Case Study, Document

Gweithgaredd 8: Gallwn ei wneud

Is Gynradd - Datblygu gwaith tîm drwy wneud cynnyrch

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 12 Mai 2026
Download document: 18.62 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan dysgu 

Datblygu gwaith tîm drwy wneud cynnyrch. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth 

Cysylltiadau 

Cyfathrebu 

Gweithio gydag eraill 

Trefniadaeth

Rheoli adnoddau

Gweithgareddau Dysgu   

Fel dosbarth trafodwch “ Sut ydym am wneud y cynnyrch?” 

Cyflwynwch gysyniadau adnoddau a chynhyrchion. 

Eglurwch bwysigrwydd gweithio gyda’i gilydd a gwerth pob unigolyn o fewn y tîm. 

Mewn grwpiau, cytunwch a dynodwch dasgau a pharthau gwaith i unigolion neu grwpiau, gan bwysleisio eu rôl yn y tîm. Bydd hyn yn dibynnu ar y cynnyrch sy’n cael ei ddewis ond fe allai gynnwys trefniant llinell gynhyrchion e.e. torri, cyd-osod, pecynnu. 

Casglwch ynghyd a threfnwch yr adnoddau mae eu hangen a gofynnwch i’r disgyblion cydweithredu i wneud prototeip o’r cynnyrch. 

Gofynnwch i’r disgyblion drafod beth maent yn hoffi ei wneud orau a sut fydden nhw’n rhannu’r tasgau yn wahanol y tro nesaf a pha newidiadau os oes rhai, sydd angen i wneud cynnyrch o ansawdd. 

Gofynnwch i’r disgyblion ystyried: 

  • Beth ydym angen i wneud ein cynnyrch/darparu ein gwasanaeth? 
  • Pa eitemau sydd gennym eisoes? 
  • Pa bethau allwn ni eu hailgylchu neu eu cael am ddim? 
  • Beth fyddwn angen ei brynu? 
  • Ble fydd ein gweithle? 
  • Pa bryd fyddwn yn gweithio ar ein prosiect? (yn y dosbarth, amser cinio, ar ôl ysgol). 
  • Pwy allwn gael i’n helpu? (rhieni, athrawon/disgyblion eraill). 

Canlyniad dysgu 

Bydd disgyblion wedi cael profiad o weithio mewn grwpiau bach i gwblhau tasg. 

Adnoddau sydd eu hangen 

Deunyddiau (yn dibynnu ar y cynnyrch) 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Meysydd Dysgu a Phrofiad 

Gwyddoniaeth a thechnoleg 

Mae syniadau dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ateb anghenion a gofynion cymdeithas. 

2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

Siarad 

Ymddiddan cydweithredol 

Cwestiynu 

Rhifedd 

Llythrennedd rhifedd

Download document: 18.62 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.