Role model

Dafydd Emyr

Actor & 'Scoot in the Boot'
Dafydd Emyr
Sector:
Diwydiannau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rwyf hefyd yn actor, awdur a chyflwynydd ac felly mae gen i sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cymraeg yw fy iaith gyntaf a'm mamiaith. (Roedd fy ngradd prifysgol yn y Gymraeg ac rwy'n gyfieithydd proffesiynol – o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg.)

Ar gyfer twf llwyddiannus fy nghwmni Scoot in the Boot roedd yn rhaid i mi ddyfeisio a datblygu fy strategaeth farchnata fy hun. Gan ganolbwyntio ar ddarpar gwsmeriaid, roedd yn cynnwys dylunio gwefannau, taflenni, cardiau, hysbysebion ar radio a theledu. Roedd yn rhaid i mi hefyd wneud llawer o rwydweithio a chyflwyno i unigolion, gwestai a bwytai, ac ati.

Rwyf hefyd wedi datblygu sgiliau trefnu da iawn dros y blynyddoedd.  Fel cyfarwyddwr fy nghwmni fy hun roedd yn rhaid i mi redeg fy swyddfa fy hun, cadw cyfrifon, ffeilio cofnodion ar gleientiaid a chyflwyno cyfrifon ariannol yn flynyddol.

Fel y soniwyd o'r blaen, rwy'n actor, awdur a chyflwynydd llawrydd. Rwyf wedi ymddangos mewn rhaglenni di-ri gan gynnwys Casualty, Doctor Who, Eastenders, The Dot Story, Da Vinci's Demons, Pobl y Cwm, Lleifior, Rownd a Rownd, Y Sŵn ac ati. Rwyf wedi ysgrifennu pum drama radio ar gyfer y BBC a phantomeimiau a sioeau Nadolig di-ri ar gyfer y theatr. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.