Modelau rôl

Jayne Brown

Jayne Brown Health & Fitness
Jayne Brown
Sector:
Health care and complementary care
Rhanbarth:
Merthyr Tudful

Am dros 15 mlynedd, mae Jayne wedi arwain anturiaethau sy’n newid bywydau ar draws y byd, gan arwain myfyrwyr rhwng 14 a 21 oed ar daith i ddarganfod heriau amgylcheddol, amrywiaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd, a phrosiectau corfforol ymarferol. Nid teithio yn unig yw’r profiadau hyn - maent yn ymwneud â meithrin gwydnwch, datblygu sgiliau bywyd, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i weld y byd mewn ffordd wahanol.

Ond dechreuodd stori Jayne lawer cyn yr anturiaethau hyn. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad fel athro cymwysedig a gyrfa ragorol yn y diwydiant chwaraeon, mae Jayne wedi rhedeg busnes llwyddiannus ers oedd yn 16 oed - bron i 40 mlynedd o ymdrech entrepreneuraidd a phenderfyniad. Mae’r cyfuniad unigryw hwn o addysg ac entrepreneuriaeth wedi creu llwyfan arbennig i rymuso pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.

Heddiw, mae Jayne yn gweithio’n agos gyda ysgolion a cholegau, gan ddarparu rhaglenni sy’n mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. O hyfforddiant chwaraeon i astudiaethau busnes, paratoi ar gyfer cyfweliadau i adeiladu tîm, mae pob sesiwn wedi’i chynllunio i roi sgiliau ymarferol a hyder i ddysgwyr ar gyfer y dyfodol.

Y tu ôl i’r profiad helaeth hwn mae rhestr drawiadol o gymwysterau: PGCE, Lefel 2 WRU, cymorth cyntaf awyr agored, diogelu, gwaith ieuenctid, a chymwysterau asesu, i enwi dim ond rhai. Mae’r sgiliau hyn yn sicrhau bod pob antur a gweithdy nid yn unig yn ysbrydoledig ond hefyd yn ddiogel, wedi’i strwythuro, ac yn effeithiol.

I Jayne, mae’r daith bob amser wedi bod am fwy na thicio blychau - mae’n ymwneud â rhyddhau potensial. Boed yn cerdded trwy dirweddau anghysbell neu’n mentora myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth, mae Jayne yn profi bod arweinyddiaeth, addasrwydd, a brwdfrydedd yn gallu agor drysau i gyfleoedd eithriadol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.