Digwyddiadau masnach teithio
Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i fod yn rhan o stryd Cymru yn Sioe British Tourism & Travel Show (BTTS) (Saesneg yn unig) rhwng 19-20 Mawrth 2025, NEC, Birmingham.
Dyma gyfle i chi ddangos eich brand i weithredwyr teithiau coets, cyfanwerthwyr a threfnwyr teithio grŵp yn ystod digwyddiad masnach deithio mwyaf y DU.
BTTS
- Mae’r sioe wedi ennill ei blwyf fel y digwyddiad busnes mwyaf yn niwydiant twristiaeth ddomestig Prydain ac Iwerddon ers dros 20 mlynedd.
- Prif digwyddiad diwydiant teithio arweiniol ym Mhrydain ac Iwerddon.
- Mae yn denu rhyw 3,000 o ymwelwyr gyda’r gallu i brynu.
- Yr unig digwyddiad diwydiant teithio o’r fath yma i’w gynnal yn yr NEC.
- Mae'n dod â gwestai, atyniadau a chyrchfannau ynghyd i weithio gyda phobl allweddol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau o ran trefnu gwyliau a theithiau.
Gallwch gwrdd â:
- Cwmnïau bysiau
- Trefnwyr teithiau
- Trefnwyr teithiau grŵp
- Asiantaethau teithio
Cyfanwerthwyr
Trefnwyr addysg ac ieuenctid
- Trefnwyr digwyddiadau chwaraeon
Mentrau unigryw yn y sioe:
Rhaglen Brynu ar gyfer Gwesteion Pwysig
Gan weithio'n agos gyda phartneriaid ac arddangoswyr
- mae'r sioe yn cynnal proses gymhwyso gadarn sy'n golygu bod yn rhaid i brynwyr fodloni meini prawf trylwyr.
Mae hyn felly yn sicrhau eich bod yn cwrdd â'r bobl a all wneud gwahaniaeth i'ch busnes.
Trefnu Cyfarfodydd
- Gall pob arddangoswr fanteisio ar y dechnoleg hon yn rhad ac am ddim.
- Cewch gysylltu â phrynwyr cyn y sioe a gofyn am gyfarfod â nhw er mwyn llenwi eich dyddiadur.
- Mae'r rheini sy'n trefnu cyfarfodydd ymlaen llaw yn dueddol o gael mwy o fudd o'r digwyddiad.
Mae Croeso Cymru wedi neilltuo lle ar gyfer 9 pod fel rhan o bafiliwn Cymru ac wedi llwyddo i gytuno ar y gyfradd a ganlyn gyda'r trefnwyr:
- Cyfanswm y gost am un pod ar gyfer partneriaid: £1,650.00 + TAW
- Dewis ar gyfer 2 bartner ar y mwyaf i rannu pod a'r gost: £825.00 + TAW
Noder nad yw'r gost hon ar gyfer partneriaid yn cynnwys costau teithio a chynhaliaeth. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae'r pecynnau yn cynnwys:
- Celfi: cwpwrdd, 2 stôl
- Bwrdd graffig – gwaith celf i'w ddarparu gan yr arddangoswr. Os ydych yn dymuno, gallwch ddod â’ch standiau baner eich hun ar gyfer eich ardal 2 fetr x 2 fetr yn lle darparu gwaith ar gyfer argraffu byrddau graffig.
- Bwrdd ffasgia ar gyfer enw'r cwmni
- Golau a charped
- Mae Wi-fi AM DDIM ar gael yn y neuadd.
Pwy ddylai arddangos?
Cyflenwyr twristiaeth sy'n dymuno gweithio gyda'r diwydiant teithio, gan gynnwys:
- Gwestai
- Atyniadau i ymwelwyr
- Darparwyr profiad
- Cwmnïau marchnata cyrchfannau
- Lleoliadau chawaraeon
- Theatrau
- Arbenigwyr lleol
- Darparwyr trafnidiaeth
Pam arddangos?
- Hyrwyddo eich sefydliad i gynulleidfa barod
- Cwrdd, a chreu cysylltiadau â darpar gwsmeriaid
- Cryfhau perthnasau â’ch cwsmeriaid presennol
- Codi ymwybyddiaeth o’ch brand yn y farchnad
- Bod yn bresennol ymhlith eich cystadleuwyr
- Adeiladu eich rhwydwaith a datblygu partneriaethau newydd
I archebu lle
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i'r sioe, cysylltwch â Lloyd Jones ar 01733 889684 neu anfonwch e-bost at ljones@divcom.co.uk. Os ydych yn mynd i'r sioe, rhaid bod rhywun yn bresennol yn eich pod ar y ddau ddiwrnod, gyda 2 berson ar y mwyaf ar unrhyw adeg.
Os hoffech wybod mwy am bafiliwn Croeso Cymru, cysylltwch â Tracey Rogers ar 0300 061 6093 neu anfonwch e-bost i: tracey.rogers@llyw.cymru
Digwyddiad ar gyfer y diwydiant teithio yn unig yw BTTS ac ni fydd cyfle ichi gwrdd yn uniongyrchol â defnyddwyr. Rhaid bod gennych gynnyrch sy'n ymwneud â'r diwydiant teithio a rhaid ichi gynnig cyfraddau’r diwydiant (comisiwn/cyfraddau net). Rhaid bod unrhyw ddarparwr llety sy'n dymuno arddangos ei gynnyrch wedi'i raddio o dan gynllun sicrhau ansawdd yr AA neu Croeso Cymru. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.