- Dyddiad y digwyddiad:
- Gweithdy
- Dyddiad ac amser:
- Lleoliad:
- Stondin 918 + other venues
Trosolwg o’r digwyddiad
Syniadau Mawr Cymru yn Eisteddfod Y Garreg Las - Stondin 918
P'un a ydych yn ystyried dechrau busnes, yn datblygu syniad newydd, yn awyddus i dyfu busnes presennol, neu'n chwilfrydig am hunangyflogaeth, bydd ein tîm wrth law drwy'r wythnos i gynnig cyngor, arweiniad ac ysbrydoliaeth. Galwch heibio unrhyw bryd i drafod eich syniadau, gofyn cwestiynau a chael gwybod am y cymorth a'r gefnogaeth am ddim sydd ar gael drwy Syniadau Mawr Cymru.
Yn ogystal â'n gweithgareddau, paneli a gweithdai dyddiol, cewch gyfle i gwrdd ag entrepreneuriaid llwyddiannus, modelau rôl ac arbenigwyr busnes o bob cwr o Gymru.
Beth sy'n Digwydd yr Wythnos Hon
Dydd Sadwrn 1 Awst - Dathlu Llwyddiant Busnes yng Ngorllewin Cymru
Arddangosfa o fusnesau lleol a phanel Holi ac Ateb am 11yb gyda CRWST, Cris Tomos a Hair Syrup.
Dydd Sul 2 Awst - Gwneud Busnes yn y Ffordd Gymreig
Ymunwch â ni am banel arbennig am 1yp i drafod manteision defnyddio'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn busnes, gyda Megan Llŷn, Angharad Gwyn a Pen Wiwer.
Dydd Llun 3 Awst - Creu Brand Hawdd ei Gofio
Dysgwch sut i ddatblygu brand cryf, gyda sesiwn arbennig ar TikTok a Riliau Instagram gyda Gareth yr Orangutan rhwng 10:30yb a 12:00yp.
Dydd Mawrth 4 Awst - Mantais AI: Gweithio'n Ddoethach, Tyfu'n Gynt
Archwiliwch sut y gall technoleg ddigidol, AI, e-fasnach a seiberddiogelwch helpu eich busnes i dyfu. Yn cynnwys Profiad VR a sesiwn AI mewn Busnes am 1yp gyda'r model rôl Ioan Hefin.
Dydd Mercher 5 Awst - Graddio i Gampusrwydd. Beth Sydd Nesaf i Chi?
Clywch gan raddedigion sydd wedi troi syniadau'n fusnesau llwyddiannus a darganfyddwch gyfleoedd hunangyflogaeth. Panel graddedigion am 11yb gyda Lleucu Ifans a Megan Llŷn.
Dydd Iau 6 Awst- Datgarboneiddio fel Sylfaen i Lwyddiant Cynaliadwy
Dysgwch sut y gall cynaliadwyedd gefnogi twf eich busnes, gyda sesiwn Holi ac Ateb Ynni Glân am 1yp gydag Aled Vaughan Owen.
Dydd Gwener 7 Awst - Creadigrwydd sy'n Ysgogi Twf
Dewch i ddarganfod cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol a chlywed gan yr entrepreneur Ifan Davies mewn sesiwn Holi ac Ateb.
Dydd Sadwrn 8 Awst - Creu Effaith fel Model Rôl neu Fentor
Dysgwch sut y gallwch gefnogi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid fel model rôl neu fentor Syniadau Mawr Cymru. Galwch heibio drwy gydol y dydd i gael gwybod mwy.
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Siaradwr | Manylion archebu |
|---|---|---|---|---|---|
| Sad, 1 Aug 2026 | 11yb - 12yp | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
| Sul, 2 Aug 2026 | 1yp - 2yp | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
| Llun, 3 Aug 2026 | 10:30yb - 12yp | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
| Maw, 4 Aug 2026 | 1yp - 2yp | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
| Mer, 5 Aug 2026 | 11yb - 12yp | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
| Iau, 6 Aug 2026 | 12yp - 1yp | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
| Gwen, 7 Aug 2026 | All day | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
| Sad, 8 Aug 2026 | All day | Stondin 918 |
FREE |
- | N/A |
Cyswllt
- Enw:
- Syniadau Mawr Cymru
- Ebost:
- ymgysylltiad@busnescymru.org
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Digwyddiadau diweddaraf
Dewch i'n gweld ar Stondin 918 drwy gydol yr wythnos. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am eich...
Hunan-gyflogedig, cwmni cyfyngedig, unig fasnachwr; gall gwybod pa fath o berchennog busnes yr...
Yn ystod wythnos olaf y rhaglen, byddwn yn crynhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu a'i gyflawni a bydd yn...
Ni fydd angen miloedd o bunnoedd ar bob syniad busnes i’w gychwyn ond mae bob amser yn ddefnyddiol...