pwerus sgyrsiau anffurfiol gyda myfyrwyr yn ystod cyfnodau bugeiliol a gweithgareddau allgyrsiol. Ar yr un pryd, roeddwn yn adeiladu Happy Yoga Wales ochr yn ochr â’m swydd fel athrawes. Roedd rhai o’r myfyrwyr yn dilyn fy sianel YouTube ac yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein byr. Dywedon nhw wrtha i eu bod yn teimlo’n well - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Dyna’r foment wnaeth gadarnhau i mi mai dyma’r llwybr roeddwn ei eisiau.
Ym mis Medi 2023, cyflais y penderfyniad mawr i adael fy swydd fel athrawes a rhedeg Happy Yoga Wales yn llawn amser - penderfyniad nad wyf erioed wedi difaru. Roeddwn yn gwybod, drwy roi fy holl egni yn y busnes, y gallwn helpu mwy o bobl ifanc a chefnogi eu llesiant mewn ffordd ystyrlon.
Fel llawer o entrepreneuriaid, wynebais heriau ar hyd y ffordd - yn enwedig o ran peidio â ennill digon o arian i ddechrau. Dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi addasu’r hyn rwy’n ei gynnig ac wedi creu ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm. Un wers bwysig iawn rwyf wedi’i dysgu yw: os nad yw rhywbeth yn gweithio, mae’n iawn rhoi cynnig ar rywbeth arall. Pan lansiais gyrsiau pedair wythnos ym mis Tachwedd y llynedd i gynhyrchu ychydig mwy o incwm, ni fyddwn byth wedi dychmygu mai nhw fyddai fy mhrif ffynhonnell incwm.
Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw rhyddid. Rhyddid i weithio o unrhyw le yn y byd. Rhyddid i ddewis ble rwy’n rhoi fy egni. Pan nad wyf yn cyflwyno sesiynau byw, gallaf weithio ar dasgau gweinyddol fel ysgrifennu blogiau wrth eistedd yn yr haul, neu ffilmio cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, YouTube neu gyrsiau ar-lein. Gallaf weithio ar amser a chyflymder sy’n fy siwtio, a dewis cydweithio ag entrepreneuriaid a busnesau eraill er mwyn parhau i deimlo’n rhan o dîm.
Mae fy nhaith wedi dangos bod modd troi angerdd yn yrfa gynaliadwy. Gyda creadigrwydd, hyblygrwydd a’r dewrder i gamu ymlaen, mae’n bosibl creu busnes sy’n cefnogi nid yn unig eich dyfodol - ond eich llesiant hefyd.
Business Wales are in no way responsible for 3rd party content