- Sector:
- Diwydiannau Creadigol
- Rhanbarth:
- Wrecsam
Daethwn yn rhiant yn 18 oed, ac ar y pryd dywedwyd wrthyf na fyddwn yn gallu cyflawni’r hyn yr oeddwn ei eisiau mewn bywyd. Credais hynny. Cefais swydd mewn archfarchnad leol ac roeddwn yn meddwl mai dyna fyddai fy mywyd. Ond wrth weld fy mab yn tyfu, a gweld ei ffydd ynddo fi, newidiodd fy meddylfryd yn llwyr. Ef oedd fy ysbrydoliaeth fwyaf a’r rheswm imi benderfynu mynd ar ôl fy mreuddwydion.
Ar ôl cwblhau gradd mewn Theatr a PGCE, sylweddolais os nad oedd y cyfleoedd yn dod ataf i, gallwn i eu creu fy hun. Yn hytrach na throi cefn ar y byd creadigol, deuthum â’r diwydiant i Ogledd Cymru. Daethpwyd â chyd-raddedigion at ei gilydd a chynhaliwyd ein digwyddiad Dirgelwch Llofruddiaeth cyntaf - ac o’r fan honno, dechreuodd Black Box Events dyfu.
Heddiw, mae’r busnes yn cynnig profiadau adloniant unigryw ac arloesol, gan gynnwys Dirgelwch Llofruddiaeth a Gweinyddion Canu, ac yn darparu gwaith i tua 30 o berfformwyr lleol. Yn ogystal â digwyddiadau, rwy’n cynnal gweithdai ar berswadio, sgiliau cyflwyno a datblygu meddylfryd - gan helpu pobl eraill i fagu hyder a chredu yn eu potensial eu hunain.
Y peth gorau am fod yn fos arnaf fy hun yw’r rhyddid creadigol. Gallaf arbrofi, chwarae gyda syniadau, a dod â nhw’n fyw - tra’n cadw rheolaeth dros fy amser, fy lles, a chyfeiriad y busnes.
Un o’r heriau mwyaf rwyf wedi’i goresgyn yw fy meddylfryd fy hun. Ar un adeg, roeddwn wir yn credu na allwn gyflawni fy mreuddwydion - yn enwedig fel rhiant ifanc. Drwy wthio fy hun a herio’r credoau hynny, rwyf wedi profi fy mod i, ac eraill, yn anghywir.
Mae fy nhaith yn dangos, ni waeth ble rydych chi’n dechrau, gallwch chi adeiladu rhywbeth ystyrlon - os ydych chi’n credu ynoch chi’ch hun ac yn cymryd y cam cyntaf.
Business Wales are in no way responsible for 3rd party content