Cyfarwyddyd

Dod yn Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesa o entrepreneuriaid

Mae ein modelau rôl yn bobl fusnes go iawn gyda straeon ysbrydoledig sy'n dal dychymyg pobl ifanc ac yn cyfleu'r realiti o fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Maent yn rhannu eu brwdfrydedd dros greadigrwydd a llwyddiant, gan helpu pobl ifanc i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol. 

Trwy ymuno â'n rhwydwaith Syniadau Mawr Cymru fel model rôl, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Cymru, gan eu hannog i agor eu meddyliau i syniadau a chyfleoedd newydd trwy entrepreneuriaeth a busnes. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich stori entrepreneuriaeth bersonol a'ch cefnogi drwy'r ffordd.    

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd diwethaf:
3 Rhagfyr 2024

Contents

Beth fyddwch chi'n ei wneud:

  • Cyflwyno Gweithdai Ysbrydoledig: Ymgysylltu â grwpiau oedran gwahanol drwy adrodd straeon a gweithgareddau mewn sesiynau awr mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a grwpiau cymunedol.
  • Rhannu Eich Taith: Darllenwch trwy broffiliau modelau rôl cyfredol i weld yr ystod amrywiol o berchnogion busnes yn ein rhwydwaith.

Pam ymuno â ni?

  • Hyrwyddo Entrepreneuriaeth: Helpu i godi ymwybyddiaeth a herio canfyddiadau o fusnesau newydd.
  • Gwneud Gwahaniaeth: Annog pobl ifanc ledled Cymru i archwilio syniadau a chyfleoedd newydd.   

Sut i wneud cais:

  • Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith, cysylltwch â ni a byddwn mewn cysylltiad.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.