Guidance, Document

Gweithgaredd 1: Beth sy'n digwydd yn lleol?

Cynradd Is - Rhoi cyfle i blant ymchwilio i’r amrywiaeth o swyddi yn eu hardal a’u helpu i ddeall y gwaith mae pobl yn ei wneud

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 11 Mai 2026
Download document: 19.77 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan Dysgu 

Rhoi cyfle i blant ymchwilio i’r amrywiaeth o swyddi yn eu hardal a’u helpu i ddeall y gwaith mae pobl yn ei wneud. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth 

Trefniadaeth

  • Cyfathrebu 
  • Ymchwil - deall yr amgylchedd 

Gweithgareddau Dysgu 

Defnyddiwch gyflwyniad PowerPoint i ddangos pobl yn gwneud gwahanol fathau o swyddi. 

Yng nghyswllt pob llun, gofynnwch i’r disgyblion enwi’r swydd a thrafod ble mae’r person yn gweithio, a ble’n berthnasol, y gwasanaeth a ddarperir. Mae hwn yn gyfle da i herio stereoteipio’r rhywiau a hybu cydraddoldeb y rhywiau. 

Eglurwch fod llawer o’r bobl yma yn gweithio i berson arall h.y. maent yn gyflogedig. Gofynnwch i’r disgyblion 

  • Beth yw rhai o’r pethau da ynglyn â chael eich cyflogi? 

Cyflwynwch gysyniad bod yn ‘hunangyflogedig’. Gofynnwch i’r disgyblion

  • Beth yw’r rhai o’r pethau da ynglyn â bod yn hunangyflogedig? 

Gwahoddwch bobl gyfarwydd i mewn i’r dosbarth e.e. swyddog cyswllt ysgolion swyddog yr heddlu, nyrs yr ysgol, dyn tân er mwyn i’r disgyblion gael gofyn cwestiynau am swydd yr ymwelydd. 

Os yn bosib, ymwelwch ag ardal leol er mwyn i’r disgyblion gael gweld a chofnodi pobl yn gwneud swyddi gwahanol.

Gwnewch gynllun syml o’r ardal leol i ddangos ble mae pobl yn gweithio a’r mathau o swyddi maent y eu gwneud neu’r gwasanaeth maent yn darparu. 

Gofynnwch i’r plant pa un o’r swyddi yma fuasent yn hoffi ei wneud a pham? 

Canlyniad dysgu 

Bydd y disgyblion yn gallu adnabod gwahanol fathau o waith mae pobl yn ei wneud yn eu hardal leol. 

Adnoddau sydd eu hangen 

  • Map o’r ardal leol 
  • Camera digidol 
  • Bwrdd gwyn Rhyngweithiol 
  • Deunyddiau celf 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Meysydd Dysgu a Phrofiad 

Dyniaethau 
  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol. 
  • Mae dinasyddion hunanymwybodol gwybodus yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth ac yn gallu cymryd camau moesol, ystyriol. 
2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd 
Llythrennedd 
Siarad 
  • Ymddiddan Cydweithredol 
  • Cwestiynu 
Gwrando 
  • Gwrando er mwyn deall 
  • Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol
Download document: 19.77 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.