Digwyddiadau

Wythnos Tri – Eich gwerthu eich hun a Gwerthu eich cynnyrch (modiwl siarad cyhoeddus)

Bydd y weminar hon yn sôn am y modd y gallwch eich gwerthu eich hun a’ch cynnyrch/gwasanaeth. Er bod siarad yn gyhoeddus yn ddigon â chodi ofn ar bobl yn aml, mae’n sgìl gwych i’w gael os ydych yn awyddus i ddechrau eich busnes eich hun. Pa un a fyddwch yn mynychu digwyddiad rhwydweithio neu’n siarad â darpar gwsmeriaid, mae yna ddigonedd o ffyrdd y gall Syniadau Mawr Cymru eich helpu i feithrin eich sgiliau fel siaradwr.
Dyddiad y digwyddiad:
Dyddiad ac amser:
- + other dates
Lleoliad:
Ar-lein

Trosolwg o’r digwyddiad

Wythnos Tri - Bydd y weminar hon yn sôn am y modd y gallwch eich gwerthu eich hun a’ch cynnyrch/gwasanaeth. Er bod siarad yn gyhoeddus yn ddigon â chodi ofn ar bobl yn aml, mae’n sgìl gwych i’w gael os ydych yn awyddus i ddechrau eich busnes eich hun. Pa un a fyddwch yn mynychu digwyddiad rhwydweithio neu’n siarad â darpar gwsmeriaid, mae yna ddigonedd o ffyrdd y gall Syniadau Mawr Cymru eich helpu i feithrin eich sgiliau fel siaradwr.

  •           Gwybod sut i’ch cyflwyno eich hun gerbron cynulleidfaoedd.
  •         Datblygu sgiliau a strategaeth ar gyfer teimlo’n ddigynnwrf dan bwysau.
  •           Bod yn hyderus yn eich gallu i’ch trafod eich hun, eich busnes a’ch cynnyrch/gwasanaeth.
  • Cael tystysgrif am gwblhau’r modiwl hwn ar gyfer eich portffolio Syniadau Mawr Cymru.

Amodau arbennig

  • Rhaid i chi fod rhwng 18-25 oed
  • Rhaid eich bod chi'n meddwl am ddechrau busnes neu wedi dechrau'n ddiweddar
  • Rhaid bod yn byw neu'n astudio yng Nghymru, ac yn bwriadu dechrau'r busnes yng Nghymru.

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Siaradwr Manylion archebu
Llun, 27 Ebr 2026 5:30yp - 6:30yp Ar-lein FREE
- Archebu ar-lein
Maw, 5 Mai 2026 10:30yb - 11:30yb Ar-lein FREE
- Archebu ar-lein

Cyswllt

Enw:
enquiries@bigideaswales.com

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh


Digwyddiadau diweddaraf

Bydd y weminar hon yn sôn am y modd y gallwch eich gwerthu eich hun a’ch cynnyrch/gwasanaeth. Er bod...

Wythnos Pedwar - Mae arwain yn feddylfryd y gellir ei ddysgu er mwyn eich galluogi i bennu eich...

Mae'n hawdd tybio bod brand a brandio yr un peth, ond mae hwn yn gamsyniad cyffredin. Cofiwch fod...

Yn y byd sydd ohoni, mae gennym ddigonedd o ddolenni, delweddau a chynnwys ar-lein felly yn aml gall...


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.