- Dyddiad y digwyddiad:
- Dyddiad ac amser:
- Lleoliad:
- Ar-lein
Trosolwg o’r digwyddiad
Ydych chi dan 25 ac yn ystyried dechrau busnes chi eich hun? Gallech fod yn gymwys am y Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc!
Mae’r grant yn cynnig hyd at £2,000 i bobl ifanc ddechrau eu busnes yng Nghymru. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth un-i-un gan gynghorydd busnes yn ogystal â gweminarau i fagu hyder mewn arferion busnes ac arweiniad i ddatblygu cynllun busnes. Gellid defnyddio’r grant i dalu am gostau hanfodol cychwyn busnes fel marchnata, cyngor cyfreithiol, hyfforddiant neu offer
Gallech fod yn gymwys os ydych: Dan 25; a,
Ddim mewn addysg, hyfforddiant, cyflogaeth; neu, Yn gweithio’n rhan amser ar hyn o bryd (o dan 16 awr) ac yn bwriadu dod yn hunangyflogedig yn llawn amser; neu,
Dal mewn addysg ond yn bwriadu bod yn hunangyflogedig o fewn 3 mis o gwblhau eich cwrs.
Mae rhagor o wybodaeth am y grant ar gael yma:
https://businesswales.gov.wales/bigideas/
cy/grant-dechrau-busnes-pobl-ifanc
Bydd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg i chi o’r grant, pwy sy’n gymwys, ar gyfer beth y gellir defnyddio’r arian, sut olwg sydd ar y broses ymgeisio a sut y gallwn eich cefnogi gyda’r broses ymgeisio a thu hwnt. Nod y gweminar yw eich helpu i benderfynu a yw'r grant ar eich cyfer chi, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Amodau arbennig
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Siaradwr | Manylion archebu |
|---|---|---|---|---|---|
| Iau, 9 Ebr 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Mer, 15 Ebr 2026 | 5:30yp - 6:30yp | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Llun, 20 Ebr 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Mer, 29 Ebr 2026 | 5:30yp - 6:30yp | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Mer, 6 Mai 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Iau, 14 Mai 2026 | 5:30yp - 6:30yp | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Mer, 20 Mai 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Maw, 26 Mai 2026 | 5:30yp - 6:30yp | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Iau, 4 Meh 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Maw, 9 Meh 2026 | 5:30yp - 6:30yp | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Mer, 17 Meh 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Mer, 24 Meh 2026 | 5:30yp - 6:30yp | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Gwen, 3 Gorff 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Iau, 9 Gorff 2026 | 5:30yp - 6:30yp | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
| Iau, 16 Gorff 2026 | 10:30yb - 11:30yb | Ar-lein |
FREE |
- | Archebu ar-lein |
Cyswllt
- Enw:
- startup@businesswales.org
- Ebost:
- startup@businesswales.org
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Digwyddiadau diweddaraf
Bydd y weminar hon yn sôn am y modd y gallwch eich gwerthu eich hun a’ch cynnyrch/gwasanaeth. Er bod...
Wythnos Pedwar - Mae arwain yn feddylfryd y gellir ei ddysgu er mwyn eich galluogi i bennu eich...
Mae'n hawdd tybio bod brand a brandio yr un peth, ond mae hwn yn gamsyniad cyffredin. Cofiwch fod...
Yn y byd sydd ohoni, mae gennym ddigonedd o ddolenni, delweddau a chynnwys ar-lein felly yn aml gall...