- Sector:
- Diwydiannau CreadigolCyllid a Gwasanaethau ProffesiynolHealth care and complementary care
- Rhanbarth:
- Abertawe
Dechreuodd Nathan Rewise Learning yn 2008 ar ôl ei brofiad ei hun o gael trafferth yn yr ysgol, yn enwedig gyda gwaith adolygu. Cafodd ddiagnosis o ddyslecsia yn ddiweddarach yn y brifysgol, ychydig wythnosau cyn ei arholiadau terfynol. Gyda’r cymorth cywir, amser ychwanegol a llawer o waith caled, profodd iddo’i hun ei fod yn gallu llwyddo. Newidiodd y profiad hwnnw ei ffordd o weld addysg a daeth yn fan cychwyn i Rewise.
Crëwyd Rewise i wneud dysgu’n hwyl, yn ymarferol ac yn hygyrch i bobl ifanc nad ydynt bob amser yn ffynnu drwy addysg draddodiadol.
Mae Nathan wedi datblygu Rewise o fusnes newydd i gwmni addysg ac effaith gymdeithasol byd-eang, gwerth dros £1.5 miliwn, sy’n gweithio ledled y DU, Ewrop ac UDA gyda chleientiaid byd-eang gan gynnwys Airbus ac Equinor.
Mae’r cwmni’n creu prosiectau addysg sydd wedi ennill gwobrau, gweithdai, cyrsiau achrededig ac adnoddau dysgu sy’n cyfuno allgymorth cymdeithasol â datblygu sgiliau ymarferol. Mae Rewise yn gweithio gydag ysgolion, colegau, awdurdodau addysg, byrddau iechyd, busnesau, elusennau a sefydliadau’r llywodraeth i adeiladu rhaglenni dysgu sy’n ysbrydoli chwilfrydedd, hyder ac uchelgais.
Mae ei brosiectau’n defnyddio cerddoriaeth, technoleg, STEM, sgiliau digidol, y celfyddydau, codio, roboteg, arbrofion ymarferol a gweithgareddau creadigol i helpu pobl ifanc i ddysgu mewn ffyrdd sy’n teimlo’n ddiddorol ac yn berthnasol. Mae Rewise hefyd wedi creu rhaglenni ym meysydd datblygu gyrfa, newid hinsawdd, ymwybyddiaeth amgylcheddol, iechyd meddwl a lles, llythrennedd ariannol, troseddau cyllyll, atal trais ymhlith pobl ifanc a gweithredu cymdeithasol.
Mae dull Nathan yn seiliedig ar y gred y gall addysg a hyfforddiant ysgogi newid cymdeithasol. Nod Rewise yw helpu pobl ifanc i gymryd rheolaeth dros eu dyfodol drwy feithrin sgiliau, gwybodaeth a hunanhyder, tra hefyd yn helpu sefydliadau i greu gwerth cymdeithasol ystyrlon yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Drwy Rewise Foundation CIC, a sefydlwyd gan Nathan yn 2010, mae Nathan a’i dîm yn cyflwyno prosiectau cymunedol sydd wedi’u cynllunio i gael gwared ar rwystrau i bobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu anfantais, diffyg hyder, anghenion dysgu ychwanegol neu brofiadau blaenorol anodd o addysg. Y nod bob amser yw creu effaith gymdeithasol go iawn a helpu pobl ifanc i gredu eu bod yn gallu cymryd y cam nesaf.
Mae Nathan hefyd yn gyfarwyddwr sefydlu Surfability UK CIC, sefydliad syrffio addasol a chynhwysol sydd wedi’i leoli ym Mae Caswell ar Benrhyn Gŵyr. Mae Surfability yn helpu pobl ag anghenion ychwanegol oherwydd anabledd, salwch, anaf neu anawsterau dysgu i brofi syrffio’n ddiogel ac yn hyderus. Mae’n adlewyrchu’r un gwerthoedd sy’n rhedeg drwy waith Nathan gyda Rewise: cynhwysiant, creadigrwydd a dod o hyd i ffyrdd newydd o helpu pobl i gymryd rhan.
Y wers fwyaf y mae Nathan wedi’i dysgu ac y mae’n hoffi ei rhannu yw y gall ofn atal pobl cyn iddynt hyd yn oed ddechrau. Mae ei gyngor i unrhyw un sy’n ystyried dechrau busnes yn syml: cymerwch y cam cyntaf. Gweithiwch yn galed, chwiliwch am gymorth, gwrandewch ar bobl a daliwch ati. Unwaith y byddwch yn dechrau, daw cyfleoedd newydd i’r amlwg, ac mae pob un yn eich helpu i symud ymlaen.
Ei neges i bobl ifanc yw:
Os alla i wneud e, gallwch chi ei wneud hefyd. Ewch amdani.
Business Wales are in no way responsible for 3rd party content